Diweddariad Tîm – Awst/Medi 2021
Dyma ddiweddariad gan Dîm Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer mis Awst a Medi 2021.
Diweddariadau
Gweithgorau
Cychwynnwyd wyth gweithgor ym mis Medi.
Mae’r blog hwn yn cynnwys manylion ynglŷn â phob grŵp, a’r hyn yr ydyn ni’n canolbwyntio arno. Rydym yn falch iawn bod dros 200 o bobl wedi ymuno â’r gweithgorau hyn, sy’n cynrychioli pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda swyddogion o Data Cymru hefyd yn rhan o rai o’r grwpiau.
Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad
Rydym erbyn hyn wedi gwneud cynnydd da gyda Alffa’r System Rheoli Dysgu.
Mae Sarah, ein Rheolwr Cyflawni ar y prosiect hwn, wedi bod yn blogio am gynnydd y prosiect ar ôl pob sbrint, gallwch ddod o hyd iddynt ar ein gwefan.
Mae gan y prosiect hwn gynrychiolwyr o bob awdurdod lleol, ac mae nifer o feysydd gwasanaethau ym mhob awdurdod lleol wedi ymgysylltu’n wych yn y prosiect.
Darganfod Llyfrgell Delweddau
Rydym newydd gwblhau darganfyddiad ynglŷn â’r gofynion ar gyfer llyfrgell delweddau a rennir, ar gyfer pob awdurdod lleol. Rydym wedi cynnal gwaith ymchwil defnyddwyr gyda thimau cyfathrebu, marchnata, y we a digidol.
Rydym wrthi’n gweithio drwy’r argymhellion er mwyn symud y prosiect i gyfnod Alffa. Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn ystyried a fydd hyn yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru neu os bydd cyfnod nesaf y prosiect yn canolbwyntio ar lywodraeth leol yn unig.
Digwyddiadau
Rydym yn parhau i gynnal digwyddiadau ‘cwrdd’ yn fisol, yn ogystal â sesiynau ‘dangos-a-dweud’ rheolaidd.
Er mwyn gweld y digwyddiadau rydym wedi’u cynnal, neu i gofrestru ar gyfer unrhyw digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i’n tudalen Eventbrite.
Recriwtio ac ymestyn ein tîm
Rydym yn cyfweld, yn ystod yr wythnos yn dechrau 11 Hydref, er mwyn ychwanegu ychydig mwy o bobl at ein tîm, gan gynnwys swydd newydd Dylunydd Cynnwys.
Darganfyddiad Llyfrgelloedd wedi’i gwblhau
Rydym wedi cwblhau darganfyddiad ar y Systemau Rheoli Llyfrgelloedd a ddefnyddir yn 20 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac rydym wedi bwydo hyn yn ôl i’r grŵp rheoli llyfrgelloedd.
Byddwn yn cyhoeddi’r canfyddiadau yn ein blog yn fuan.
Y darlun mawr
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru (CDPS) bellach yn eu cyfnod Alffa o adolygiad tirwedd.
Mae’r prosiect hwn yn ceisio deall tirwedd gwasanaethau digidol ar draws Cymru. Maent yn diffinio “gwasanaeth” fel y broses o’r dechrau i’r diwedd y mae unigolyn yn ei ddilyn, i lwyddo yn eu nod drwy ymgysylltu â’r llywodraeth.
Bwriad yr adolygiad hwn yw helpu sector cyhoeddus Cymru i bennu blaenoriaethau, nodi ble y gallwn uno timau a gwasanaethau, a nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad digidol. Y nod yn y pen draw yw mapio trywydd wedi’i brisio yn nodi’r meysydd mwyaf gwerthfawr i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru ac arweinwyr digidol eraill yng Nghymru eu cefnogi dros y blynyddoedd nesaf.
Mae’r tîm yn gobeithio dysgu am y gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg o fewn Llywodraeth Leol a deall sut y gallai eu darpariaeth fod yn wahanol rhwng Awdurdodau Lleol (ALl).
Er mwyn cyflawni’r nod hwn, hoffent siarad â’r bobl mwyaf cyfrifol ym mhob un o’r Awdurdodau Lleol ynglŷn â’r ddau wasanaeth canlynol:
- Casglu sbwriel
- Cofrestru plant ar gyfer lleoedd ysgol
Bydd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru yn ceisio ymgysylltu â pherchnogion gwasanaethau drwy ddull grwpiau ffocws, ble y bydd nifer o berchnogion gwasanaeth o Awdurdodau Lleol gwahanol yn dod at ei gilydd i lenwi arolwg ar y cyd, yna yn cael trafodaeth ynglŷn â heriau/cyfleoedd cyffredin. Bydd y grwpiau ffocws yn para am tua awr, a bydd mwy nag un sesiwn yn cael eu cynnig i roi cyfle i bawb fynychu.
Os hoffech chi neu eich awdurdod lleol gymryd rhan, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r adolygiad, cysylltwch â henry.holms@digitalpublicservices.gov.wales.
Beth sydd wedi oedi
Asesiad aeddfedrwydd digidol
Rydym ni wedi dylunio asesiad aeddfedrwydd digidol y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i ddeall ble mae eu cryfderau yn ddigidol. Mae’n cynnwys diwylliant, arweinyddiaeth, dyluniad yn cwmpasu’r defnyddiwr a darpariaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig arni a’n helpu i ddatblygu’r offeryn hwn, gadewch i ni wybod drwy e-bostio timdigidol@wlga.gov.uk – rydym yn awyddus i dderbyn adborth.
Dosbarthiadau meistr mewn Arweinyddiaeth
Fel rhan o’n hymgysylltiad â Phrif Weithredwyr, gofynnwyd i ni ddatblygu cyfres o ddosbarthiadau meistr. Rydym wedi dylunio a datblygu dosbarth meistr cwmwl sy’n cael ei adolygu gan rhai o’n Prif Weithredwyr ar hyn o bryd.
Yn dod yn fuan
- Prosiect Tlodi Bwyd
Gweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Data Cymru ac elusennau i ddeall sut y gallwn ni ddefnyddio data i ddatrys y broblem o dlodi bwyd. - Glasbrintiau Gwasanaeth
Dyma brosiect i adolygu modelau darparu gwahanol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol ac i rannu arferion da ar draws Cymru. - Digwyddiadau Bywyd
Mae bron i holl wasanaethau awdurdod lleol wedi’u cysylltu drwy ddigwyddiadau bywyd. Gall hyn fod yn symud i ardal newydd, cael plentyn, anabledd newydd ac ati. Pan fydd y digwyddiadau bywyd hyn yn digwydd, yn aml mae’r person neu’r teulu ynghlwm yn cysylltu â nifer o wasanaethau ar draws awdurdod lleol. Bydd y prosiect hwn yn archwilio’r cysylltiadau hyn o safbwynt siwrnai defnyddiwr.
Gadael Ymateb