Diweddariad Chwarterol Digidol
Ar 25 Mai cynhaliwyd ein sesiwn Diweddaru Digidol chwarterol, lle bu’r tîm yn arddangos ein gwaith dros y chwarter diwethaf, yr hyn sydd wedi’i gyflawni a’n camau nesaf ar gyfer 2022. Rydym yn bwriadu cynnal y sesiynau hyn bob chwarter o hyn ymlaen fel rhan o’n cynllun cyfathrebu ehangach ar draws ein prosiectau.
Yn y sesiwn hon fe wnaethom drafod:
- Crynodeb o ddechrau 2022
- Cynllun Cyflawni 2022-2023
- Cronfa Trawsnewid Digidol
- Ein Panel Ymgynghorol
- Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr
- Prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd
- Asesiadau Aeddfedrwydd Digidol
- Fframweithiau Dysgu
- Dechrau Gyrfa
- Cymunedau ymarfer
- Hyfforddiant
- LMS/LXP
- Gwasanaethau democrataidd
- Gwefannau’r Cyngor
- Digwyddiadau a Recordiadau
- Holi ac Ateb
Os wnaethoch ei golli, rydym wedi recordio’r sesiwn felly gallwch ddal i fyny. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk a byddwn yn ymateb, neu gallwch wneud sylw isod, a byddwn yn ymateb.
Mae’r sesiynau hyn ar agor i bawb sy’n gweithio yn yr awdurdod lleol neu o fewn rolau digidol yn y sector cyhoeddus. Os hoffech wahoddiad i’r sesiynau, anfonwch e-bost atom a gallwn eich ychwanegu at y rhestr wahoddiadau. Os hoffech ragor o wybodaeth ar ein gwaith, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein newyddlen ar ein gwefan.
Gadael Ymateb