Dechrau fel Dylunydd Cynnwys gyda thîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru

Dechrau fel Dylunydd Cynnwys gyda thîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru

Mae’n dod at ddiwedd fy mis cyntaf yn gweithio fel Dylunydd Cynnwys yn nhîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru, ac ar ôl ychydig wythnosau’n llawn cyflwyniadau, hyfforddiant, darllen a gwella’n gyffredinol, roeddwn i eisiau pwyso a mesur yr hyn yr oeddwn i wedi’i ddysgu, ac edrych ymlaen at y dyfodol. 

Ond yn gyntaf, ychydig amdanaf i. Yn fy rôl byddaf yn gweithio ar brosiectau penodol fel rhan o dîm digidol amlddisgyblaethol CLlLC; gallwch ddarllen mwy am y math o brosiectau y mae’r tîm yn gweithio arnynt mewn mannau eraill yn y blog hwn

Byddaf hefyd yn eirioli dros gynnwys a dylunio cynnwys ar draws llywodraeth leol gyfan, gan helpu i sicrhau bod y sgiliau, y rhwydweithiau a’r mentrau cywir yn eu lle er mwyn i ni gyd lwyddo. 

Er y gallwn (ac mae’n debyg y byddaf!) yn siarad am bwysigrwydd cynnwys da trwy’r dydd, nid oes lle yn y post hwn ac mae llawer o adnoddau ar gael sy’n esbonio pethau’n wych. Mae gan Safonau Digidol y Llywodraeth gyflwyniad gwych i Ddylunio Cynnwys, ac mae’r llyfr Content Design gan Content Design London yn fan cychwyn gwych arall. 

Ond wrth ei wraidd, cynnwys yw sylfaen pob tudalen we, pob gwasanaeth, a phob rhyngweithio rhwng y llywodraeth a’i dinasyddion. Bydd angen cynnwys ar eich defnyddwyr i’w helpu i gyflawni eu nod, boed hynny drwy ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw, neu gwblhau tasg bwysig.

Gall cynnwys da wneud y profiad hwn yn reddfol ac yn ddiymdrech, tra bod cynnwys gwael yn achosi dryswch a straen. Dyna pam mae angen i gynnwys a gwasanaethau digidol awdurdodau lleol fod cystal ag y gallant fod. 

Fel y dylunydd cynnwys pwrpasol cyntaf mewn llywodraeth leol yng Nghymru, rwy’n gyffrous am y cyfleoedd sydd ar gael – ond nid wyf am fod yr unig un o’m math am gyfnod hir! 

Rwy’n gobeithio y gallwn adeiladu rhwydwaith o bobl sydd â diddordeb mewn dylunio cynnwys – boed yn eich swydd-ddisgrifiad swyddogol ai peidio – i rannu arfer gorau ac adborth, a chodi proffil cynnwys yn gyffredinol. 

Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gymaint gan y cymunedau gwych sydd eisoes wedi’u sefydlu ym myd llywodraeth leol, yn ogystal ag yn y sector digidol yn fwy cyffredinol. Yr hyn sydd wedi fy nharo fwyaf yn fy amser byr yma yw’r creadigrwydd a’r arloesedd sy’n cael eu harddangos, a’r angerdd a’r ymrwymiad i wneud pethau’n well i ddinasyddion. 

Mae hefyd yn anhygoel pa mor agored yw pawb wrth rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu fel y gall eraill elwa, trwy gymunedau ymarfer, gweminarau, dangos a dweud a blogiau (yn union fel yr un hwn). 

Wrth gwrs, mae gen i lawer (a llawer) i’w ddysgu o hyd wrth i mi barhau i drochi fy hun ym myd llywodraeth leol a dylunio gwasanaethau digidol. I’r perwyl hwnnw, a fyddech cystal â dweud helo os gwelwch fi ar alwad neu mewn sgwrs, ac mae croeso i chi anfon eich profiadau neu gwestiynau i emma.willis@wlga.gov.uk neu @emmwillis ar Twitter. Byddwch yn barod i helpu gyda rhai o fy nghwestiynau fel aelod staff newydd yn gyfnewid! 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *