Beth yw data agored?

Beth yw data agored?

Data y gellir ei ddefnyddio, ei ail-ddefnyddio a’i ail-ddosbarthu yw data agored. Mae data agored yn ddarostyngedig ddim ond, ar y mwyaf, i’r gofyniad i rannu a phriodoli fel ei gilydd.

Mae Open Definition yn cynnig eglurhad manwl o ystyr data agored:

  • Argaeledd a Mynediad: mae’n rhaid i’r data cyfan fod ar gael heb unrhyw gostau oni bai am gostau atgynhyrchu rhesymol, drwy ei lawrlwytho dros y we lle bo modd. Mae’n rhaid i’r data hefyd fod ar gael ar ffurf cyfleus ac addasadwy.
  • Ail-ddefnyddio ac Ail-ddosbarthu: mae’n rhaid i’r data gael ei ddarparu dan delerau sy’n caniatáu i’r data gael ei ail-ddefnyddio a’i ail-ddosbarthu, gan gynnwys eu cymysgu gyda setiau data eraill.
  • Cyfranogiad Cynhwysol: mae’n rhaid i bawb fedru defnyddio, ail-ddefnyddio ac ail-ddosbarthu‘r data– ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn meysydd neu unigolion neu grwpiau. Er enghraifft, ni chaniateir cyfyngiadau ‘anfasnachol’ a fyddai’n atal defnydd ‘masnachol’, na chyfyngiadau ar ddefnydd at ddibenion arbennig (e.e. addysg yn unig).

Deunydd darllen ychwanegol: Beth yw Data Agored? (opendatahandbook.org)

Pam data agored?

Mae Data Agored, yn enwedig llywodraeth agored, yn adnodd enfawr sydd, i raddau helaeth, heb ei gyffwrdd.

O safbwynt awdurdodau lleol yng Nghymru, mae gennym gyfoeth o ddata ond ychydig iawn ohono sy’n ddata hygyrch neu ar ffurf y gall peiriant ei darllen.

Mae holl ddata’r llywodraeth yn ddata cyhoeddus yn ôl y gyfraith, ac felly mae modd iddo fod yn agored ac ar gael i eraill ei ddefnyddio.

Byddai modd manteisio ar yr elfen digyffwrdd pe baem yn newid data llywodraeth cyhoeddus i fod yn ddata agored.

Ni fydd hynny’n digwydd, fodd bynnag, oni bai ei fod yn wirioneddol agored, hynny yw, heb unrhyw gyfyngiadau (cyfreithiol, ariannol neu dechnolegol) i atal eraill rhag ei ailddefnyddio.

Applying a license for open data

Defnyddio trwydded agored yw’r cam cyntaf tuag at sicrhau bod eich data ar gael, ac yn agored, i eraill.

I wneud hyn, yn gyntaf, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y data ar eich gwefan yn addas i fod yn agored, neu wirio a oes unrhyw ddata sydd â hawliau eiddo deallusol.

Yna gallwch weithredu trwydded ‘agored’ addas sy’n trwyddedu’r holl hawliau hynny ac yn cyfateb i’r diffiniad o ‘agored’ a drafodwyd uchod yn yr adran ‘Beth yw Data Agored?’.

I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau agored, ymwelwch â Drwydded Llywodraeth Agored (yr Archifau Gwladol)..

Gellir dod o hyd i ganllawiau a chyfarwyddiadau byr un dudalen mewn perthynas â defnyddio trwydded data agored ar wefan Open Data Commons: Open Data Commons: legal tools

Awdurdodau Lleol sydd â thrwydded agored

Ymwelais â gwefan pob awdurdod lleol yng Nghymru i weld a fedrwn i ddod o hyd i’w data agored a dolen i’w trwydded data agored.

Llwyddais i ddod o hyd i ddolenni a data’r Awdurdodau Lleol canlynol yn rhwydd:

Awdurdod LleolTrwydded Data Agored
Blaenau GwentBlaenau Gwent CBC: Open Data (Open Government Licence) (blaenau-gwent.gov.uk)
Pen-y-bont ar OgwrRhaid bod data agored – Bridgend CBC
CaerffiliCaerphilly – Setiau data
CaerdyddOpen Data (cardiff.gov.uk)
Sir DdinbychSetiau data | Cyngor Sir Ddinbych
MerthyrOpen Data | Merthyr Tydfil County Borough Council
Sir FynwyOpen Data – Monmouthshire
CasnewyddTryloywder | Newport City Council
Rhondda Cynon TafRhondda Cynon Taf CBC | Trwydded Llywodraeth Agored (rctcbc.gov.uk)
TorfaenOpen Data | Torfaen County Borough Council

Mae’n rhaid i

Rhaid bod data agored yn agored yn dechnegol ac yn gyfreithiol. Yn benodol, rhaid bod y data ar gael yn eu crynswth ar ffurf y gall peiriant ei darllen format.

Mae pum cam at ddata agored. Mae’r ddelwedd yn dangos mai’r cam cyntaf yw cyhoeddi data ar y we ar unrhyw ffurf, yr ail yw darparu data mewn taenlenni a’r trydydd yw cyhoeddi data ar ffurf y gall peiriant ei darllen, fel CSV. Y pedwerydd cam yw cyhoeddi data ar ffurf RDF, a’r pumed cam yw cyhoeddi data ar ffurf data cysylltiedig.
Ffynhonnell: Maturity Model – The ODI

Y pump cam:

  1. Cyhoeddi a gwneud y data ar gael ar y we dan drwydded agored.
  2. Cyhoeddi data ar ffurf data strwythuredig (e.e. ar daenlen).
  3. Cyhoeddi ar fformat ffeil amherchnogol megis CSV.
  4. Defnyddio URI* fel dynodwyr yn y data. Gallwch ddefnyddio’r RDF fel dull ar gyfer codio perthnasoedd semanteg rhwng eitemau data fel y gellir dehongli’r perthnasoedd hyn yn gyfrifiadurol.
  5. Lefel 5 yw cyhoeddi data fel Data Cysylltiedig sy’n cynnwys dolenni i ffynonellau data eraill (gweler data cysylltiedig).

Mae *URI yn sefyll am Ddynodwr Adnoddau Unffurf

  • Unffurf (mae semanteg (rhannol) a chystrawen generig safonol (a ddiffinnir IETF RFC 3986))
  • Dynodwr (Mae URI yn ddynodwyr, hynny ydi, enwau (nid cyfeiriadau)).
  • Adnoddau (Yr hyn y maent yn ei ddynodi – unrhyw beth o gwbl)

Cyhoeddi data fel CSV

Fformatio taenlen

  1. Creu dogfen newydd ar Excel.
  2. Ychwanegu pennawd colofn ar gyfer pob darn o wybodaeth y mae arnoch chi eisiau ei chofnodi (er enghraifft: ystod oedran, sir, mynediad at y rhyngrwyd, dosbarth incwm, math o ddeiliadaeth) ac yna nodwch y wybodaeth yn y colofnau priodol.
  3. Unwaith y byddwch wedi gorffen, dylai eich ffeil Excel edrych fel hyn.
Ystod OedranSirMynediad at y RhyngrwydDosbarth IncwmMath o Ddeiliadaeth
18-25Sir GaerfyrddinOes£20,000-£25,000Gweinyddol
35-40CaerdyddOes£35,000-£45,000Rheoleiddio
55-60AbertaweOes£45,000-£55,000Gweithiwr Proffesiynol Medrus

Allgludo fel .csv

  1. Dewis Ffeil > Cadw Fel.
  2. O’r ddewislen, dewiswch CSV (Comma delimited) (*.csv), nodwch deitl ar gyfer eich ffeil, a gwasgwch ‘Save’.

Gwneud data’n hygyrch

Os ydych chi wedi llwyddo i gyhoeddi’ch data ar ffurf data agored, y peth olaf i’w wneud yw sicrhau y gall pobl ddod o hyd iddynt.

Gair o gyngor:

  • Darparwch dudalennau we unigryw ar gyfer pob darn o gynnwys.
  • Dylech osgoi gwneud i bobl lawrlwytho cynnwys heb fod angen. Os oes angen i bobl lawrlwytho’r cynnwys a’i agor y tu allan i borwr we, bydd llai o bobl yn ei ddarllen. Mae peiriannau chwilio’n llai tebygol o ganfod y cynnwys. Mae pobl yn llai tebygol o wasgu’r botwm lawrlwytho.
  • Darparwch naratif a chyd-destun i’r data. Bydd ambell i frawddeg yn egluro beth yw’r data ac ar gyfer beth y gellir ei ddefnyddio yn helpu pobl i ddod o hyd i’r data y maent yn chwilio amdano.

Gwybodaeth bellach: So I’ve Opened Up Some Data, Now What? (opendatahandbook.org)

Rhannu data awdurdodau lleol gyda’r llywodraeth

Gall Llywodraeth Ganolog, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus gyhoeddi data ar data.gov.uk.

Nid yw data.gov.uk yn cynnal setiau data, felly, unwaith y byddwch wedi cyhoeddi’r set data (neu ddogfen ategol) ar wefan eich awdurdod lleol, gallwch ychwanegu’r set data ar data.gov.uk a fydd yn dangos disgrifiad a dolen i’r set data.

Sut i gyhoeddi ar data.gov.uk:

Pedair a phump seren

Ychydig iawn o sefydliadau sy’n llwyddo i sicrhau mwy na thair seren – mae’n anodd!

Ar gyfer cam 4, bydd yn rhaid i chi ddysgu am godio, mae’n gallu bod yn dechnegol (ac mae hynny’n dod gan rywun sydd wedi cwblhau hyfforddiant RDF a Turtle ac yn dal i gael trafferth!).

Os oes gennych chi ddiddordeb, dyma rai dolenni defnyddiol:

Dolenni i adroddiadau data da

Gwybodaeth bellach

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *