Prosiect Prawf o Gysyniad Digwyddiadau Bywyd – Sbrint Sero
Crynodeb
Rydym newydd gwblhau pythefnos cyntaf Prosiect Prawf o Gysyniad Digwyddiadau Bywyd, sef Sbrint Sero.
Mae’r Prosiect Prawf o Gysyniad Digwyddiadau Bywyd yn brosiect sy’n cael ei yrru gan waith ymchwil ac sy’n cynnig ac yn edrych ar argymhellion ynghylch dull darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion ar gyfer y 22 awdurdod lleol. Rydym yn awyddus i ddeall sut mae dinasyddion yn rhyngweithio ac ymgysylltu â’u hawdurdod lleol yn ystod eu hoes a sut mae newid yn eu hamgylchiadau’n effeithio ar yr ymgysylltiad hwn. Er enghraifft, os bydd defnyddiwr yn colli ei swydd neu’n mynd yn anabl, gallai hyn olygu y bydd angen i’w gyngor lleol ddarparu mwy o wasanaethau, a gwasanaethau gwahanol, ar ei gyfer, nag o’r blaen. Mae hyn yn wahanol i’r ffordd arferol o ofyn am wasanaethau gan Awdurdodau pan dderbynnir y rhain mewn ffordd uniongyrchol heb ymwneud ag eraill, e.e. gwneud cais am fathodyn glas, gwneud cais am fan parcio sefydlog y tu allan i’ch tŷ, gwneud cais am ramp i wella mynediad at eich drws ffrynt.
Ar ôl cwblhau’r prosiect, mae yna botensial i awdurdodau lleol gynnig cymorth cyfannol i breswylwyr, a mwy o gymorth cydweithredol, ar ôl rhai digwyddiadau bywyd. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymdrech Llywodraeth Cymru i gael dull mwy cydweithredol ar gyfer darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr.
Bydd tîm y prosiect yn gweithio’n agos gyda nifer o Arbenigwyr Pwnc yn y 22 awdurdod lleol a bydd yn gofyn am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau nhw er mwyn ein helpu ni i gyflawni amcan y prosiect.
Disgwylir y bydd y prosiect Prawf o Gysyniad Digwyddiadau Bywyd wedi ei gwblhau ddiwedd Mawrth 2022.
Rheoli Prosiectau
Fe wnaethom ddechrau’r prosiect ddydd Gwener 7 Ionawr ac rydym wedi cwblhau ein Sbrint cyntaf dros bythefnos. Rydym wedi sicrhau bod cwmpas, gweledigaeth, nod, amcanion a dyheadau’r prosiect wedi eu diffinio’n eglur a’u deall gan y tîm. Rydym yn defnyddio dull cyflwyno hyblyg a Trello fydd y prif declyn cynllunio a chydweithredu, a byddwn yn cynnal y prosiect dros bedwar cyfnod Sbrint, gan ddechrau gyda Sbrint Sero.
Gan fod y dyddiad cwblhau ar 31 Mawrth yn heriol, rydym wedi ffurfio tîm o bum person deinamig a chydweithredol. Cynhelir y momentwm i gyflawni’r gwaith drwy gael cyfarfodydd Sbrint yn rheolaidd, ac rydym wedi cynnal adolygiad Sbrint a chyfarfod ôl-weithredol.
Fe wnaethom ddechrau Sbrint 1 ddydd Llun 24 Ionawr gyda sesiwn cynllunio Sbrint, a byddwn yn ysgrifennu blog am ein gwaith yn y sbrint hwn yr wythnos nesaf.
Un mater pwysig a nodwyd yn y sesiwn Sbrint diwethaf hwn oedd y diffyg manylion e-bost CLlLC yr oedd eu hangen ar y tîm i gyfathrebu â’r awdurdodau lleol. Gan nad yw hyn wedi newid, os ydych chi mewn awdurdod lleol, efallai y bydd Gloria Williams (Dadansoddwr Busnes) a/neu Mike Holcombe (Cymorth Cyflawni) yn cysylltu â chi ac nid oes ganddyn nhw gyfeiriadau e-bost CLlLC. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi anfon e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk.
Ymchwil Defnyddwyr
Ar gyfer y prosiect hwn rydym eisiau sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar anghenion dinasyddion, fel defnyddwyr gwasanaethau awdurdodau lleol. Rydym hefyd eisiau ymgysylltu â staff awdurdodau lleol sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaethau allweddol a gynigir i gefnogi rhywun sy’n mynd drwy ddigwyddiad bywyd penodol, er mwyn ein helpu i ddeall eu profiadau, eu hanghenion a’u prosesau eu hunain.
Ar ddiwedd Sbrint Sero fe wnaethom anfon arolwg at fwy na 200 o staff awdurdodau lleol, ar draws y 22 awdurdod lleol, i holi eu barn am y digwyddiad bywyd roedden nhw’n teimlo y dylai’r prosiect hwn ganolbwyntio arno. Fe wnaethom hefyd ofyn a hoffen nhw ymgysylltu’r â’r prosiect yn y dyfodol er mwyn i ni allu datblygu rhestr o fudd-ddeiliaid brwd. Y camau nesaf, wrth i ni ddechrau Sbrint newydd, fydd casglu a dadansoddi’r ymatebion i’r arolwg er mwyn deall pa ddigwyddiad bywyd y dylen ni ganolbwyntio arno, a dechrau gwaith ymchwil wrth y ddesg er mwyn meithrin dealltwriaeth well o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi person sy’n mynd drwy’r digwyddiad bywyd hwnnw.
Dadansoddiad Busnes
Cafodd Strategaeth Gyfathrebu ei drafftio, ynghyd ag amcanion a mesurau’n amlinellu sut byddwn ni’n gweithio gyda budd-ddeiliaid y busnes wrth i ni symud ymlaen.
Mae’r strategaeth hefyd yn gam cyntaf er mwyn casglu manylion cyswllt, enwau, a rôl ein budd-ddeiliaid yn yr Awdurdod Lleol er mwyn deall eu heffaith a’u dylanwad ar y prosiect.
Caiff data a ffeithiau diddorol eu cyhoeddi gan y wasg felly’r cam nesaf fydd cynnal dadansoddiad a fydd yn rhoi safbwyntiau cyd-destunol i ni o rai astudiaethau achos a digwyddiadau bywyd go iawn mewn cyd-destun tlodi yn y DU.
Byddwn yn ysgrifennu blog am Sbrint 1, a’r gwaith a fu’n rhan ohono a’r canlyniadau, wedi i ni ei orffen ar ôl dydd Gwener, 11 Chwefror.
Gadael Ymateb