Gweddarlledu cyfarfodydd cyngor
Crynodeb o ymchwil dros y we
Mae pob Awdurdod Lleol (All) yng Nghymru yn gweddarlledu eu cyfarfodydd cyngor ac mae hyn wedi bod yn ofyniad cyfreithiol ers 2014. Mae’r Papur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol, yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gofyniad gorfodol ar bob awdurdod i weddarlledu eu cyfarfodydd.
Yn rhan o’n gwaith, gofynnwyd i ni edrych ar ba systemau y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i ffrydio eu cyfarfodydd yn fyw.
Fe wnaethom gynnal yr ymchwil dros y we er mwyn rhannu’r feddalwedd a ddefnyddir ar draws Cymru a rhywfaint o gasgliadau hygyrchedd digidol a defnyddioldeb.
Software used in webcasting council meetings
Mae 13 o’r 22 awdurdod lleol (59%) yn defnyddio Public-i er mwyn darparu gwasanaethau gweddarlledu i’w trigolion.

Casgliadau Hygyrchedd
Er mwyn profi hygyrchedd y gwasanaeth, defnyddiwyd safonau W3C.
Canfyddiadau:
- YouTube oedd yr unig feddalwedd oedd yn defnyddio capsiynau, trawsgrifiadau a thestun arall ar gyfer cynnwys y fideo.
- Roedd pob darparwr yn hawdd i’w ddefnyddio a dim ond bysellau’r bysellfwrdd oedd eu hangen.
- Roedd cynnwys fideo Public-i yn chwarae cynnwys fideo yn awtomatig gan fethu’r safonau hygyrchedd.
Canfyddiadau defnyddioldeb
Defnyddiwyd offerynnau gwerthuso darganfyddol i brofi defnyddioldeb y gwasanaeth gweddarlledu.
Canfyddiadau:
- Roedd holl gynnwys y fideos yn hygyrch trwy ddolen unigryw i rannu cynnwys gweddarlledu’n hawdd.
- Yr unig feddalwedd i beidio â darparu dolenni uniongyrchol i adrannau’r cynnwys oedd meddalwedd Civica. Gwnaeth y tîm ym Mro Morgannwg waith da ar gyfer hyn gyda dewislen ar ochr dde (bwrdd gwaith) neu oddi tanodd (symudol) gydag amseru’r adran benodol o’r cyfarfod wedi’i nodi’n glir.
- Roedd pob meddalwedd a ddefnyddiwyd yn gweithio’n dda ar draws pob porwr a dyfais (gan ddefnyddio profion Lambda).
Beth sydd nesaf?
Rhannwyd y canfyddiadau yma gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mehefin 2021.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi bod yn gwneud llawer o waith ym maes gwasanaethau democrataidd gyda Llywodraeth Cymru felly byddwn yn gweithio gyda nhw i weld lle fydd y gwaith yma’n ffitio.
Yr adborth gan Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd oedd ymchwilio i ddatrysiadau safonol ar draws Cymru a’r adnoddau sydd eu hangen i weithredu gofynion deddfwriaethol a chanllawiau statudol a fydd yn nodi pa gyfarfodydd ddylai gael eu gweddarlledu.
Gadael Ymateb