Darganfod gwasanaethau llyfrgell digidol Cymru
Yn y blynyddoedd diweddar mae cynnydd nodedig yn y defnydd o wasanaethau llyfrgell digidol, tra bod y defnydd o wasanaethau craidd y llyfrgell yng Nghymru wedi gostwng dros y ddegawd ddiwethaf. Mae’r cynnydd hwn mewn gwasanaethau digidol yn sgil pandemig Covid-19 a orfododd i adeiladau llyfrgell gau. Gyda’r symudiad hwn tuag at ddefnydd cynyddol o wasanaethau digidol, mae’n amser pwysig i adolygu’r gwasanaethau llyfrgell digidol sydd ar gael yng Nghymru, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion y dinasyddion sy’n dibynnu arnynt.
Mae System Rheoli Llyfrgelloedd Cymru yn system ddigidol sydd wedi cael ei fabwysiadu gan 20 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda’r posibilrwydd i Ferthyr a Sir Benfro ymuno yn y dyfodol. Mae’r system yn galluogi defnyddwyr i ymuno â’r llyfrgell, pori’r catalog, rheoli eu cyfrifon, ac archebu llyfrau ar-lein. Pan gafodd y system hon ei ddylunio i ddechrau, cafodd ei wneud gyda phrosesau busnes yn ganolog i’r datblygiad, gydag ychydig iawn o ymgynghori gyda’r defnyddiwr gwasanaeth.
Mae’r diffyg dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr wedi cael ei gydnabod gan reolwyr llyfrgell, a gysylltodd â thîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru yng Ngwanwyn 2021. Fe wnaethom drafod sut y gallwn eu helpu i ddeall os oedd y System yn bodloni anghenion ei ddefnyddiwr. Cytunwyd y byddai Tîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru yn arwain ar brosiect darganfod a fyddai’n cynnal ymchwil defnyddwyr i ddeall:
- sut mae defnyddwyr yn profi’r system yn ei stad bresennol
- unrhyw ofynion defnyddiwr ar gyfer gwell profiad defnyddiwr wrth ddefnyddio’r system
- sut fyddai defnyddwyr yn teimlo am y posibilrwydd o ddatblygu system llyfrgell Cymru gyfan a fyddai’n galluogi defnyddwyr i gael mynediad at stociau llyfrau mewn awdurdodau lleol eraill a chasglu a dychwelyd llyfrau tu allan i’w gwasanaeth llyfrgell lleol.
I ddechrau, gofynnwyd i ni gyflawni ymchwil defnyddiwr lefel uchel, ac arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad gofynion defnyddwyrym Mai 2021. Roedd yr adroddiad yn archwilio profiad cofrestru ar y system ar gyfer defnyddwyr newydd ac yn cipio gofynion system y defnyddwyr presennol, ond oherwydd cyfyngiadau amser, roedd yr ymchwil hwn angen datblygiad pellach. Fe wnaethom gynnig cefnogaeth pellach i’r gwaith hwn drwy gynnal ymchwil defnyddiwr ehangach ar ddefnyddioldeb y system gydag ystod o grwpiau defnyddwyr, a oedd yn cynnwys:
- Aelodau llyfrgell presennol
- Pobl nad oeddent yn aelodau
- Pobl ag aelodaeth wedi dod i ben
- Staff rheoli a gweinyddol y system (defnyddwyr cefn).
Roedd yr ymchwil defnyddwyr yn cynnwys grŵp ffocws gyda 15 o aelodau llyfrgell presennol, cyfweliadau un i un gyda 3 o ddefnyddwyr cefn y system, ac arolwg gyda phobl gydag aelodaeth wedi dod i ben neu heb aelodaeth, a derbyniwyd 270 o ymatebion. Cafodd yr holl wybodaeth a gasglwyd ei ddadansoddi a chyflwynwyd y canfyddiadau yn Adroddiad Ymchwil Defnyddwyr LMS Cymru a gyhoeddwyd ym Medi 2021. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar brofiad defnyddwyr o ddefnyddio’r system, yr heriau maent yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r system, eu gofynion ar gyfer system llyfrgell digidol gwell, eu hagwedd tuag at ddatblygu system llyfrgell Cymru gyfan, canlyniadau’r archwiliad hygyrchedd a chyfres o argymhellion ar gyfer gwella’r system ar gyfer defnyddwyr.
Cawsom adborth gwych ar y gwaith rydym wedi’i gynhyrchu, ac mae rheolwyr Llyfrgell Cymru yn gobeithio defnyddio canfyddiadau’r adroddiad mewn amryw o ffyrdd. Bydd y canlyniadau yn helpu i gefnogi datblygiad a gwelliannau’r system yn y dyfodol, llywio’r broses ail-gaffael ar ddiwedd 2023 ac i helpu gyda’r penderfyniad o symud i system llyfrgell Cymru gyfan.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â mi ar tom.brame@wlga.gov.uk
Gadael Ymateb