Darganfod eDdysgu
(Er mwyn cael gwybod mwy am y broses Ddarganfod a sut y mae’n gweithio, ewch i Lawlyfr Gwasanaeth GDS).
Diben y broses ddarganfod hon oedd deall defnyddioldeb a phrofiad defnyddwyr y platfform e-ddysgu Learning@Wales (L@W), a ddefnyddir gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Fe gynhaliwyd astudiaeth ymchwil defnyddwyr gyda grwpiau defnyddwyr er mwyn datblygu dealltwriaeth fanwl o anghenion, problemau defnyddioldeb a phrofiad defnyddwyr y system bresennol.
Ynghylch Learning@Wales (L@W)
Mae Bwrdd Rheoli Gwasanaeth L@W yn rheoli gwasanaeth TG y gwasanaeth e-ddysgu.
Mae’r holl gynnwys e-ddysgu yn bodoli ar Moodle sy’n cael ei letya ar weinyddion Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yng Nghanolfan Ddata Blaenafon.
Defnyddir y platfform e-ddysgu gan ystod eang o sefydliadau ar draws Cymru, yn cynnwys: Llywodraeth Cymru, Prifysgol Abertawe, GIG Cymru, a nifer o awdurdodau lleol ac eraill.
Beth wnaethom ni
Fe wnaethom ni gynnal astudiaeth ymchwil defnyddwyr gyda’r grwpiau defnyddwyr canlynol:
- Defnyddwyr – staff awdurdodau lleol
- Gweinyddwyr
- Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd
- Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol mewn awdurdodau lleol
Fe wnaethom ni gyfweld ystod o ddefnyddwyr o bob rhan o awdurdodau lleol Cymru ynghylch:
- Sut yr oeddent yn cael mynediad at y platfform dysgu
- Eu barn am eu profiad – beth roedden nhw’n ei hoffi/ddrwghoffi, beth roedden nhw’n cael trafferth ei weld
- Beth arall hoffen nhw allu ei wneud ar y platfform nad yw’n bosibl ei wneud ar hyn o bryd
Fe wnaethom ni hefyd ofyn i ddefnyddwyr ddangos yn lle roedd y platfform yn achosi heriau (e.e. efallai yr hoffai’r cyfarwyddwyr adnoddau dynol ddangos yr anawsterau wrth geisio’r adroddiad y maent yn chwilio amdano). Fe wnaethom ni hefyd ofyn i’r defnyddwyr roi sgôr i’r platfform gan ddefnyddio graddfa Likert ynghylch:
- Eu bodlonrwydd gyda’r platfform presennol
- Pa mor hawdd yw’r platfform i’w ddefnyddio
- A yw’r platfform yn bodloni eu gofynion
O ganlyniad, darparodd yr astudiaeth ddata ansoddol a meintiol y gellir ei ddadansoddi
Canfyddiadau
Gofynion defnyddwyr
Casglwyd gofynion defnyddwyr drwy gyfweld â’r amrywiol grwpiau defnyddwyr ac maent wedi eu dogfennu fel gofynion ar gyfer datblygu ymarferoldeb y platfform.
Lawrlwythwch y rhestr lawn o’r gofynion a gasglwyd.
Defnyddioldeb
Mae gwerthusiad hewristig yn archwiliad defnyddioldeb a gynhelir gan arbenigwr er mwyn gwirio a yw rhyngwyneb yn cydymffurfio ag egwyddorion defnyddioldeb cydnabyddedig.
Yr arbenigwr defnyddioldeb Sabah Zdanowska o Ventures Consulting a gynhaliodd yr archwiliad hwn.
Fel arfer, dewisir nifer penodedig o hewristigau a nifer penodedig o dudalennau ar raglen neu wefan ar gyfer yr ymarferiad.
Gwerthuswyd y tudalennau canlynol fel rhan o’r astudiaeth:
- Learning@Wales homepage
- Tudalennau glanio cynghorau ar gyfer cyrsiau – Sir Ddinbych oedd yr enghraifft a ddefnyddiwyd ar gyfer yr astudiaeth
- Tudalen gwrs – Trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2020 oedd yr enghraifft a ddefnyddiwyd ar gyfer yr astudiaeth
Dewiswyd yr hewristigau canlynol ar gyfer y tudalennau i’w gwerthuso.
Cysondeb a safonau
Dylai’r system ddilyn confensiynau’r platfform a’r diwydiant. Gallai peidio â chynnal cysondeb arwain at gynyddu llwyth gwybyddol y defnyddwyr drwy eu gorfodi i ddysgu rhywbeth newydd.
Gwelededd statws y system
Dylai’r dyluniad bob amser roi gwybod i’r defnyddwyr beth sy’n digwydd drwy roi adborth priodol o fewn cyfnod rhesymol o amser.
Adnabod yn hytrach nag atgofio
Dylid lleihau llwyth cof y defnyddiwr drwy wneud elfennau, gweithrediadau, ac opsiynau’n weladwy. Ni ddylai’r defnyddiwr orfod cofio gwybodaeth o un rhan o’r rhyngwyneb i un arall.
Dyluniad esthetaidd a minimalistaidd
Ni ddylai rhyngwynebau gynnwys gwybodaeth sy’n amherthnasol neu’n ddiangen. Dylid sicrhau bod y cynnwys a’r dyluniad gweledol yn canolbwyntio ar y pethau hanfodol. Sicrhewch fod elfennau gweledol y rhyngwyneb yn cefnogi prif amcanion y defnyddiwr.
Dadansoddir y canfyddiadau fesul hewristig. Darperir datrysiad posibl ar gyfer pob problem a ganfuwyd.
Er mwyn gweld y gwerthusiad hewristig llawn, lawrlwythwch y ddogfen PDF.
Hygyrchedd
Fe wnaethom archwiliad hygyrchedd byr gan ddilyn canllawiau Gwiriadau Syml WCAG. Cynhaliwyd yr archwiliad ar blatfform Learning@Wales er mwyn gweld ymhle y mae’r platfform yn ddiffygiol o ran hygyrchedd.
Gwiriad syml yn unig yw hwn, a dylid ei ystyried yn bwynt cychwyn ar gyfer gwerthuso hygyrchedd y platfform.
Gwerthuswyd y tudalennau canlynol fel rhan o’r astudiaeth:
- Learning@Wales homepage
- Tudalennau glanio cynghorau ar gyfer cyrsiau – Sir Ddinbych oedd yr enghraifft a ddefnyddiwyd ar gyfer yr astudiaeth
- Tudalen gwrs – Trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2020 oedd yr enghraifft a ddefnyddiwyd ar gyfer yr astudiaeth
Porwr Chrome a ddefnyddiwyd i gynnal yr archwiliad. Defnyddiwyd rhaglen darllen sgrin ChromeVox, a chynhaliwyd y gwiriadau eraill gan ddefnyddio teclyn gwerthuso WAVE. Mae’r ddau yn ategion i borwr Chrome.
Dylid nodi y gallai’r canfyddiadau fod yn wahanol ar borwyr eraill ac nad yw pob rhaglen darllen sgrin yn gweithio yn yr un ffordd.
Mae’r canfyddiadau wedi eu dadansoddi yn ôl y mathau o wiriadau hygyrchedd a gynhaliwyd. Darperir canlyniad methu neu basio ar gyfer y dudalen ar y wefan ar gyfer pob gwiriad.
Lawrlwythwch ganfyddiadau’r archwiliad hygyrchedd.
Dadansoddi cystadleuwyr
Yn ystod y gwaith casglu gofynion, canfuwyd bod dadansoddiad o gystadleuwyr eisoes wedi cael ei gynnal gan Geredigion. Penderfynwyd y byddai’n well peidio â dyblygu unrhyw waith, a cheisio cael mynediad at y dadansoddiad a wnaed eisoes.
Lawrlwythwch y dadansoddiad o gystadleuwyr (PDF).
Y camau nesaf
Mae cam Alffa’r prosiect hwn yn dechrau ym mis Awst 2021.
Bydd y cam Alffa’n archwilio opsiynau ar gyfer platfform sy’n diwallu’r gofynion a’r heriau a nodwyd yn ystod y gwaith darganfod. Yn ychwanegol at y platfform, bydd y cynnwys ar gyfer swyddogion a chynghorwyr yn cael ei adolygu a’i brofi.
Gadael Ymateb