Ymchwil Capasiti Digidol Cynghorau Tref a Chymuned
Trosolwg
Mae cyfanswm o 732 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, gydag oddeutu 8,000 o gynghorwyr. Fel haen o lywodraeth leol, maent yn gyrff etholedig, gyda phwerau a hawliau dewisol wedi’u pennu gan y Senedd i gynrychioli eu cymunedau a darparu gwasanaethau ar eu cyfer.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, comisiynodd Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol brosiect yn Hydref 2022 i ddadansoddi gallu a chapasiti digidol y sector cyngor tref a chymuned yng Nghymru, gyda’r nod o benderfynu sut i ddefnyddio adnoddau yn gynaliadwy.
Er fod mwyafrif y cynghorau yn credu bod eu gallu digidol wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf wedi’i hybu gan yr angen yn sgil y pandemig, mae amrywiaeth ac anghysondebau eang ar draws y sector o ran gallu a chapasiti digidol.
Cyflawnwyd prosiect ymchwil i ddeall materion a wynebir yn y sector yn well. Roedd gweithgareddau yn cynnwys arolwg ar draws y sector, grwpiau ffocws a chyfres o gyfweliadau un i un gyda chynrychiolwyr y cyngor.
Canlyniad yr ymchwil oedd adroddiad yn cynnwys rhestr o argymhellion i helpu cynnal a gwella’r cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf.
Cwestiwn dan sylw
Mae cynghorau tref a chymuned ar draws Cymru yn gweld fod darparu eu gwasanaethau yn ddigidol yn heriol. Sut allwn ni asesu gallu a chapasiti digidol y sector a phenderfynu sut i wella ei sgiliau mewn modd cynaliadwy?
Nodau ac Amcanion
Nod yr ymchwil oedd asesu capasiti a gallu digidol y sector cyngor tref a chymuned a phenderfynu sut i wella ei sgiliau mewn modd cynaliadwy. Nod yr ymchwil hefyd oedd deall yr ystod o faterion a’r categorïau y byddent yn dod oddi tanynt, er enghraifft:
- Isadeiledd neu gysylltedd
- Mynediad i ddyfeisiau
- Diffyg sgiliau a hyfforddiant
Yr amcan oedd amlygu’r darlun o ran y gallu a chapasiti digidol cyfredol fel bod modd cyflawni unrhyw argymhellion a ddarperir yn glir a rhestru’r camau gweithredu cadarnhaol a ellir eu cymryd.
Argymhellion
Daeth yr ymchwil i’r casgliad fod llawer i’w wneud er mwyn cynnal cyflymder y gwelliannau digidol a wnaed yn ystod y pandemig. I wneud hyn, rhaid i ofynion a safonau digidol gael eu diffinio’n glir, mae angen mwy o gefnogaeth i gynyddu sgiliau, ac mae angen digon o gyllid i fuddsoddi mewn offer ac isadeiledd modern.
Cyfranwyr
Cyflawnwyd yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn gan fusnes hyfforddi ac ymgynghoriad rheoli, Cwmni CELyn.
Yr Adroddiad Llawn
Adroddiad Ymchwil – Capasiti Digidol Cynghorau Tref a Chymuned
Gadael Ymateb