Newyddlen Mis Tachwedd 2022

Newyddlen Mis Tachwedd 2022

Croeso i ddiweddariad mis Tachwedd Dyma beth ydym yn ei wneud a sut y gallwch chi gymryd rhan.

Newyddion y Tîm

Mae Chris Sutton, ein Hymchwilydd Defnyddwyr, yn gadael yr wythnos hon i ymgymryd â swydd newydd fel Uwch Ymchwilydd Defnyddwyr yn DXW. Chris oedd yr ail aelod i ymuno â’r tîm pan ddechreuodd yn 2021 ac mae wedi bod yn rhan annatod o’n gwaith ers hynny fel Swyddog Cefnogi Cyflawni ac yna Ymchwilydd Defnyddwyr. Bydd chwith mawr ar ei ôl – dymuniadau gorau yn dy swydd newydd Chris!

Rydym bellach yn chwilio am 2 Ymchwilydd Defnyddwyr newydd i ymuno â’n tîm a gallwch weld yr hysbyseb swydd ar wefan CLlLC. Os hoffech drafod y swydd cyn gwneud cais amdani, cysylltwch â paul.owens@wlga.gov.uk.

Prosiect Gwella Gwasanaeth Blaenau Gwent

Rydym bellach wedi dechrau prosiect gyda Blaenau Gwent sy’n defnyddio dyluniad yn canolbwyntio ar y defnyddiwr i ymdrin â materion gyda’u gwasanaeth adrodd am sbwriel er mwyn helpu preswylwyr a’r cyngor.  Byddwn yn cynnal y sesiwn dangos a dweud gyntaf ar gyfer y gwaith hwn ddydd Gwener 18 Tachwedd o 10:30 tan 11:30. Os hoffech wahoddiad, anfonwch e-bost at digitalteam@wlga.gov.uk

Fframweithiau Dysgu a Chymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys

Yr wythnos hon rydym yn lansio ein fframweithiau dysgu Ymchwil Defnyddwyr a Dylunio Cynnwys ar gyfer llywodraeth leol. Gallwch weld y fframweithiau eu hunain a recordiad o’r lansiad ar y blog hwn ar ein gwefan.

Mae sesiwn gyntaf y Gymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 29 Tachwedd am 1pm. Rydym yn bwriadu cynnal y sesiynau Cymuned Ymarfer bob deufis. Yn y sesiwn gyntaf byddwn yn agor y drafodaeth am beth mae pobl ei eisiau o’r gymuned. Gallai hyn gwmpasu pa mor aml yr ydych am gyfarfod, pa bynciau yr hoffech eu gweld yn cael eu trafod, a sut y caiff y gymuned ei rheoli.

Os hoffech fynychu, anfonwch e-bost at digitalteam@wlga.gov.uk.

Gweithdy Sbrint Dylunio Cynnwys am Gostau Byw

Ddydd Iau 17 Tachwedd mae CLlLC a CDPS yn cynnal gweithdy sbrint dylunio cynnwys am Gostau Byw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y gweithdy yn edrych ar broblemau presennol gyda chynnwys am help a gwasanaethau ar-lein ar gyfer costau byw. Wrth i fwy o bobl greu a chyhoeddi cynnwys a gwybodaeth ar-lein am gostau byw, a hynny ar eu pennau eu hunain, mae’n achosi dryswch a heriau i’r bobl sy’n chwilio am gefnogaeth a budd-daliadau. Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar ddull rhannu cynnwys, gan gymryd yr ymchwil a’r dystiolaeth yr ydym wedi’i chasglu i wneud gwelliannau ar y cyd. Canlyniadau’r diwrnod hwn fydd:

  • Defnyddio’r un iaith i ddisgrifio budd-daliadau a gwasanaethau ledled Cymru.
  • Tudalen lanio ddwyieithog gydag un dyluniad i’w rhannu a’i gweithredu ar draws llywodraeth leol yng Nghymru.

Hoffem wahodd amrywiaeth eang o bobl i’r sesiwn a chroesawu swyddogion a staff o bob gwasanaeth sy’n darparu neu’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau digidol, cyfathrebu, gwasanaethau cwsmeriaid, addysg, treth y cyngor, budd-daliadau, gofal cymdeithasol a mwy. Os hoffech fynychu, cofrestrwch trwy’r ddolen Eventbrite hon.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *