Newyddlen Medi 2022

Newyddlen Medi 2022

Croeso’n ôl – rydym wedi cael haf prysur yn gweithio ar brosiectau ac rydym wedi cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf isod. Os hoffech fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk.

Y Diweddaraf am y Tîm

Dros yr haf mae yna ychydig o newidiadau wedi bod i’r tîm. Mae Jo, ein Pennaeth Darparu Hyblyg, wedi cael swydd newydd yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn arwain ar Ddylunio Sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, ac mae Sam wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y tîm i ddod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Cynradd, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym nawr yn y broses o benodi Pennaeth Darparu Hyblyg newydd a bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal yr wythnos hon, felly fe roddwn y ddiweddaraf i chi yn y newyddlen nesaf. Fe allwch gadw mewn cysylltiad gyda Jo a Sam ar Twitter. Fe fydd ein Swyddog Cymorth Cyflawni newydd a’n Dylunydd Profiad Defnyddiwr yn ymuno ddiwedd mis Medi a dechrau mis Hydref.

Fframweithiau Dysgu

Rydym yn paratoi i lansio ein fframweithiau dysgu a fydd yn digwydd ddydd Mawrth 18 Hydref 11:00-12:00. Mae’r Fframweithiau Dysgu yn darparu strwythur o bynciau ar gyfer dysgu drwy hunan-arwain, gyda rhestr o adnoddau a chefnogaeth er mwyn i ddysgwyr gydweithio, meithrin a datblygu sgiliau newydd mewn swyddi digidol. Y ddwy rôl gyntaf yr ymdrinnir â nhw yw Ymchwil Defnyddiwr a Dylunio Cynnwys. Os hoffech ddod draw i’r sesiwn Dangos a Dweud yna e-bostiwch timdigidol@wlga.gov.uk ac fe awn ati i’ch ychwanegu i’r gwahoddiad.

Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd

Mae’r prosiect wedi cwblhau ei 4ydd sbrint ac mae wedi datblygu prototeip ar gyfer gwasanaeth Gostyngiadau Treth y Cyngor yn llwyddiannus. Mae hyn wedi ei ailadrodd yn dilyn cyfres o sesiynau ymchwil defnyddwyr ac mae nawr wedi ei osod fel gwaelodlin. Roedd adborth o ymchwil defnyddwyr yn gadarnhaol iawn ac mae wedi profi un o’n prif brofion ar gyfer Alpha: a allwn gynhyrchu gwasanaethau rheng flaen sy’n well i ddinasyddion na’r hyn maent yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd?

Mae’r prosiect nawr yn awyddus i weithio gydag un neu fwy o gynghorau i weithredu’r prototeip mewn amgylchedd byw. Fe fyddwn hefyd yn edrych ar allbynnau eraill o’r cyfnod Darganfod i ddewis ardal arall o welliant y gallwn wella arno. Mae rhagor o fanylion ar gael ar flog Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd.

Cronfa Trawsnewid Llywodraeth Leol

Rydym nawr mewn cam ym mhroses y Gronfa lle rydym wedi derbyn cyflwyniadau, wedi mynd trwyddynt yn erbyn ein model comisiynu, wedi cynnal sesiwn Panel i drafod y rhestr fer ac wedi hysbysu’r arweinwyr cyflwyniadau llwyddiannus ac aflwyddiannus o’r canlyniadau. Fe allwch weld y diweddaraf ar y Panel a’r canlyniadau yma ar ein blog. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i gefnogi neu cydweithio ar unrhyw rai o’r prosiectau llwyddiannus yna cysylltwch ag arweinydd y prosiect fel y dangosir yn y tabl i fynegi eich diddordeb.

Blogiau Diweddaraf

Ers ein newyddlen ddiwethaf rydym wedi cyhoeddi: Cyfarfod: Ail-ddylunio’r we yng nghynghorau Cymru, Egwyddorion Perswadio: Awdurdod, Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd Dangos a Dweud, Egwyddorion Perswadio: Prinder, Gwybodaeth Reoli Ysgolion: Nodyn briffio Awdurdod Lleol, Safoni ein hadrodd, blog prosiect darganfod Dechrau’n Deg, Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Dangos a Dweud Sbrint 3, Wythnos Ddarllen: Gorffennaf 2022, Cyflwyniadau Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol, Dylunio cynnwys: sgiliau a galluoedd, Panel Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol a Dangos a Dweud Sbrint 4 Digwyddiad Bywyd.

Hyfforddiant ar y gweill

Rydym ar hyn o bryd yn archebu’r hyfforddiant a fydd yn cael ei gynnal eleni a bydd y wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf gyda’r manylion a dolenni Eventbrite yn barod er mwyn i chi archebu lle i chi eich hun. Diolch yn fawr i unrhyw un sydd wedi llenwi’r arolwg a gylchredwyd gennym yn gofyn am adborth ar hyfforddiant y llynedd – mae wedi bod yn hynod werthfawr er mwyn ein helpu ni i gynllunio ar gyfer y rownd yma.

Bwrdd Arweinyddiaeth Ddigidol

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bwrdd Arweinyddiaeth Ddigidol CLlLC ar 20 Medi. Diben y Bwrdd yw hyrwyddo arweinyddiaeth ddigidol mewn llywodraeth leol a darparu trosolwg strategol o waith y Prif Swyddog Digidol a’r tîm wrth iddynt gefnogi Cynghorau. Ar y bwrdd mae gennym ni gynrychiolaeth o SOCITM, Solace a chynghorwyr o bob cwr o Gymru. Fe fyddwn yn blogio am y cyfarfod cyntaf ac yn sicrhau ei fod ar gael ar ein gwefan yn fuan.

Gwefan

Dros yr haf rydym wedi bod yn gweithio ar ein gwefan i sicrhau ein bod yn saff a diogel. Rydym nawr wedi gwahanu ein safleoedd Cymraeg a Saesneg i sicrhau ein bod yn bodloni’r safonau yn ymwneud â’r iaith ac wedi ei symud i’w gynnal gan WordPress i roi’r amddiffyniad mwyaf posibl i ni a’r gefnogaeth pe bai unrhyw beth yn mynd o’i le. Y ddau URL newydd yw digidolllywodraethleol.cymru a localgovernmentdigital.wales felly os yw ein safle wedi ei osod fel nod tudalen gennych yna gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddiweddaru.

Diweddariad Digidol

Fe fyddwn yn cynnal ein sesiwn Diweddariad Digidol nesaf ar 26 Medi rhwng 12:00-13:00 – dewch draw i weld yr hyn rydym wedi bod yn gweithio arno a sut y gallwch gymryd rhan. Os hoffech ymuno â ni, e-bostiwch timdigidol@wlga.gov.uk ac fe awn ati i’ch ychwanegu at y gwahoddiad, fe fyddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno!

Prosiect Gwella Gwasanaeth Blaenau Gwent

Yn dilyn gwaith darganfod i ddeall y prif heriau mae cynghorau yn eu hwynebu gan ddefnyddio Dylunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn wrth ddatblygu gwasanaethau, rydym yn gweithio gyda Blaenau Gwent i’w cefnogi i wella gwasanaeth gan ddefnyddio arferion Dylunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn fel ymchwil defnyddwyr a dylunio cynnwys.  Mae Blaenau Gwent wedi gwneud gwaith ymchwil darganfod i ddeall y problemau sydd gan eu gwasanaethau glanhau stryd, ac un o’r rhain yw camadrodd am dipio anghyfreithlon, sy’n golygu fod criwiau costus yn cael eu hanfon i fynd i’r afael â’r hyn sy’n aml yn daflu ysbwriel.  Mae eu hymchwil yn dangos fod hyn o ganlyniad i deithiau defnyddwyr anodd a chynnwys aneglur.

Rydym yn gobeithio mai’r canlyniad fydd astudiaeth achos o’r gwerth clir y mae gweithredu arferion Dylunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn mewn dylunio gwasanaeth yn ei gael ar ddinasyddion a chynghorau i annog eraill i fuddsoddi mewn cynnal mwy o Ddylunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn wrth ddatblygu gwasanaethau. Fe fyddwn yn rhyddhau manylion y sesiynau dangos a dweud yn ystod yr wythnosau nesaf.

Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr

Mae gweithredu’r platfform i gysylltu gyda data o raglenni tri chyngor mewnol, a dod â nhw ynghyd, wedi ei wneud.

Mae gwaith yn parhau gyda Thîm Llywodraethu Gwybodaeth Merthyr i nodi materion sy’n gysylltiedig â chydgasglu’r ffynonellau data a chytuno pa brif ddangosyddion tlodi y gellir eu defnyddio i brofi gallu’r datrysiad i feithrin yr ailadrodd cyntaf o COG (Coch, Oren, Gwyrdd), system rybudd ymyrraeth gynnar, sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion. Mae rhagor o fanylion ar gael ar flog Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *