Newyddlen Ionawr 2023

Newyddlen Ionawr 2023

Hyfforddiant Ar Gael

Rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi a chyrsiau digidol wedi eu hariannu yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth ar gyfer awdurdodau lleol gan ein partner hyfforddi Basis Training. Ymdrinnir ag ystod o bynciau, i gyd yn canolbwyntio ar lywodraeth leol a sut allwch chi ddefnyddio’r adnoddau a’r technegau yn eich sefydliad.

Fe allwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y cyrsiau a gallwch gofrestru ar eu cyfer gan ddefnyddio’r dolenni hyn i Eventbrite:

CwrsDyddiadHyd  
Lleoliad  
Cwrs Dylunio Cynnwys Sylfaenol Grŵp 1: 27 Chwef 14:00-17:00

Grŵp 2: 28 Chwef 14:00-17:00
3 awrArlein
Cwrs Dylunio Cynnwys Uwch  Grŵp 1: 6 Maw and 7 Maw 14:00-17:00

Grŵp 2: 28 Maw and 29 Maw 14:00-17:00
2 x 3 awrArlein  
Gweithdy Uwch Dylunio Cynnwys  27 Maw 14:00 – 16:002 awrArlein    
Gwybodaeth Sylfaenol a Chyflwyniad  Grŵp 1: 8 Chwef 12.30-16.00

Grŵp 2: 10 Chwef 9.00-12.30
3.5 awr  Arlein    
Datblygiad Persona Defnyddiwr  Grŵp 1: 13 Chwef 9.00-12.30

Grŵp 2: 15 Chwef 9.00-12.30
3.5 awrArlein    
Hyfforddiant Dylunio Gwasanaeth  Rhan 1: 20 Maw 12.30-16.00
Rhan 2: 21 Maw 12.30-16.00
Rhan 3: 22 Maw 12.30-16.00
Rhan 4: 23 Maw 12.30-16.00
18 awrArlein    
Dosbarth Meistr Dylunio Gwasana  20 Chwef 12.30-16.004.5 awrArlein    
Cwrs Glasbrint Gwasanaeth  Grŵp 1: 27 Chwef 9.00-12.30

Grŵp 2: 28 Chwef 9.00-12.30
3.5 awrArlein    
Profiad Defnyddwyr ar gyfer Tudalennau Gwe  Grŵp 1: 14 Maw and 15 Maw
13:30 – 17:00

Grŵp 2: 28 Maw and 29 Maw
13:30 – 17:00
2 x 3.5 awrArlein    
Cwrs Mapio Taith  Grŵp 1: 2 Maw 13.30-17.00

Grŵp 2: 6 Maw 13.30-17.00
3.5 awrArlein    

Os nad ydych yn llwyddo i gael lle, mae gennym ni restrau aros wedi eu sefydlu ar Eventbrite fel y gallwch roi eich enw arnynt. Yna byddwn yn rhyddhau tocynnau pan fyddant yn dod ar gael i chi.

Mae croeso i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen at unrhyw un y credwch a allai fod â diddordeb yn eich awdurdod.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyrsiau, rhowch wybod i ni drwy e-bostio timdigidol@wlga.gov.uk  

Cymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys

Cynhelir ein sesiwn Cymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys nesaf ddydd Mawrth, 31 Ionawr rhwng 11am a 12pm. Yn y sesiwn, byddwn yn trafod safonau, egwyddorion a chanllawiau a sut y gellir casglu a chyfleu’r rhain mewn ffordd sy’n fwyaf gwerthfawr i awdurdodau lleol. Os hoffech chi fynychu, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk a byddwn ni’n anfon gwahoddiad i chi.

Gallwch hefyd ddarllen ein blog ar sesiwn gyntaf y Gymuned Ymarfer Dylunio Cymwys  lle trafodwyd beth hoffai’r aelodau ei gyflawni drwy’r gymuned ac amlinellu rhaglen ar gyfer sesiynau’r dyfodol.

Blogiau Diweddaraf

Ers ein newyddlen ddiwethaf rydym ni wedi cyhoeddi: Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd:  Dangos a Dweud Sbrint 2 Hawdd ei Ddarganfod ar Wybodaeth Ddiweddaraf am Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol.

Y Diweddaraf am y Tîm

Mae ein Pennaeth Darparu Hyblyg newydd, Lindsey Phillips, bellach wedi ymuno â ni o Gyngor Sir Powys. Mae Lindsey wedi bod yn teithio o amgylch Cymru dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn cwrdd â’n hawdurdodau lleol i drafod ein gwaith a rhannu syniadau ar sut gallwn wella’r byd digidol mewn llywodraeth leol.  Rydym yn gweithio ar ein strategaeth newydd ar gyfer mis Ebrill ar hyn o bryd, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, a byddwn yn cynnal rhagor o drafodaethau gyda thimau yn y misoedd nesaf. 

Diweddariad Digidol

Cynhelir ein sesiwn diweddaru digidol nesaf ddydd Mercher, 15 Chwefror rhwng 11am a 12pm.  Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwaith hyd yma eleni, gan gynnwys prosiectau’r Gronfa Trawsnewid Digidol a’r cynnydd ar ein strategaeth newydd.  Os hoffech wahoddiad, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk

Cronfa Trawsnewid Digidol

Mae gennym 6 prosiect yn derbyn cyllid eleni, ac fel rhan o’u cytundeb cyllid, bydd y timau’n darparu sesiynau dangos a dweud dros y misoedd nesaf i rannu eu gwaith.  Cyn gynted ag y bydd gennym ddyddiadau ac amseroedd, byddwn yn rhannu’r rhain er mwyn i chi fedru mynychu’r rhai sydd o ddiddordeb i chi.  Mae croeso i chi eu rhannu gydag eraill yn eich awdurdod. 

Mae’r dangos a dweud gyntaf am brosiect darganfod cynnwys y Gronfa yn cael ei chynnal ddydd Iau 9 Chwefror am 11yb-12yp.

Bydd y dangos a dweud gyntaf am brosiect LMS/LXP y Gronfa ar 16 Chwefror am 4yp–5yp.

Rhowch wybod i ni os hoffech chi fynychu drwy e-bostio timdigidol@wlga.gov.uk a byddwn yn eich ychwanegu at y gwahoddiad.

Gweminar y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar Gadw Talent Data Digidol a Thechnoleg  

Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cynnal eu seminar nesaf yn y gyfres Denu, Recriwtio a Chadw ar Gadw Talent Data Digidol a Thechnoleg ddydd Iau, 9 Chwefror rhwng 12:00 a 13:00.  Gallwch archebu lle drwy ddilyn y ddolen hon.

Sesiwn cinio a dysgu CDPS yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr

Bydd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cynnal cyfres o sesiynau cinio a dysgu rhad ac am ddim i bobl mewn sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus wedi’u datganoli i Gymru. Bydd y sesiynau’n ymarferol, wedi’u cynllunio i helpu ymarferwyr datblygu’r sgiliau er mwyn rhoi defnyddwyr yng nghanol eu proses dylunio gwasanaethau. Maen nhw’n 30 munud o hyd ac yn rhan o Campws Digidol – rhaglen hyfforddiant digidol CDPS. 

Mae’r sesiwn gyntaf yn ymdrin â sut i ddefnyddio ymchwil i wella eich gwasanaeth, a bydd yn cynnwys canllaw cam wrth gam rhad ac am ddim.

Manylion isod:

Sut i ddefnyddio ymchwil i wella eich gwasanaeth

Dydd Llun 30 Ionawr, 1yh
Ar-lein. Archebwch eich lle.

Mae CDPS ar daith!

Rydyn ni’n cynnal gweithdai peilot ar 3 o Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, a byddem wrth ein bodd eich gweld chi gyda ni, yn dweud eich dweud.

Dyma’r dyddiadau ar gyfer y gorllewin a’r gogledd:

  • Caerfyrddin, Llyfrgell Caerfyrddin (31/01/2023) 10:00yb – 12:00yh
  • Ynys Môn, M-SParc Parc Gwyddoniaeth Menai (07/02/2023) 10:00yb – 12:00yh

Dim ond 20 lle sydd ar gael ym mhob gweithdy. Archebwch yma

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *