Newyddlen Hydref 2022
Mis Hydref ac rydym yn swyddogol yn nhymor yr hydref! Dyma ein diweddariad misol – croeso i chi gael blanced a siocled poeth wrth ddarllen.
Newidiadau i’r Tîm
Mae ein Prif Swyddog Digidol, Sam Hall wedi gadael y tîm i fynd i weithio i Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl. Rydym yn drist i’w gweld yn gadael, ond wedi cyffroi am ei her newydd yn y sector iechyd. Gallwch weld ei blog ffarwelio yma.
Bydd ein Hymchwilydd Defnyddwyr, Chris, hefyd yn gadael ar 10 Tachwedd i ddechrau ei swydd newydd fel Uwch Ymchwilydd Defnyddwyr yn DXW.
Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Sam a Chris am eu holl waith caled. Roeddent yn aelodau sylfaenol o’r tîm ac mae eu gwaith cynnar wedi siapio’r tîm i’r hyn ydyw heddiw. Os bydd arnoch angen unrhyw beth wedi iddynt adael, e-bostiwch ni yn digitalteam@wlga.gov.uk.
Nes bydd ein Pennaeth Darparu Hyblyg newydd yn dechrau ddiwedd y flwyddyn, bydd Paul Owens yn gwneud y swydd Pennaeth Darparu Hyblyg dros dro i ddarparu parhad. Bydd gennym fanylion ein staff newydd a’u dyddiad dechrau ym mis Tachwedd.
Fframweithiau Dysgu
Mae’r Fframweithiau Dysgu yn lansio ddydd Llun 7 Tachwedd am 12pm. Mae’r fframweithiau’n darparu strwythur, rhestr o adnoddau a chefnogaeth er mwyn i ddysgwyr feithrin a datblygu sgiliau newydd mewn 2 swydd ddigidol: Dylunio Cynnwys ac Ymchwil Defnyddwyr. Hoffem weld cymaint â phosibl ohonoch yn y sesiwn, i gael gwahoddiad, e-bostiwch ni yn digitalteam@wlga.gov.uk.
Prosiect Gwella Gwasanaeth Blaenau Gwent
Rydym bellach wedi dechrau prosiect gyda Blaenau Gwent sy’n defnyddio dyluniad yn canolbwyntio ar y defnyddiwr i ymdrin â materion gyda’u gwasanaeth adrodd am sbwriel er lles preswylwyr a’r cyngor.
Byddwn yn cynnal sesiwn dangos a dweud yn yr wythnosau nesaf pan fydd aelodau’r tîm o Flaenau Gwent yn cyflwyno eu gwaith Darganfod cychwynnol, yn ogystal â dangos sut mae’r prosiect hwn yn siapio a beth maent wedi’i ddysgu hyd yma.
Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd
Mae ein dangos a dweud nesaf ar gyfer y prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd ddydd Iau 10 Tachwedd am 11am. Os hoffech wahoddiad, anfonwch e-bost at digitalteam@wlga.gov.uk
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol angen eich help!
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn ailddatblygu eu gwefan. Lansiwyd y wefan yn 2020 ac mae’n gyfyngedig ar hyn o bryd gan fod y sefydliad wedi tyfu ac aeddfedu. Maent yn chwilio am staff sy’n gweithio mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i roi adborth didwyll ac agored ar y wefan. Os oes gennych 5 munud, a fyddech cystal â chwblhau’r arolwg hwn.
Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cynnal galwad ffôn fer â chi, fydd yn eu helpu i siapio’r wefan a blaenoriaethu gwelliannau a gweld prototeipiau cynnar.
Yn ddiweddar, mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi cyhoeddi blog o gyfarfod diweddaraf yr holl Brif Weithredwyr/Prif Swyddogion Digidol ddydd Mercher 12 Hydref. Gallwch ddarllen am bopeth a drafodwyd a’r prif bwyntiau allweddol yn cynnwys y gwaith recriwtio a chadw, yma. Yn y dyfodol, byddwn yn rhannu diweddariad fideo o’r cyfarfodydd misol hyn o fis nesaf ymlaen.
Bwrdd Safonau Digidol
Fe wnaethom fynychu cyfarfod cyntaf y Bwrdd Safonau Digidol newydd, sy’n canolbwyntio ar safonau ar gyfer gwasanaethau digidol, data a thechnoleg i sector cyhoeddus Cymru. Mae cynrychiolwyr ar y Bwrdd o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, CLlLC, Llywodraeth Cymru a bydd ganddo gynrychiolwyr o Iechyd. Mae’r Cylch Gorchwyl yn cael ei greu ar hyn o bryd, ond os hoffech gael mwy o wybodaeth amdano, rhowch wybod i ni drwy e-bostio digitalteam@wlga.gov.uk
Blogiau Diweddar
Ers ein newyddlen ddiwethaf rydym wedi cyhoeddi: Prosiect Tlodi Bwyd Merthyr: Sbrint 3 Dangos a Dweud, Diweddariad Chwarterol Digidol Medi 2022, Newydd i Brofi Defnyddioldeb: Cwestiynau ac Atebion gyda Rachel Sollis a Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Arddangos Prototeip Gwasanaeth Gostyngiad Treth y Cyngor, a Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Sbrint 5 Dangos a Dweud.
Gadael Ymateb