Newyddlen Gorffennaf 2022

Newyddlen Gorffennaf 2022

Sesiwn Dangos a Dweud Prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd

Rydym yn cynnal ein sioe a dweud cyntaf am ein prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd ar ddydd Iau 14 Gorffennaf am 11yb. Mae’r prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd o wella profiadau dinasyddion sydd angen cefnogaeth y Cyngor yn ystod digwyddiad bywyd penodol – gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar ddigwyddiad bywyd mynd i dlodi. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein blogbost ar ddiwedd y darganfyddiad a dechrau’r alpha. Defnyddiwch y ddolen hon or catch up on our recordings of these sessions on ein gwefan afterwards.

Arfer Da gan y Cyngor

Rydyn ni’n llogi! Gweler ein rolau Swyddog Cefnogi Cyflenwi Ystwyth a Dylunydd Rhyngweithio / Profiad Defnyddiwr (UX) ar wefan wefan CLlLC. Am sgwrs am y rolau, e-bostiwch timdigidol@wlga.gov.uk

Recordio Sesiwn Ymchwil Defnyddiwr Tlodi Bwyd

Gwnaethom gynnal sesiwn dangos a dweud gyda Chris, un o’n hymchwilwyr defnyddwyr, gan siarad am ganfyddiadau ein hymchwil o gyfweld dinasyddion mewn tlodi fel rhan o’n Prosiect Data Tlodi Bwyd. Gwnaethom recordio’r sesiwn, a gallwch ailwrando arni ar ein gwefan.

Dal i Fyny ar Sesiwn Arweinwyr Digidol 

Wedi methu ein sgyrsiau Wythnos Arweinwyr Digidol o ddiwedd mis Mehefin? Gallwch eu gwylio eto yn eich amser eich hun ar wefan wythnos Arweinwyr Digidol, gyda’n sesiynau ar Ddylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd mewn Llywodraeth Leol a Dylunio Cynnwys mewn Llywodraeth Leol.

Blogiau Diweddaraf

Rydym wedi cyhoeddi blogiau yn ddiweddar ar bwysigrwydd dealltwriaeth ddigidol i swyddi rheoli uwch, a chyfres ar Egwyddorion Perswâd, gan gynnwys hoffi, ymateb a thystiolaeth cymdeithasol, Darganfod Data Tlodi Bwyd Merthyr TudfulDangos a Dweud Tlodi BwydDyluniad Gwasanaethau Digwyddiadau Bywyd AlffaCronfa Trawsnewid Ddigidol Llywodraeth Leol a Cam Alffa Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr.  

Cronfa Trawsnewid Ddigidol Llywodraeth Leol

Eleni bydd y Tîm Digidol CLlLC yn rheoli Cronfa Trawsnewid Ddigidol Llywodraeth Leol. Mae’r gronfa yn bodoli i wella ac adnabod cyfleoedd i wella trawsnewid digidol llywodraeth leol yng Nghymru. Mae cyllid eleni ar agor yn awr ar gyfer ceisiadau, ac mae’r blog hwn yn rhoi’r holl fanylion i chi ar sut i wneud cais.

Dyddiad cau y cais yw 15 Awst, a bydd y ceisiadau yn cael eu rhannu ar draws yr Awdurdodau i nodi cyfleoedd i rannu neu gymryd rhan lle mae diddordeb. Bydd y broses comisiynu yn digwydd ar 30 Awst lle bydd y panel yn adolygu cyflwyniadau ac yn dyrannu cyllid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Gronfa, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk.

MIS Addysg

Rydym hefyd yn dechrau ar brosiect darganfod ar raddfa fawr, fydd yn edrych ar Systemau Gwybodaeth Rheoli Addysg. Mae’r systemau hyn yn hanfodol i reoli ysgolion a disgyblion a chânt eu defnyddio gan bob ysgol ac awdurdod lleol ar draws y wlad. Fe gaiff y prosiect hwn ei reoli gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol fydd yr Uwch Berchennog Cyfrifol, a chaiff ei gefnogi gan bobl o bob rhan o fyd llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.

Cymuned Ymarfer Dylunio Gwasanaeth

Byddwn ni’n cael seibiant dros yr haf oddi wrth y Gymuned Ymarfer a chynhelir ein sesiwn nesaf ganol fis Medi, er mwyn rhoi cyfle i bawb ymlacio a dychwelyd yn ffres a pharod i fynd!

Os byddwch chi ar wyliau dros y 6 wythnos nesaf, mwynhewch a diolch am fynychu ein sesiynau dangos a dweud, ein cyfarfodydd, a chymryd rhan yn y gwaith rydym yn ei wneud. Byddwn ni’n brysur rhwng nawr a mis Medi, gan gyflwyno mwy o ddigwyddiadau a diweddariadau i chi pan fyddwch chi’n ôl yn y swyddfa.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *