Newyddlen Rhagfyr 2022

Newyddlen Rhagfyr 2022

Croeso i’n diweddariad mis Rhagfyr, rydym ni’n gobeithio eich bod chi’n cadw’n iawn ac yn gynnes.  Hoffem ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni eleni, wedi cymryd rhan mewn prosiectau, wedi dod i sesiynau hyfforddi a dangos a dweud, wedi dod i sesiynau diweddaru, ac wedi ceisio am y Gronfa Trawsnewid Digidol.  Rydym ni’n gobeithio eich gweld chi wedi eich adfywio ac wedi bwrw’ch blinder yn 2023 ar gyfer rhagor!  

Newyddion y Tîm

Rydym ni’n falch o gyhoeddi mai ein Pennaeth Darparu Hyblyg newydd fydd Lindsey Phillips o Gyngor Sir Powys, a fydd yn dechrau ddiwedd mis Rhagfyr. Bydd Lindsey yn cymryd lle Jo Goodwin a adawodd ym mis Awst, ac rydym ni’n gyffrous iawn i’w chroesawu hi i’r tîm!  Byddwn ni’n cael blog gan Lindsey yn y flwyddyn newydd ynglyn â’i swydd newydd a sut hwyl gafodd hi yn ei wythnosau cyntaf.

Hyfforddiant

Rydym ni wedi cael ambell i neges e-bost gan bobl ar draws yr awdurdodau’n gofyn i ni am gyrsiau hyfforddi ar gyfer eleni.  Rydym ni ar hyn o bryd yng nghanol ymarfer caffael i gael cyrsiau hyfforddi i’w cynnal ym mis Chwefror a mis Mawrth 2023. Bydd gennym ni ragor o wybodaeth i chi ganol mis Ionawr am hyn a byddwn ni’n anfon e-bost pan fydd y dyddiadau a’r amseroedd gennym ni ynghyd â dolenni er mwyn cadw lle – diolch am fod yn amyneddgar â ni!  

Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd Dangos a Dweud

Bydd ein sesiwn dangos a dweud nesaf ddydd Iau 15 Rhagfyr am 11am – 11:30am. Os hoffech chi gael gwahoddiad, anfonwch e-bost at timdigitol@wlga.gov.uk

Cymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys

Cynhaliwyd ein cyfarfod Cymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys cyntaf ddydd Mawrth 29 Tachwedd.  Roedd yn sesiwn gadarnhaol iawn yn cynnwys llawer o syniadau am sut i ddatblygu dylunio cynnwys fel disgyblaeth yr ydym ni yn awr yn bwriadu adeiladu arni.

Bydd y sesiwn nesaf ddydd Mawrth 31 Ionawr, 11am – 12pm pan fyddwn ni’n trafod safonau, egwyddorion a chanllawiau a sut y gellir casglu a chyfleu’r rhain mewn ffordd sy’n fwyaf gwerthfawr i awdurdodau lleol.  Os hoffech chi gael gwahoddiad, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk a byddwn ni’n anfon gwahoddiad i chi.

Blogiau diweddaraf Ers ein newyddlen ddiwethaf rydym ni wedi cyhoeddi: Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd:  Dangos a Dweud Sbrint 1 Hawdd ei Ddarganfod, Fy mis cyntaf fel Dylunydd Profiad Defnyddiwr yn Nhîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru, Prosiect Gwella Gwasanaeth Blaenau Gwent: Dangos a Dweud a Chymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys

Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)

Gweminar rhannu gwybodaeth: Recriwtio talent Data Digidol a Thechnoleg ym marchnad swyddi Cymru, 15 Rhagfyr 12yh

Mae galw mawr am sgiliau digidol ac mae’n hybys fod y sector cyhoeddus yn wynebu argyfwng recriwtio. Mae hefyd yn argyfwng denu a chadw gyda llawer o haenau.

Ar ôl trafod y mater gyda Phrif Swyddogion Digidol Cymru, bu’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), yn cyfweld ag ystod eang o randdeiliaid ar draws y sector cyhoeddu ym mis Awst 2022. Rydym wedi grwpio’r materion a gododd yn themâu y gallem eu datrys yn ymarferol.

Bydd ein gweminar nesa yn canolbwyntio ar recriwtio talent DDaT yng Nghymru.

  • Sut ydych chi’n recriwtio pobl o’r byd digidol i wasanaethau cyhoeddus?
  • Beth yw’r camau yn eich proses recriwtio?
  • Oes yna unrhyw gamau sy’n atal pobl rhag gwneud cais?
  • Ydi’ch proses recriwtio chi yn hygyrch a chynhwysol?
  • Ydych chi’n colli ymgeiswyr oherwydd amser neu brosesau mewnol?

Byddwn yn argymell:

  • Y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud pethau
  • Sut i gael y gorau allan o ddarpar ymgeiswyr yn y cyfnod cyfweld
  • Arfer gorau a chanllawiau eraill

Byddwn hefyd yn clywed gan gyngor Castell-nedd Port Talbot am eu profiadau nhw wrth arbrofi gyda dulliau newydd yn eu hymgyrch recriwtio digidol diweddaraf.

Archebwch yma

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *