Recordio Cynadleddau Digidol WLGA

Recordio Cynadleddau Digidol WLGA

Ddydd Iau, 20 Ionawr, cynhaliwyd y gynhadledd ddigidol gyntaf ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Cawsom bresenoldeb arbennig o dda, gyda mwy nag 80 o bobl yn gwylio sesiwn y bore, felly diolch i bawb a ymunodd. Dyma’r ddolen Vimeo i’w gwylio.

Dechreuwyd y diwrnod gan yr Athro Tom Crick (Twitter) o Brifysgol Abertawe, gyda’i sesiwn ar ddata a dechrau gyda phroblem. Trafododd y posibiliadau, mewn byd ar ôl Covid, o ailosod er mwyn darparu gwasanaethau digidol mwy integredig a fydd yn gweithio, nid yn unig er budd sefydliadau, ond er budd defnyddwyr.

Siaradodd Heledd Quaeck (Twitter) â ni ynglŷn â chynllunio gwasanaethau dwyieithog da, a’r gwaith y mae’n ei wneud yng Nghyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y gwasanaethau a’r cynnwys yn cyrraedd anghenion defnyddwyr.

Trafododd Sam Hall (Twitter) bwysigrwydd diwylliant i waith digidol, a’r egwyddorion arweiniol sy’n ffurfio diwylliant cadarnhaol. Yn ogystal, pwysodd a mesur y diwylliant presennol y mae wedi ei brofi yn ystod ei blwyddyn gyntaf fel Prif Swyddog Digidol.

Dangosodd Peter Thomas (Twitter) o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol y gwaith y mae’n ei wneud yn gwella arbenigedd digidol ledled gwasanaethau cyhoeddus, a datblygu’r sgiliau a’r galluogrwydd i gynorthwyo’r sector cyhoeddus i drawsnewid yn ddigidol.

Ymunodd y Cynghorydd Jane Mudd (Twitter) , arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, â ni i ddod â’r sesiwn i ben, a myfyrio ar y gwaith yr ydym wedi ei wneud a’r cyfeiriad y mae CLlLC a digidol yn mynd iddo yng Nghymru.

Cafwyd cyfleoedd drwy gydol y diwrnod i ofyn cwestiynau, ac rydym yn parhau i geisio ateb y cwestiynau nad atebwyd ar y pryd. Byddwn yn rhoi dolen iddynt yma pan fyddwn wedi cael cadarnhad ohonynt.

Diolch yn fawr i’r siaradwyr gwych, i bawb a ymunodd, a pheidiwch ag anghofio – os wnaethoch chi fwynhau’r sesiwn ac rydych eisiau bod yn bresennol mewn mwy o’n digwyddiadau, gellwch danysgrifio yma i gael gwybod am sesiynau sydd ar y ffordd.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *