Profiad yr etholiad

Profiad yr etholiad

Ar ôl bod yn Was Sifil am bron i 30 mlynedd roeddwn yn ymwybodol o’r effaith y mae etholiadau’n ei chael ar lywodraeth ganolog. Roeddwn wedi bod yn un o’r bobl a oedd yn diweddaru gwefannau gydag enwau newydd, adrannau newydd a pholisïau newydd a wnaed yn ddieithriad ar gyflymder a gyda llawer o graffu.

Yr hyn nad oeddwn wedi’i wneud oedd cael profiad o ochr ‘fusnes’ y broses etholiadol. Newidiodd hynny gyda’r etholiadau llywodraeth leol diweddar, pan fues i a dau aelod o’r tîm yn ddigon ffodus i gael mynd i’r cyfrif yn yr etholiad fel arsylwyr. Aeth Emma i Ben-y-bont ar Ogwr, aeth Paul i Gaerffili a threuliais y diwrnod yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent gyda swyddogion Sir Fynwy yn rheoli’r cyfrif.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr i’r bobl a fu’n ymateb i fy nghwestiynau drwy’r dydd, yn enwedig Paul, y Prif Weithredwr, John a oedd yn rheoli’r cyfrif a Matt a Deb a oedd yn gyfrifol am wirio’r cyfrif yn erbyn cyfansymiau’r pleidleisiau a naill ai’n uwchlwytho’r canlyniadau neu’n anfon y ‘goruchwyliwr bwrdd’ yn ôl i gyfrif eto!

Dechreuodd y diwrnod tua 8am. Roedd Cymru wedi penderfynu peidio â chyfrif dros nos, sef y broses draddodiadol; siaradais â rhai o swyddogion y cyngor a rhai ymgeiswyr, a’r farn gyffredinol oedd bod yn well gan lawer brofi’r cynnwrf sydd i’w deimlo wrth gyfrif dros nos. Roedd y cyffro cynyddol i’r ymgeiswyr yn rhywbeth yr oeddent yn edrych ymlaen ato. Dywedodd swyddogion ei fod yn ddiwrnod hir iawn os oedd y cyfrif yn digwydd dros nos, ond nad oedd rhai o’r tîm a oedd â dyletswyddau yn yr etholiad mewn gwirionedd yn ymlacio y noson honno gan eu bod yn gwybod y byddai’n rhaid iddyn nhw ddychwelyd yn gynnar drannoeth ar gyfer y cyfrif.

Ar ôl i’r byrddau cyfrif pleidleisiau gael eu gosod, eisteddodd y bobl a oedd yn cyfrif wrth y byrddau, rhoddwyd y blychau pleidleisio ar gyfer wardiau arnynt, ac roedd pawb yn barod i ddechrau. Dim ond dilysu y mae’r cyfrif cyntaf – ydi nifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio yn cyfateb i nifer y pleidleisiau a gofnodwyd yn yr orsaf bleidleisio? Yn syml, os oes gan y blwch pleidleisio 100 o bleidleisiau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, yna dylai fod 100 yn y blwch pan gaiff ei agor. Mae’r pleidleisiau post i gyd mewn blwch gwahanol wedi’i selio yn barod i’w hychwanegu at y cyfansymiau.

Rydyn ni i gyd wedi gweld y neuaddau chwaraeon yn llawn pobl ar fyrddau hir yn cyfrif pleidleisiau, ond yr hyn nad oeddwn wedi’i ragweld oedd nifer y bobl yn y wasg o gwmpas yr ymgeiswyr a’u hasiantau. Mae’r neuadd yn fwrlwm o weithgarwch gyda ‘goruchwylwyr y byrddau’ yn mynd yn ôl a blaen i’r ddesg reoli gyda’u cyfrif bob dau funud. Mae ymgeiswyr a’u hasiantau yn cadw golwg ar y cyfrif yr ochr arall i’r byrddau. Mae ganddynt glipfyrddau ac maent yn cofnodi’r hyn y maent yn ei weld ar y papurau pleidleisio wrth iddynt gael eu cyfrif. Mae hyn yn rhoi syniad cynnar iddynt o’r ffordd y gallai’r bleidlais fynd. 

Unwaith y bydd y gwaith cychwynnol o gyfrif y pleidleisiau wedi dod i ben, caiff dalennau enfawr o bapur, sef y dudalen gyfrif ‘grass skirts’ eu rhoi i bob bwrdd a rhoddir y pleidleisiau’n sownd arnynt, ac yna caiff y pleidleisiau ar gyfer pob ymgeisydd yn y ward eu cyfrif. Mae unrhyw bleidleisiau nas defnyddiwyd hefyd yn cael eu hychwanegu. Felly, mewn wardiau aml-aelod efallai y cewch bleidleisio dros 3 o bobl, ond dim ond ar gyfer 1 neu 2 neu hyd yn oed 0 y gall rhai bleidleisio. Mae’r pleidleisiau hyn nas defnyddiwyd yn cael eu cyfrif i roi nifer gyffredinol o bleidleisiau y gellid bod wedi’u bwrw, y rhai a fwriwyd mewn gwirionedd, a faint o bleidleisiau y mae pob ymgeisydd wedi’u cael. 

Mae rhai cynghorau’n symud i ffwrdd o’r broses bapur hon, ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr defnyddiwyd taenlenni ar gyfer cyfrif wardiau aml-aelod. Roedd y rhain yn gweithio mewn ffordd debyg i’r dudalen gyfrif, ond byddai un o’r bobl oedd yn cyfrif yn darllen pa ymgeiswyr oedd wedi cael pleidlais, a byddai person arall yn nodi’r rhifau cyfatebol ar y daenlen drwy fysellbad. Roedd taenlenni’n cael eu harddangos ar sgriniau yr ochr gyferbyn i’r rhai oedd yn cyfrif fel y gallai pobl wylio’r cyfrif wrth iddo ddigwydd.

Rhan fwyaf cyffrous y broses yw’r cyhoeddiad. Dyma pryd mae’r Swyddog Canlyniadau, Paul Matthews yn Sir Fynwy, a chyfieithydd yn darllen y canlyniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a’r ymgeisydd buddugol yn dweud ychydig eiriau o ddiolch. Mae ein ffrindiau o’r wasg fel arfer yn aros am y rhan hon o’r broses gan mai yma mae’n bosibl iddyn nhw gael stori. Ac yn yr etholiadau hyn, felly y bu hi.

Roedd tri phwynt o ddiddordeb i’r wasg yn Sir Fynwy. Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, mae gan yr awdurdod lleol hwn bellach raniad o 50/50 o ddynion a menywod yn Gynghorwyr. Mae cymaint o waith gwych wedi’i wneud ledled Cymru i ddenu talent newydd ac amrywiol i’r rolau llywodraethu hyn ac mae’n gweithio. Mae’n edrych fel bod nifer y menywod wedi cynyddu i’r ffigwr uchaf erioed yng Nghymru, ac ynghyd â Sir Fynwy mae gennym hefyd raniad o 50/50 ym Mro Morgannwg.

Yn ail, bu newid arall, o fod yn gyngor dan arweiniad y Ceidwadwyr i un heb unrhyw reolaeth gyffredinol. Roedd straeon tebyg eraill o amgylch y DU, ond yng Nghymru roedd Sir Fynwy wedi bod yn ‘las’ ers amser maith. Bellach Llafur sydd â’r nifer fwyaf o Gynghorwyr, ond nid mwyafrif, felly mae’n ymuno â’r rhestr hir o gynghorau ‘heb unrhyw blaid gyda mwyafrif‘ yng Nghymru.

Ac yn olaf, dewiswyd Cynghorydd trwy daflu ceiniog. Rhaid i chi fy nghredu pan ddywedaf fod y swyddogion wedi gwneud ymdrech aruthrol pan aethpwyd ati i gyfrif, adrodd a chael set wahanol o bobl i ail-gyfrif. Gwnaethant bopeth posibl i sicrhau bod y rhifau’n iawn cyn i ni orfod dewis rhwng y ddau. Yn anffodus, bu’n rhaid dewis, a gan Paul oedd y dasg o daflu ceiniog a fyddai’n penderfynu tynged dau was cyhoeddus ymroddedig. Yr oedd yn eiliad llawn tensiwn ac anodd, a dim ond gwylio oeddwn i. Roedd Paul yn wych. Roedd yn glir ac yn gadarn cyn ac ar ôl taflu’r geiniog, ond yna’n llawn cydymdeimlad wedyn. A dweud y gwir, doedd neb yn credu ei fod yn ffordd addas o ddod ag ymgyrch i ben, ond dyna’r rheolau ac fe’u dilynwyd i lythyren y ddeddf.

Felly, pam roedd fy nhîm yn y tri chyfrif? Ai dim ond chwilfrydedd oedd y rheswm? Siawns nad oedd gennym rywle gwell i fynd ar ddydd Gwener braf ym mis Mai? A’r ateb wrth gwrs yw ‘digidol’. Ceir sgyrsiau bob amser mewn Llywodraeth Leol ynglŷn â sut y gellir pleidleisio a chyfrif yn gyflymach, yn rhatach, ond gan sicrhau cywirdeb, gwaith craffu a diogelwch. Aethom i weld y broses ‘yn digwydd’. Aethom i siarad â’r bobl sydd â phrofiad ac i ddeall beth allai newid, ac yn wir, beth ddylai newid. Roeddem yn gallu gweld sawl cyfle i gynnwys rhywfaint o ymyrraeth ddigidol ac rwy’n siŵr dros y misoedd nesaf y bydd llawer mwy o sgyrsiau am brofion peilot y gallem eu cynnal i wneud y broses bleidleisio’n symlach a gwella profiad pleidleiswyr ac ymgysylltu â nhw.

Wedi dweud hynny, hyd yn oed pe bai’r broses yn ddigidol ni fyddai wedi effeithio ar ganlyniad yr etholiad, nac wedi arbed yr angen i daflu ceiniog. Felly mae llawer i’w wneud, ac mae’n debyg y bydd Diwygio Etholiadol yn destun dadlau o bwys am byth!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *