Meddwl yn ofalus ac edrych yn ôl

Meddwl yn ofalus ac edrych yn ôl

Ni allaf gredu fy mod i wedi bod yn y rôl hon am flwyddyn gyfan! Mae wedi hedfan heibio, ac eto wrth edrych yn ôl, gwelaf faint rydym wedi’i wneud, ac rwy’n synnu ein bod wedi llwyddo i ffitio’r cyfan mewn dim ond 12 mis byr.

Mae fy nhîm a minnau wedi ysgrifennu llawer o bostiadau yn rhoi diweddariad ar y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud a’r prosiectau rydym ni’n ymwneud â nhw, felly wna i ddim ail-ymweld â hynny. Rwy’n mynd i fod yn hunanol ac ysgrifennu am sut brofiad oedd y flwyddyn ddiwethaf i mi a’r 5 prif beth sydd wedi gwneud argraff arna i.

1. Diwylliant cefnogol

Mae pawb yn gwybod pa mor gefnogol yw’r byd digidol. Rydym ni’n gweithio ar brosiectau syml ac yn ceisio datrys problemau tebyg. Rydym yn gweithio’n agored, rydym yn rhannu, trafod, ac rydym yn rhwydweithio. Os oes angen cefnogaeth arna i, mae yna bobl a fydd yn ymateb i neges Twitter mewn munudau. Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi disgwyl i’r un math o ddiwylliant fod yno yn Llywodraeth Leol Cymru, yn wir roedd pobl wedi dweud wrtha i ei fod yn amgylchedd cystadleuol. Efallai bod hynny’n wir mewn rhai meysydd, ond rwyf wedi gweld prosiectau’n tynnu pobl o bob rhan o ddisgyblaethau at ei gilydd, ar draws awdurdodau lleol, ac ar draws sefydliadau ac mae’n digwydd fwy a mwy. Rwy’n awyddus iawn i gadarnhau hyn yng ngwneuthuriad ein Llywodraeth Leol, a’i wneud yn rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn falch ohono – y ffaith ein bod yn cyfuno ein hymdrechion i wneud Cymru hyd yn oed yn well. Rwy’n meddwl ein bod ni ar y ffordd ond mae tipyn eto i gyrraedd yno.

2. Cynnydd mewn Dyluniad Gwasanaeth

Pan adewais y Gwasanaeth Sifil, nid oedd gennym unrhyw ‘ddylunwyr gwasanaeth’ yn ein timau amlddisgyblaethol. Roedd y teitl yn dal i deimlo’n eithaf ffres hyd yn oed os oedd y ddealltwriaeth o’r hyn a wnaethant yn gwneud synnwyr ac yn rhan o’r cyflwyniad. Yn Llywodraeth Leol Cymru nid oes gennym nifer fawr o rolau DDaT adnabyddadwy, ac mae hynny’n cynnwys Dylunwyr Gwasanaeth. Dydw i ddim yn meddwl bod gennym lawer rŵan, ond manteisiodd cymaint ar hyfforddiant ar Ddylunio Gwasanaeth ar draws awdurdodau. Roedd yr ymrwymiad yn wirioneddol ysbrydoledig ac erbyn hyn mae pobl yn siarad llawer mwy am y farn gyfannol o ddylunio gwasanaethau yn hytrach na chyfuno grŵp o drafodion yn unig. Mae hyn yn teimlo fel bod newid mawr ar droed o ran sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu yng Nghymru.

3. Gwybod eu bod yn gefn i mi

Mae hyn mor bwysig os ydych chi am wneud newid parhaol ac ymgorffori diwylliant sy’n gefnogol o’r hyn y gallwn ei wneud gydag offer oes y rhyngrwyd ac sy’n caniatáu i ni geisio, a methu, a chodi’n ôl i fyny. Un o’r pethau a’m denodd i’r rôl oedd yr ymrwymiad i wella ar draws y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru. Cafwyd cefnogaeth ar y lefelau uchaf gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Prif Weithredwyr ac Arweinwyr Cyngor i gyd yn mynegi eu hymrwymiad dros yr hyn sy’n fudiad digidol enfawr. Fel y gwyddoch, mae dweud eich bod yn cefnogi rhywbeth ac yn mynd ati i wneud hynny yn ddau beth gwahanol. Wel, nid dyna’r achos yng Nghymru. Roedd Tîm Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru a Gweinidogion (blaenorol a chyfredol) yn gefnogol o’r dechrau. Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ond hefyd yn cario’r portffolio Digidol, yn gwbl ymrwymedig i waith digidol ac yn gefnogwr dros ein gwaith. Mae Prif Weithredwyr o awdurdodau lleol wedi gwneud amser i ni ac wedi rhannu eu gobeithion a’u hofnau am eu cymunedau gyda ni. Ac er efallai na fydd y maes digidol ar dop rhaglenni Arweinydd y Cyngor drwy’r amser, rydym yn gweld mwy a mwy o ymrwymiad ar lefel cabinet i gael cefnogaeth a chyllid ar gyfer gwella’r maes digidol. Rydym ni mewn sefyllfa dda, un sy’n agored i newid ac i her, ac mae gennym ni’r gefnogaeth.

4. Cydweithio cytûn

Fe wnes i gyfeirio yn gynharach at fudiad digidol yng Nghymru. A chymaint ag yr wyf yn siarad am fy mlwyddyn gyntaf yn y rôl fel y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru, gwn nad wyf wedi bod ar fy mhen fy hun ar y daith. I ddechrau, mae datblygu fy nhîm wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i mi. Rwyf wedi bod yn ffodus ein bod ni wedi denu pobl wych. Mae’r tîm mor ysbrydoledig â minnau, maen nhw’n gwneud y gwaith trwm ac yn ymdrin â llawer mwy nag mewn rolau blaenorol, ond hefyd yn dysgu llawer bob dydd. Y tu allan i’m tîm mae gennym CLlLC sy’n ein cynnal, mae’r gymdeithas hon wedi bod yn cefnogi cynnydd llywodraeth leol ers blynyddoedd lawer. Mae eu gwybodaeth am sut mae’n gweithio a gyda phwy i siarad wedi bod yn amhrisiadwy, heb sôn am y gefnogaeth i AD, recriwtio a’r holl bethau eraill hynny na all timau bach eu gwneud eu hunain. Ac yna mae Llywodraeth Cymru a’i Brif Swyddog Digidol Glyn Jones, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a’r Prif Weithredwr dros dro Sally Meecham, ac Ifan Evans sydd wedi cadw pethau i fynd ar yr ochr Iechyd tra bod Prif Swyddog Digidol Iechyd yn cael ei recriwtio. Fel grŵp, rydym yn cwrdd bob wythnos yn ddi-ffael. Rydym yn rhannu, yn datrys problemau ac yn herio. Felly mae uwch arweinwyr digidol gwlad gyfan yn dod at ei gilydd ac yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer un nod cyffredin. I mi, mae hynny’n eithaf arbennig, ac rwy’n falch iawn ein bod yn ymrwymo i hyn, a’n bod yn gwneud yr amser i rannu gyda’n gilydd.

5. Croesawu’n fewnol

Pan gymerais y swydd hon i ddechrau, nid oeddwn yn siŵr sut argraff y byddwn i’n ei gael ar bobl ar draws Llywodraeth Leol. Efallai y byddan nhw’n meddwl bod fy nhîm a minnau yno i gadw llygad arnyn nhw, dweud wrthyn nhw sut i wneud pethau, ymyrryd hyd yn oed. O’r dechrau, rydw i, a fy nhîm rwy’n siŵr, wedi teimlo bod croeso i ni yng Nghymru. Mae yna dimau o bobl DDaT sy’n gwneud gwaith hanfodol, sy’n newid bywydau ar draws eu sefydliadau. Roedden ni am bwysleisio ein bod ni yma i helpu, nid i nadu. Rydym ni yn cwestiynu pethau, ac rydym ninnau’n cael ein cwestiynu. Rydym ni eisiau cael ein cynnwys, ond rydym ni hefyd eisiau bod yn gynhwysol. Rydym ni am i bawb rannu’r hyn maen nhw’n ei wneud, felly rydym ni’n ceisio arwain drwy esiampl a bod yn agored ac yn dryloyw. Oherwydd yn fwy na dim, rydym ni eisiau i Gymru fod yn lle gwych i fyw a gweithio ynddi, i’n cydweithwyr Llywodraeth Leol yn ogystal â phawb arall. 

Felly i orffen, hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn. Yn fy mlog nesaf, byddaf yn edrych ymlaen at yr hyn sy’n dod yn fuan gan ein tîm yn 2022.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *