Mae’n Ddyddiau Cynnar O Hyd… OND…

Mae’n Ddyddiau Cynnar O Hyd… OND…

Rydym i gyd yn gwybod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i’r rhan fwyaf ohonom. Mae gymaint o ansicrwydd wedi bod, sy’n ei gwneud yn fwy rhyfedd i fod wedi newid swydd yn ystod pandemig. Ond newid wnes i. Roeddwn i wrth fy modd yn fy swydd yn Birmingham, hyd yn oed yn ystod yr amseroedd anodd o ran y cyfnod clo, gwarchod, materion cyfarpar diogelu personol a phopeth arall oedd yn ein hwynebu ni, roeddwn i’n gallu dibynnu ar fy nhîm bob amser i wneud eu gorau. Roedden nhw’n wych. Bob un diwrnod.

Roedd rôl Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol Cymru yn swydd ddelfrydol i mi. 

Y swydd gyntaf o’i math, yn fy mhroffesiwn i, yn fy ngwlad i, ac ar gyfer y bobl rwy’n eu caru. Amdani!

Roedd fy nghalon yn dweud bod rhaid i mi gyflwyno cais. Roedd yn broses eithaf hir – fel popeth ar y lefel hon. Ond roedd hi’n broses werth chweil, ac roeddwn i’n gwybod o’r dechrau y byddwn i’n mwynhau’r swydd yn arw. Nawr fy mod i yn y swydd ers tri mis, rwy’n sicr fy mod i wedi gwneud y peth iawn.

Fy nheimlad i ddechrau oedd – ‘am griw hyfryd’ yw criw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ac mae hynny’n hollol wir. Mae pawb rwyf wedi dod ar eu traws wedi bod yn barod i helpu a chyfeillgar. Maen nhw’n ymrwymedig a chymhellol yn eu meysydd unigol, ond mae gan bawb yr un nod o gefnogi cynghorau i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl.

A dyna lle mae fy swydd i’n dod i mewn.

Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl o bob rhan o gynghorau, swyddogion a chynghorwyr. Maen nhw’n deilio â chymaint o bethau, ac maen nhw’n dal i chwilio am welliannau ac arloesedd. Mae llawer iawn o gefnogaeth yng Nghymru o bob lefel o’r llywodraeth. Mae’n teimlo fel dyddiau Gwasanaethau Digidol cynnar y Llywodraeth, pan oeddem ni’n gwybod bod gan y tîm yno y gefnogaeth i wneud newid go iawn, parhaus. Mae’r teimlad hwnnw gan Gymru, fel gwlad, nawr.

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol newydd wedi’i sefydlu ac mae’n ein helpu i nodi prosiectau cydweithredol lle gallwn gydweithio i ddatrys problemau a gwella gwasanaethau – unwaith i Gymru. Rydw i, Sally, sef y Prif Swyddog Gweithredol dros dro ar gyfer y Ganolfan, Glyn, sef Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Digidol newydd GIG Cymru yno i ddatblygu a meithrin ecosystem ddigidol wedi’i gyrru gan ddata. Rydym yn meddwl am ein blaenoriaethau eisoes, a sut gallwn gydweithio ar y pethau hynod o bwysig fel amrywiaeth, cynhwysiant, cyfranogiad, denu a chadw talent yng Nghymru, a datblygu datrysiadau arloesol i ddarparu gwasanaethau.

Felly roedd y tri mis cyntaf yn ymwneud â theimlo. Ystyried rhan emosiynol y rôl. Y darn sy’n dweud wrthych pa mor ymroddedig yw pobl, pa mor bwysig yw hyn iddyn nhw, a faint mae darparu gwasanaethau i’n dinasyddion yn ei olygu iddyn nhw. Mae’r tri mis nesaf yn ymwneud â dysgu a deall. Beth mae ein dinasyddion ei eisiau gennym ni? Lle rydym ni nawr o ran darparu hynny? Lle mae angen i ni fod? Sut rydym ni’n mynd i wneud hynny? Cwestiynau hawdd! Ni allaf i ddechrau egluro pa mor gyffrous yw’r cyfnod hwn i ni. Does dim byd yn ormod – Cymru ydym ni ac mae popeth gennym i’w gynnig.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *