Gweithgorau
I gofrestru ar gyfer gweithgor, llenwch y ffurflen fer hon.
Ers ymuno â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Chwefror, rwyf wedi siarad â channoedd o swyddogion llywodraeth leol. Mae rhai heriau a themâu cyffredin yn codi dro ar ôl tro.
Felly, yn hytrach na pharhau i siarad amdanynt, meddyliais y gallem ddatrys rhai ohonynt.
Gan ddechrau ym mis Medi, byddwn yn cynnal gweithgorau er mwyn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau cyffredin. Rydym wedi clywed am yr heriau hyn drwy siarad ag amrywiol grwpiau, timau, paneli a byrddau yng Nghymru.
Y syniad o weithgorau
Mae’n beth prin iawn i un tîm, proffesiwn neu grŵp unigol ddatrys problem ar eu pen eu hunain.
Mae angen sawl safbwynt, ac mae angen cydweithio er mwyn dod o hyd i rywbeth sy’n gweithio.
Fy syniad i ar gyfer y gweithgorau hyn yw y dylem adeiladu timau amlddisgyblaethol o bob rhan o lywodraeth leol yng Nghymru er mwyn rhannu safbwyntiau, syniadau a golygon ar broblem. Byddwn yn gwneud hynny mewn gofod diogel er mwyn gweithio tuag at ddatrys y broblem, neu o leiaf rannu pam na allwn ei datrys ar unwaith.
Mae gofod diogel yn hollbwysig.
Mae’n hanfodol fod pawb yn teimlo’n ddigon hyderus i rannu eu syniadau a’u safbwyntiau, gan fod yn chwilfrydig ac yn agored i safbwyntiau a heriau eraill ar yr un pryd.
Rwyf wedi clywed dro ar ôl tro bod rhwystrau yn atal cynnydd mewn awdurdodau lleol. Weithiau gall y rheini fod yn gysylltiedig â pholisi, cyllid, technoleg, neu sgiliau. Ac weithiau gall fod yn rhy anodd cael yr holl bobl y mae angen iddynt weithio gyda’i gilydd i weithio gyda’i gilydd.
Dyma lle bydd y gweithgorau (gobeithio) yn cynnig rhywbeth gwahanol.
Hoffem ddod â phobl at ei gilydd i helpu i ddatrys rhai o’r heriau hyn, felly rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb neu brofiad o’r pwnc i gofrestru.
Cymryd rhan yn y gweithgorau
Rydym wedi llunio rhestr fer o bynciau i ddechrau eu trafod ym mis Medi.
Bydd pob gweithgor yn cynnwys swyddogion o wahanol awdurdodau lleol ar draws Cymru, gyda gwahanol safbwyntiau, ac o dimau a meysydd gwasanaeth eraill hefyd, mwy na thebyg.
Bydd pob gweithgor yn gweithio am uchafswm o 12 wythnos, gyda phob cyfranogwr yn rhoi 2 awr yr wythnos i’r grŵp.
Bydd pob grŵp yn archwilio problem ac yn profi syniadau ynghylch y problemau hyn er mwyn darparu deilliannau y gallant eu rhannu a’u gweithredu yn eu hawdurdodau lleol.
Byddwn yn addasu’r fethodoleg gwib ddylunio, a fabwysiadwyd gyntaf gan Google, ym mhob gweithgor. Gallwch ddod i wybod mwy am wibiau dylunio ar wefan y Design Sprint Academy.
Bydd aelod o dîm digidol Llywodraeth Leol Cymru yn hwyluso pob sesiwn ac yn hyfforddi’r timau rhithiol.
Crynodeb o bob wythnos ar gyfer pob gweithgor:
Wythnos 1: Cyflwyniadau i’r tîm, ffyrdd o weithio, a diffinio’r broblem
Wythnos 2: Sesiwn fframio a chasglu mewnwelediadau a data gan ddefnyddwyr
Wythnos 3: Sgyrsiau sydyn a diffinio sut i fesur llwyddiant
Wythnos 4: Braslunio datrysiadau
Wythnos 5: Cymheiriaid yn adolygu ac yn dadansoddi’r datrysiadau
Wythnos 6/7/8: Prototeipio ac ailadrodd
Wythnos 9: Adborth gan fudd-ddeiliaid a defnyddwyr
Wythnos 10/11: Ymateb i adborth gan ddefnyddwyr ac ailadrodd y prototeip
Wythnos 12: Dangos a dweud
Bob wythnos, bydd gweithdy awr o hyd yn cyfateb i’r fframwaith uchod, gyda hyd at awr o waith i’w gwblhau y tu allan i’r sesiynau grŵp.
Gweithgorau
Rolau DDaT
Mae gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth fframwaith ar gyfer timau digidol, dylunio, data a thechnoleg.
Nid yw hyn wedi ei fabwysiadu’n eang gan awdurdodau lleol Cymru am sawl rheswm, yn cynnwys costau, heriau recriwtio, a llwythi gwaith, i enwi dim ond rhai.
Y deilliant ar gyfer y gweithgor hwn yw argymell model gweithredu i anelu ato ar gyfer swyddogaethau DDT yn awdurdodau lleol Cymru.
Dylunio gwasanaeth mewn awdurdodau lleol
Bydd y grŵp hwn yn edrych ar sut y gallwn gyflwyno dylunio gwasanaeth i awdurdodau lleol Cymru, gan ddeall gwasanaethau o’r dechrau i’r diwedd, o safbwynt defnyddiwr.
Dylunio gwasanaeth ar gyfer biniau heb eu gwagio
Bydd y grŵp hwn yn adolygu’r prosesau ar gyfer rhoi gwybod am fin nas caglwyd, ac yn cynnal ymchwil defnyddwyr er mwyn deall gofynion a phwyntiau pryder defnyddwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Cyfleoedd i wella effeithlonrwydd mewn gwasanaethau i gwsmeriaid
Bydd y grŵp hwn yn gweithio gyda’r grŵp gwasanaethau i gwsmeriaid, Sylw i Gwsmeriaid Cymru, er mwyn adolygu prosesau cysylltu cwsmeriaid, a chyfleoedd i wella effeithlonrwydd.
Adolygu bathodynnau glas
Bydd y grŵp hwn yn cynnal adolygiad cyflawn ac yn llunio dadansoddiad o’r gwasanaeth bathodynnau glas, ac yn archwilio’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng pob awdurdod lleol.
Byddant hefyd yn casglu ac yn ystyried anghenion defnyddwyr ac integreiddio gyda gwasanaethau eraill.
Llofnodion gwlyb
Bydd y grŵp hwn yn archwilio ar ba wasanaethau y mae angen llofnodion gwlyb, a deall/dogfennu eu gofynion.
Yn dilyn hyn, bydd y grŵp yn archwilio dewisiadau amgen yn erbyn y gofynion hyn, ac yn cyflwyno datrysiadau newydd ar gyfer awdurdodau lleol Cymru.
Pwyntiau mynediad
This project looks at contact or entry points into local authority. It assesses this against user insights and user feedback.
Deilliant y gweithgor hwn fydd ateb y cwestiwn:
Mewn sawl ffordd y gallaf i gysylltu â’m hawdurdod lleol, a pha ffordd sydd orau i mi?
Egwyddorion a rennir a dangosyddion perfformiad
Ar hyn o bryd nid oes egwyddorion a rennir na ffyrdd o fesur bodlonrwydd cwsmeriaid ar draws Cymru. O’i roi’n syml, nid oes gennym set o safonau y gall ein dinasyddion a ninnau eu hadnabod. Mae hyn yn ei gwneud yn heriol inni ddangos bodlonrwydd a gwelliant, sy’n aml yn trosi’n ‘werth’ i’n dinasyddion.
Bydd y grŵp hwn yn edrych ar hyn ac yn diffinio’r ffyrdd o fesur darparu gwasanaethau gyda rhai safonau ac egwyddorion y cytunir arnynt.
Dyddiadau ac amseroedd y gweithgorau
Cynhelir pob sesiwn yn wythnosol, am uchafswm o 12 wythnos, gan ddechrau yn wythnos 20 Medi a gorffen erbyn 6 Rhagfyr 2021.
- DDaT Roles
Dydd Llun, 10am-11am - Pwyntiau mynediad
Dydd Llun, 11am-12pm - Egwyddorion a rennir a dangosyddion perfformiad ar gyfer bodlonrwydd cwsmeriaid
Dydd Llun, 3pm-4pm - Cyfleoedd i wella effeithlonrwydd mewn gwasanaethau i gwsmeriaid
Dydd Llun, 4pm-5pm - Llofnodion gwlyb
Dydd Mawrth, 10am-11am - Dylunio gwasanaeth mewn awdurdodau lleol
Dydd Mawrth, 11am-12pm - Adolygiad bathodynnau glas (dull dylunio gwasanaeth)
Dydd Mawrth, 3pm-4pm - Dylunio gwasanaeth ar gyfer biniau heb eu gwagio
Dydd Mawrth, 4pm-5pm
Efallai cynhelir sesiynau wythnos 12 (y sesiynau dangos a dweud) y tu allan i’r amseroedd hyn.
I gofrestru ar gyfer gweithgor, llenwch y ffurflen fer hon.
Nid yw hyn wedi ei wneud o’r blaen, a dyma’r tro cyntaf inni roi cynnig ar hyn, ond rydym yn gobeithio y bydd y rhain yn arwain at fwy o dimau sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau yn dod at ei gilydd o wahanol awdurdodau lleol, adrannau a chefndiroedd.
Gadael Ymateb