Gwaith perffaith
Dydw i ddim yn meddwl fod yna lawer o bobl sy’n gweithio yn y maes digidol, sy’n rhoi hyfforddiant ar weithio ystwyth neu sy’n arwain rhaglen drawsnewid heb wynebu’r cwestiwn ar ryw adeg – “Oes yna’r fath beth â gwaith perffaith?” a’r cwestiwn erchyll sy’n aml yn dilyn “Allwch chi roi enghraifft i ni?”.
I Googled ‘perfect delivery’ just out of interest and unless you’re a fan of childbirth or cricket then I suggest not going down that rabbit hole.
Mae perffaith yn air gwych. Ac mae ganddo fwy nag un ystyr. Mae un yn ymwneud â mathemateg… felly gadewch i ni beidio â phoeni am hwnnw am y tro. Fodd bynnag, mae’r ddau ystyr isod yn berthnasol rwy’n meddwl.
- bod â’r holl elfennau, rhinweddau neu nodweddion gofynnol neu ddymunol; cystal ag y mae’n bosibl bod.
- cyflawn; cyfan.
Os cymerwn rif 1 uchod a meddwl amdano mewn yng nghyd-destun gweithio ystwyth, gallwn ei ddadansoddi ac edrych arno’n wrthrychol.
Felly, bod â’r holl elfennau, rhinweddau neu nodweddion gofynnol neu ddymunol, wel hwn yn hawdd. Rydyn ni’n…
- delio mewn cynnyrch hyfyw lleiaf MVP
- deall gofynion ac anghenion
- gyflawni’r ‘gwaith allweddol’ yn gyntaf
- ystyried y darnau heb fod yn weithredol, sef y nodweddion
- ei brofi i sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn y bwriedir iddo ei wneud
- gellir eu hepgor o’r ‘elfennau dymunol’ am nad ydynt yn ‘anghenion’ 😉
Ac yna mae angen i ni edrych ar ‘cystal ag y mae’n bosibl bod’. Nid yw’n dweud, ‘cystal ag y mae’n bosibl bod gydag amser ac arian diderfyn’. Gadewch i ni fod yn rhesymol yma. Ychydig iawn o wasanaethau yn y sector cyhoeddus a gaiff rwydd hynt o ran adnoddau, neu amserlen benagored. (Gall pob un ohonom freuddwydio). Felly, a allwn ni gyflawni rhywbeth sy’n cefnogi’r honiad hwnnw mewn gwirionedd? Rwy’n credu hynny. Byddwn yn cyflawni’r gofynion hynny, y rhai yr ydym wedi eu casglu, eu llunio, eu dilysu a’u blaenoriaethu. Mae hwn yn ddull eithaf trylwyr y byddwn i’n ei ddweud, ac yn un a fyddai, os byddwn yn cyflawni ar sail y gofynion, yn gwneud rhywbeth ‘cystal ag y mae’n bosibl bod’, gyda’r amser a’r arian sydd ar gael!
Sydd yn fy marn i yn golygu y gallwn dicio’r bocs ar gyfer diffiniad 1 ✅
Nawr gadewch i ni symud i ddiffiniad rhif 2. ‘cyflawn; cyfan’.
Mae hwn yn anos. Mae’r gair “cyflawn” yn golygu bod rhywbeth yn berffaith. Ac os yw’n berffaith nid yw wedi’i addasu na’i lastwreiddio. Dyna ydyw. Ac eto, os awn ni’n ôl at ein gofynion a chadw’n gaeth atynt a chyflawni yn eu herbyn, yna byddwn yn cyflawni gwasanaeth ‘cyflawn’. Ni fydd yn cael ei addasu i wneud rhywbeth arall. Ni fyddwn wedi ychwanegu unrhyw beth. Bydd gennym bopeth y mae’n rhaid inni ei gael.
A phetawn yn gofyn am ddiffiniad o ‘cyfan’ rwy’n credu y byddem yn dod yn agos at rywbeth sydd â’r holl rannau sydd eu hangen. Y darnau angenrheidiol. Ac eto, dyna’r hyn y dylem ei gael os byddwn yn cyflawni ar sail y gofynion.
Felly gadewch i ni weld, tic arall ✅
Rwy’n siŵr y bydd unrhyw un sy’n darllen hwn yn meddwl fy mod i’n or-symleiddio. Ac efallai fy mod i. Ond ddywedodd neb fod yn rhaid i’r maes digidol fod yn gymhleth. Wrth gwrs, mae rhai pethau a fydd yn ein galluogi i ddarparu ‘gwasanaeth perffaith’ neu sydd o leiaf yn berffaith i’r defnyddwyr rydych chi’n ceisio eu cefnogi. Dyma’r 3 uchaf i mi –
1. Darganfod y gofynion – deall y broblem, gwneud yr ymchwil, gofyn y cwestiynau.
2. Mireinio’r gofynion – herio’r meddylfryd ‘fel y mae’, edrychwch ar y gwasanaeth cyfan o’r dechrau i’r diwedd, ewch ati i gyflawni’r hyn sydd ei angen yn unig.
3. Cofiwch fod ‘cyflawn’ yn rhywbeth nad ydych yn ychwanegu ato na’i addasu. Gallwch gyflawni rhywbeth mewn sawl ffordd wahanol; bod yn ystwyth ac yn hyblyg yw’r sail ar gyfer cyflawni da. Yr hyn nad yw’n ei olygu yw y dylai eich gwasanaeth dyfu neu y gallwch ychwanegu pethau ato a dal i gael y ‘gwasanaeth perffaith’.
Felly, ar y cyfan, ydw i’n credu bod y fath beth â ‘Gwaith Perffaith’, ydw, rwy’n credu hynny. Bydd rhwystrau ac amseroedd anodd yn wynebu pob gwasanaeth, bydd angen mwy o arian ar rai, neu fwy o amser, a bydd angen mwy o help ar rai gan bobl o’ch cwmpas. Ond pan fydd gennych eich MVP a phan fydd yn cael ei roi i bobl i’w brofi a’u bod yn troi atoch ac yn dweud ‘roedd hynna’n hawdd’, byddaf yn cymryd bod hynny’n golygu perffaith unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.
Gadael Ymateb