Diweddariad Hyfforddiant
Un o gynlluniau’r tîm yn y tri mis cyntaf oedd darparu hyfforddiant digidol i awdurdodau lleol.
Dewiswyd y pynciau yn dilyn sgyrsiau cychwynnol gyda staff digidol a thechnolegol a Phrif Weithredwyr ar draws llywodraeth leol yng Nghymru; cydweithwyr yn Nghanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru; a mewnwelediadau gan bobl yn GIG Cymru, Data Cymru a Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd ymchwil desg hefyd er mwyn casglu safbwyntiau o ymgynghoriadau a hyfforddiant blaenorol, a data a oedd yn bodoli eisoes.
Mewn cyfres o arolygon diweddar gan dîm llywodraeth leol Cymru, canfu ein harolwg mai sgiliau yw’r her fwyaf yn y maes digidol, ac mae ein gwaith hyfforddi wedi canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau yn y meysydd hyn.
Rhwng mis Mawrth a Mis Mehefin 2021, cydlynwyd a darparwyd yr hyfforddiant canlynol:
- 7 cwrs yn cwmpasu UX Basics, UX Agile a Lean, Dylunio Gwasanaeth (dau gohort), Dylunio Cynnwys (dau gohort), a Hygyrchedd Cynnwys.
- Cwblhawyd y cwrs gan 100 o bobl o Awdurdodau Lleol, Data Cymru, CLlLC a Llywodraeth Cymru.
- Darparodd 50% o’r bobl hynny adborth.
- Rhoddwyd sgôr o 5* gan 73%, a sgôr o 4* gan 22%.
Yn ychwanegol at hyn, rydym wedi prynu 30 trwydded hyfforddi Pluralsight a 40 aelodaeth Dylunio Cynnwys at ddefnydd awdurdodau lleol yn unig, ac mae’r rhain i gyd yn cael eu defnyddio.
Adborth enghreifftiol (gair-am-air):
Pa rannau o’r cwrs yn eich barn chi oedd yn ddefnyddiol i’ch gwaith?
- Y cwbl – y cwrs gorau imi fod arno, o bell ffordd.
- Roedd y ffordd o gysylltu’n ôl gyda gwasanaethau yr ydym wedi gweithio arnynt o’r blaen yn ddefnyddiol iawn. Roedd yn help bod sylw’n cael ei roi i feysydd nad oeddem ni wedi meddwl amdanynt oherwydd y theori a roddwyd gan Lou (hyfforddwr y cwrs) a drwy gyfranogwyr eraill yn tynnu sylw at bethau nad oedden nhw wedi eu gwneud.
- Y cwbl – roedd peth o’r cwrs yn cwmpasu pethau yr wyf i / yr ydym ni yn eu gwneud eisoes, ond roedd yn braf gwybod ein bod ar y llwybr cywir.
- Y cwbl. Mae’n sicr yn rhywbeth y dylai cynghorau fod yn buddsoddi ynddo.
A fyddwch chi’n newid unrhyw beth ar ôl y cwrs yma?
- Roeddem eisoes yn ceisio cymhwyso peth o hyn, ac mae wedi bod yn help i wthio hynny ymlaen a chael dull mwy ffurfiol o fynd ati i gyflawni prosiectau a gwreiddio UX yn y gwaith o ailddylunio’r gwasanaeth.
- Byddaf yn edrych ar bethau’n wahanol o ran profiad y defnyddiwr… Rwy’n credu bod angen inni atgyfnerthu ac adolygu rhai o’n gwefannau rŵan.
- Byddwn. Bydd angen inni drafod gyda’r tîm er mwyn penderfynu sut y gallwn ddefnyddio hyn yn ein tîm ni yn y dyfodol, a pha rannau sydd bwysicaf ar gyfer pob maes gwasanaeth.
A hoffech chi ddweud unrhyw beth arall wrthym am y cwrs?
- Na. Diolch am gynnal y rhain. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr, ac mae’n wych gweld cyfarwyddyd fel hyn ar gyfer awdurdodau lleol.
- Mae’n un o’r cyrsiau gorau imi fod arnynt ers sbel – roedd yn addysgiadol heb fod yn nawddoglyd, ac roedd yn eithriadol o ddefnyddiol a pherthnasol. Rhoddodd lawer imi ei ystyried.
- […] roedd yn ddefnyddiol iawn imi ac fe ddatguddiodd opsiynau newydd i mi eu hystyried.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhagor o hyfforddiant, neu os oes gennych anghenion penodol nad ydych yn sicr sut i’w bodloni, cysylltwch â ni ar timdigidol@wlga.gov.uk.
Gadael Ymateb