Data – Gem Cyfan

Data – Gem Cyfan

Wedi symud i’r tîm digidol o sefydliad data, roeddwn yn dod â barn angerddol gyda mi am y cyfle mae data yn ei roi i ni wrth gynllunio a datblygu gwasanaethau. Rwy’n ymwybodol nad yw pawb yn rhannu’r un farn, ond gobeithio y bydd y blog hwn yn eich annog chi i ystyried y rôl sydd gan data wrth i chi ddarparu gwasanaeth. Dyma ni.

Pan mae’n cael ei ddefnyddio’n dda, mae data yn gallu rhoi cipolwg gwirioneddol, ac mae cipolwg gwirioneddol yn werthfawr, yn arbennig pan rydym yn ceisio deall anghenion defnyddwyr gwasanaeth er mwyn llywio’r gwelliannau yn ein gwasanaethau.

Yn gyntaf, rydym angen deall pa ddata rydym ei angen a pham.

Weithiau mae yna dueddiad i gasglu cymaint o ddata â phosibl heb lawer o feddwl yn mynd i mewn i sut y bydd yn cael ei ddefnyddio, ond ychydig o werth sydd mewn bod yn gyfoeth data ond yn wybodaeth wael. Mae angen cynllunio ac ystyried pob ymarfer casglu data i sicrhau mai ond y data cywir sy’n cael ei chasglu i gael y wybodaeth rydych ei hangen. Dylech ytyried pa ffynonellau data eraill sydd ar gael a pha un a all y data hwn gyfannu eich dadansoddiad a’ch helpu i lunio darlun mwy manwl.

Rydym hefyd angen bod yn hyderus yn defnyddio data i gael cipolwg.

Gall hyn ymddangos yn frawychus ar y dechrau, ond gyda’r arweiniad cywir a defnyddio’r adnoddau cywir gallwn i gyd ddysgu sut i ddefnyddio data mewn ffordd sy’n dangos patrymau a thueddiadau sy’n gallu helpu i lywio trefniadau cynllunio a gwneud penderfyniadau. Os nad oes gennych hyder gyda data mae yna gyrsiau ac adnoddau ar gael sy’n gallu eich helpu, mae Rhaglen Hyfforddiant Sylfaenol Data gan Data Cymru yn un enghraifft.

Mae yna fwy o ddata yn cael ei gasglu nawr nag erioed o’r blaen, ond a yw’n cael ei rannu a’i ddefnyddio yn y ffordd orau?

Rydym yn gwybod ar draws llywodraeth leol bod yr un data yn cael ei chasglu dro ar ôl tro gan wasanaethau ac awdurdodau gwahanol, ond nid yw hyn y defnydd gorau o unrhyw adnoddau. Gallwch gyfleu eich anghenion data ar draws gwahanol rwydweithiau ac mae’n bosibl y cewch eich synnu faint o ddata perthnasol sydd eisoes wedi’i chasglu ac yn agored i’w defnyddio.

Rydym yn eich annog i rannu eich data mewn ffordd sy’n ei gwneud yn hawdd i sefydliadau eraill gael mynediad a defnyddio. Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn ddefnyddiol ar gyfer llywio ymchwil a chynllunio, ac mae’n mynd yn bell i hybu democratiaeth ar draws llywodraeth leol yng Nghymru.

Os hoffech wybod mw y am ddata, gallwch anfon e-bost at tom.brame@wlga.gov.uk

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *