Chi yw’r defnyddiwr

Chi yw’r defnyddiwr

Rydw i wedi tyfu i fyny ym myd ystwyth a digidol dylunio rhyngweithiol ac ymchwil defnyddwyr ac mae’r ymadrodd ‘nid chi yw’r defnyddiwr’ wedi’i bwnio i fy mhen. Mae’n debyg mai dyma’r ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf yn y byd datblygu digidol. Roedd sticeri gyda’r ymadrodd yn cael eu gweld ar MacBooks a gliniaduron ledled y wlad. Rydw i’n eithaf siŵr bod rhai pobl wedi cael tatŵ o’r ymadrodd ar eu cyrff hyd yn oed!

Os ydych yn gyfarwydd â Nielsen Norman Group a’u cyrsiau gwych am ymchwil defnyddwyr, dylunio a phrofiad y defnyddiwr, efallai y byddwch wedi dod ar draws Don Norman, y bonheddwr a gysylltir fwyaf â’r ymadrodd ‘nid chi yw’r defnyddiwr’. Mae’n ddyn eithriadol o glyfar sydd wedi treulio ei yrfa yn edrych ar y gwyddoniaeth y tu ôl i ddylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, ergonomeg a phrofiad y defnyddiwr. Mae’n feistr yn ei faes. 

Ond… Dydw i ddim yn meddwl ei fod erioed wedi gweithio mewn Llywodraeth Leol. Rydw i’n siarad gyda phobl o bob cwr o Gymru bob dydd. Pobl sy’n gweithio i ddarparu gwasanaethau i filoedd o ddinasyddion ledled ein gwlad. Beth sydd wedi dod yn amlwg yn gyflym iawn yw faint ohonom sy’n ddefnyddwyr. Rydym yn byw ac yn gweithio yn ein hawdurdod lleol. Mae gennym deulu sy’n byw ac yn gweithio yn ein hawdurdod lleol. Mae gennym blant sy’n byw ac yn cael eu haddysgu yn ein hawdurdod lleol. Efallai bod hynny’n ymddangos braidd yn blwyfol, ond mae’n wir. Mae’n eithaf arferol, yn enwedig os nad ydych yn gweithio mewn ardal fetropolitanaidd sydd â gwregys cymudwyr sefydledig. Mae pobl awdurdodau lleol yn rhan o’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Ac oherwydd hynny, maent wedi buddsoddi yn y gwasanaethau y maent yn eu darparu mewn ffordd nad wyf wedi’i weld o’r blaen mewn gwirionedd. Mae’n bersonol.

Mae hwn yn gleddyf deufiniog ar gyfer ein dyhead datblygu digidol. Ar un llaw, mae gennym fynediad at nifer o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau fel mater o drefn. Pobl sy’n mynd ag eitemau i’r ganolfan ailgylchu, archebu cwrt badminton, mynd â’u rhieni i gartrefi gofal, byw mewn tai cymdeithasol, gwneud cais am ganiatâd cynllunio… mae’r rhestr yn hirfaith. Pa mor anhygoel yw hynny? Sylfaen defnyddwyr parod o bobl sydd â safbwyntiau a phrofiadau o ddefnyddio’r gwasanaethau?! Rhodd mewn ffordd.  

Yna mae gennych fin arall y cleddyf. Y min llai miniog a defnyddiol. Yr un sydd wedi’i bylu gan brofiad a phroses. Oherwydd gwyddom beth yw’r broses. Gwyddom beth sy’n digwydd pan ddaw cais i’n swyddfa. Gwyddom ym mha feddalwedd y bydd yn glanio. Gwyddom y bydd yn cael ei ddilysu. Gwyddom faint o amser mae’n ei gymryd i fynd o ‘A i B i mi’. Mae hynny’n difetha’r ffordd yr ydym yn edrych ar bethau. Mae’n golygu ein bod yn gwneud esgusion, nid er mwyn bod yn anodd neu am ein bod yn dal yr awenau’n llach ar ein cydweithwyr, ond oherwydd ein bod yn gyfarwydd â sut mae’r peiriant yn gweithio. Pan ydych yn gyfarwydd â sut mae rhywbeth yn gweithio, mae’n gallu’ch gwylltio a gwneud i chi ei herio a’i newid, ond gall hynny fod yn anodd pan ydych yn ei ganol o.

Nid yw hynny’n golygu am eiliad nad yw pobl ledled y byd Llywodraeth Leol yng Nghymru yn heriol nac yn gwella gwasanaethau a phrosesau bob dydd. A gallwn weld hynny’n digwydd bob amser. Beth sydd angen i ni ei wneud mewn gwirionedd yw canolbwyntio’r newid hwn i wella a’i ddistyllu mewn gwelliannau wrth ddylunio gwasanaethau y gellir gweithio arnynt gyda’n gilydd, eu rhannu a’u hail-greu. Rydym am i’r newidiadau hyn gael eu hyrwyddo gan Benaethiaid Gwasanaeth a’u croesawu gan ein defnyddwyr. Rydym am weld newidiadau nad ydynt yn gysylltiedig â dewisiadau technoleg penodol, heb eu torri dan faich biwrocratiaeth, ac heb eu dal yn ôl gan gyndynrwydd i gymryd risg neu wneud newid. Ac, hyd yn oed yn fwy na hynny, mae angen i ni wahodd ein defnyddwyr sy’n ddinasyddion ar y siwrnai gyda ni. Mae ymchwil defnyddwyr yn orfodol, mae’n sylfaen i bob gwelliant dylunio gwasanaeth. Mae’r perthnasau y gallwn eu meithrin trwy ymgysylltu a’n dinasyddion yn amhrisiadwy i Lywodraeth Leol, ac mae ei angen arnom er mwyn para a thyfu.

Mae’r ymateb anhygoel yr ydym wedi’i gael ledled Cymru i’n Gweithgorau a rhai o’n prosiectau Canfod yn dilysu ymhellach yr hyn y gwyddom eisoes – mae Llywodraeth Leol yng Nghymru yn dalog ac yn awyddus. Rydym wrth ein boddau â’r diddordeb, yr amser, yr ymdrech a’r awgrymiadau clyfar sydd wedi dod i mewn trwy’r grwpiau hyn. Gall fy nhîm helpu i lunio, hwyluso a llenwi rhai o’r bylchau, ond mae’r syniadau a’r datrysiadau yn dod oddi wrth deulu Llywodraeth Leol. Rydym yn wlad fach sydd â syniadau mawr, ac rydw i wrth fy modd gyda hynny.  

There are ways to make these changes and to make them stick so that we can all benefit from them.  As users and service providers.  Because we are both.  We are the users.

There are some User Research blogs you might be interested in.

1 COMMENT

comments user
Pauline O’Hare

Hi Sam
Really interesting reading this and your other blogs 🙂
Myself and the Welsh User Researcher from HMRC aim to establish a network of Welsh User Researchers, with particular interest in bilingual UR. We are meeting at 2pm on Tuesday 9th November. It would be great to have any Welsh local government User Researchers join us. We have involved the CDPS. Please share the details with any relevant contacts 🙂

Please feel free to email me and I will happily send a Teams invite to any interested colleagues.
Thanks
Pauline

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *