Adroddiad Ymchwil Gweithgor

Adroddiad Ymchwil Gweithgor

Pam mae’r adroddiad hwn yn bwysig

Cyn symud at fanylion yr adroddiad, mae’n werth pwysleisio pam fod y canfyddiadau’n arwyddocaol a sut mae’r Tîm Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru yn bwriadu gweithredu arnynt. 

Amcanion Clir  

Ers creu’r tîm Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol rydym wedi llwyddo i ddatgelu’r rhan fwyaf o’r blaenoriaethau a’r heriau sy’n wynebu swyddogion awdurdod lleol ar bob lefel yng Nghymru. Mae hyn wedi ei wneud drwy ddulliau amrywiol fel grwpiau ffocws gyda Sylw i Gwsmeriaid Cymru, ymgysylltu gyda swyddogion mewn cyfarfodydd anffurfiol a Chyfarfodydd Prif Weithredwr. Nid oeddem wedi ymgysylltu gyda dinasyddion eto i ddeall eu barn am wasanaethau eu hawdurdodau lleol. 

Drwy ymgysylltu gyda’r dinasyddion a oedd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth hon, rydym wedi cael cipolwg ar sut mae dinasyddion yn teimlo ynglŷn â gwasanaethau eu hawdurdodau lleol a beth sydd ei angen er mwyn eu gwella. Mae’r cipolygon hyn wedi eu cynnwys yn ein gwaith cynllunio i siapio ein gwaith dros y flwyddyn nesaf. Thema ganolog ein strategaeth yw Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl, ar ôl siarad â’r dinasyddion hyn rydym wedi sicrhau fod ein hamcanion yn rhai sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

Lle mae angen gwneud gwelliannau

Y gobaith yw y bydd canfyddiadau’r ymchwil hwn yn cynnig i’r darllenydd synnwyr o lle y gall newid a datblygiad ddod â’r gwerth mwyaf. Mae’r canfyddiadau wedi rhoi gwaelodlin i ni ar gyfer y lefel gwasanaeth presennol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn ein galluogi ni i ganfod yn hawdd lle mae gwelliannau yn cael eu gwneud. Fe fydd datgelu’r gwelliannau hyn yn gynnar yn ein helpu ni i ddeall sut mae awdurdod lleol wedi rheoli cynnydd o’r fath a rhannu’r arferion a’r profiadau hyn ar hyd a lled Cymru. Fe fydd hyn yn ein helpu ni i uwchsgilio Cymru gyfan. 

Y Camau Nesaf  

Mae’n bwysig darllen safbwyntiau’r dinasyddion a gymrodd ran yn yr astudiaeth hon gyda meddwl agored. Ni fydd ceisio dod o hyd i esgusodion neu gyfiawnhad dros pam y gallai dinesydd fod wedi teimlo rhyw ffordd benodol yn ein helpu ni. Mae angen i’r casgliadau yn yr adroddiad gael eu derbyn fel y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i wneud gwelliannau. Fel y crybwyllwyd yn gynharach, mae canfyddiadau’r adroddiad wedi eu hychwanegu at yr ôl-groniad o waith i’r Tîm Digidol ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru, ond pe byddai awdurdodau lleol unigol eisiau helpu i gynllunio’r camau nesaf yn seiliedig ar yr ymchwil hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni fel y gallwn weithio gyda chi. Nid oes neb ar ei ben ei hun yn y dasg o geisio gwella eu lefel gwasanaeth yng Nghymru. 

Amcanion yr Ymchwil

Nod yr ymchwil darganfod hwn oedd i gasglu syniadau’r dinesydd i hysbysu dyluniad a datblygiad egwyddorion a rennir a dangosyddion perfformiad i’w mabwysiadu ar draws Awdurdodau Lleol Cymru. Hefyd defnyddiwyd yr ymchwil darganfod i asesu sut mae dinasyddion yn teimlo ynglŷn â chysylltu â’u hawdurdod lleol. Roedd y tasgau hyn yn canolbwyntio ar y gweithgorau ‘Egwyddorion a Rennir a’r Dangosyddion Perfformiad’ a ‘Phwyntiau Mynediad’ a gynhaliwyd o 27/09/21 hyd at 06/12/21 ac a arweiniwyd gan y Tîm Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru. 

Mae’r cwestiynau ymchwil wedi eu rhestru isod ochr yn ochr â chwestiynau’r gweithgorau yn ymwneud â gwasanaeth yr oedd y timau am iddynt gael eu hateb: 

Cwestiwn YmchwilCwestiwn Datblygiad Gwasanaeth Cysylltiedig
A allwch restru yn eu trefn pa themâu yr ydych yn credu sydd fwyaf pwysig yng ngwasanaethau’r Cyngor. (Rhestr o themâu wedi eu darparu i’r cyfranogwyr)O’r themâu yr ydym wedi eu nodi o ymchwil cynradd ac eilradd blaenorol, pa rai a gaiff eu gweld fel y rhai pwysicaf a’r lleiaf pwysig?
Pa thema a roddwyd uchaf ar y rhestr gennych a pham?Pa thema allai roi’r gwerth gorau?
Pa thema a roddwyd isaf ar y rhestr gennych a pham?Pa thema fydd yn rhoi’r gwerth lleiaf?
Beth sydd ar goll? Pa themâu y byddai dinasyddion yn hoffi gweld eu hawdurdod lleol yn canolbwyntio arnynt nad ydym wedi eu nodi eto?
A allwch ddweud wrthyf am brofiad diweddar yr ydych wedi ei gael wrth gysylltu â’ch awdurdod lleol?Pam fod dinesydd yn cysylltu â’u hawdurdod lleol mewn dull penodol a beth yw eu profiad o hynny?
Rwyf am i chi ddychmygu fod yna rai newidiadau wedi bod yn eich amgylchiadau a bod angen rhai addasiadau yn eich cartref ac felly yr hoffech ddeall pa wasanaethau gofal cymdeithasol oedolion sydd ar gael i chi. Sut fyddech chi’n disgwyl cael mynediad i’r gwasanaeth hwn?A yw’r cyswllt a ffafrir yn newid? Os felly, beth sy’n ysgogi’r newid?
Rydych yn gymwys am ostyngiad yn nhreth y cyngor. Sut fyddech chi’n disgwyl gwneud cais am y gwasanaeth hwn?A yw’r cyswllt a ffafrir yn newid? Os felly, beth sy’n ysgogi’r newid?
Mae yna dwll ar eich stryd. Sut fyddech chi’n disgwyl rhoi gwybod i’ch awdurdod lleol am hyn?A yw’r cyswllt a ffafrir yn newid? Os felly, beth sy’n ysgogi’r newid?
Gan feddwl am y sefyllfaoedd hyn, a yw’r hyn rydych yn ei ffafrio wedi newid ers y pandemig a sut y gallai’r hyn rydych yn ei ffafrio newid yn dibynnu ar wasanaethau’r cyngor?A yw’r cyswllt a ffafrir gan ddinasyddion wedi newid o ganlyniad i’r pandemig? A yw’r cyswllt a ffafrir yn newid yn dibynnu ar y gwasanaeth? Os felly, beth sy’n ysgogi’r newid?
Gan feddwl am brofiadau yn ymwneud â chynnyrch neu wasanaethau y gallech eu defnyddio y tu allan i’r llywodraeth, beth sy’n gwneud gwasanaeth o ansawdd? Gall hyn ymwneud ag archebu bwyd i fynd, archebu tocynnau trên neu gofrestru ar gyfer gwasanaeth tanysgrifio. A oes yna unrhyw beth i chi sy’n amlwg yn ddarpariaeth dda o ran gwasanaeth?A oes yna ddisgwyliadau cyffredinol ynglŷn â dyluniad da o ran gwasanaeth nad yw wedi ei gyfyngu i awdurdodau lleol.
A fyddech chi’n ffafrio cael mynediad i wasanaeth yn y Gymraeg?Beth yw barn dinasyddion ynglŷn â chysylltu â’u hawdurdod lleol yn y Gymraeg?
A oes yna unrhyw beth yr hoffech ei ychwanegu ynglŷn â’ch disgwyliadau wrth ddefnyddio gwasanaethau gan eich cyngor?A oes yna unrhyw beth nad ydym wedi ei ystyried?
A oes yna unrhyw beth yr hoffech ei ychwanegu ynglŷn â’r hyn a drafodwyd heddiw?A oes yna unrhyw beth nad ydym wedi ei ystyried?

Trosolwg o’r Astudiaeth

Cyfranogwyr

Fe gynhaliwyd 3 grŵp ffocws gennym a 2 gyfweliad un i un. Fe siaradom gyda chyfanswm o 29 o gyfranogwyr. Fe ddeuai’r cyfranogwyr o wahanol gefndiroedd ac awdurdodau lleol. Cafodd yr awdurdodau lleol canlynol eu cynrychioli gan y cyfranogwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Powys, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. 

Fe gymrwyd sampl ar hap gennym o blith y dinasyddion a oedd wedi cofrestru i gymryd rhan; yr unig gwestiwn sgrinio yr oeddem yn ei ofyn oedd a oeddent wedi defnyddio un o wasanaethau’r Cyngor yn ddiweddar. Roedd y cyfranogwyr yn amrywio o ran oed a galluoedd. 

Dull

Fe gynhaliwyd 2 gyfweliad rhannol strwythuredig o bell gennym a 3 grŵp ffocws o bell rhannol strwythuredig. Cafodd y sesiynau eu cofnodi a’u nodi, a chynhaliwyd dadansoddiad thematig i ddarganfod y prif themâu. Cafodd y themâu a gafodd eu cynnwys yn y canfyddiadau eu nodi gan y gweithgor Pwyntiau Mynediad a chawsant eu hailadrodd gennyf i. 

Canfyddiadau

Egwyddorion y Gwasanaeth

Hoffai dinasyddion weld cyfathrebu mwy effeithiol gyda hwy

Y brif thema y nododd cyfranogwyr fel yr un bwysicaf, a’r un yr oedd ganddynt y problemau mwyaf yn ei chylch, oedd cyfathrebu. Cynigiodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr enghreifftiau o gyfathrebu gwael a oedd wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau. Rydym wedi rhannu cyfathrebu yn is-themâu, gan fod cymaint o enghreifftiau wedi eu darparu i ni. 

Cyfathrebu rhagweithiol: Roedd nifer o gyfranogwyr yn teimlo’n rhwystredig wrth gysylltu â’u hawdurdod lleol i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar geisiadau maent wedi eu gwneud neu i ddod o hyd i wasanaeth a allai fod o gymorth iddynt. Mae hyn wedi arwain at ddinasyddion yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi a theimlo eu bod yn niwsans i’w hawdurdod lleol. Hefyd fe ddywedodd rhai cyfranogwyr fod hyn wedi gwneud iddynt deimlo fel bod angen iddynt drosglwyddo gwybodaeth bwysig eu hunain gan nad ydynt yn credu y bydd eu ffrindiau, teulu neu gymuned yn derbyn y wybodaeth hon fel arall. 

“Mae’n gwneud i chi deimlo yn ddi rym pan rydych chi’n mynd ar ôl gwybodaeth a roddwyd drwy’r amser. Er fod hyn er budd pobl eraill a’r Cyngor” (Dyfyniad Cyfranogwr 1)

Terfynau amser clir: Roedd nifer o gyfranogwyr yn rhwystredig gan nad oedd eu hawdurdod lleol yn eu gwneud yn ymwybodol o’r cyfnod o amser y byddai gwasanaeth yn ei gymryd. Arweiniai hyn at gyfranogwyr yn cyflwyno cwynion a hefyd uwch gyfeirio materion i Brif Weithredwr yr awdurdod a Chynghorydd a chysylltu gyda’u hawdurdod lleol eu hunain i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf. Un o’r rhesymau pam y teimlai cyfranogwyr fod hyn yn eithriadol o rwystredig oedd gan eu bod yn gweld hyn fel rhywbeth hawdd i’r awdurdod ei wneud. Dywedodd un cyfranogwr mai derbyn llythyr neu e-bost yn amlygu’r terfynau amser disgwyliedig oedd y cyfan oedd ei angen i’w gwneud i deimlo’n hyderus fod cynnydd yn cael ei wneud. 

“Os ydych yn anfon rhywbeth i’r Cyngor, byddai cydnabyddiaeth syml eu bod wedi ei dderbyn a therfynau amser ar gyfer dilyn hyn o gymorth. Byddai’n golygu na fyddai rhaid i bobl fynd ar ôl cysylltiadau a byddai’n lleihau’r llwyth gwaith ar gyfer swyddogion.” (Dyfyniad Cyfranogwr 2)

Ymatebion: Roedd nifer o gyfranogwyr yn teimlo’n flin gan nad oedd eu hawdurdod lleol wedi ymateb iddynt ar ôl iddynt gysylltu neu gyflwyno cais. Roedd yr effaith a gafodd hyn ar gyfranogwyr yn amrywio. Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo fod hyn yn rhwystredig gan nad oeddent yn credu fod eu cais wedi ei gyflwyno’n gywir, ac felly fe fyddent yn cysylltu â’u hawdurdod lleol drwy sianel wahanol. I eraill, roedd yn llawer mwy difrifol. Rhoddwyd enghreifftiau lle roedd cyfranogwyr wedi cael mynediad at wasanaethau hanfodol ond nad oeddent wedi derbyn unrhyw fath o ymateb. Er enghraifft, disgrifiodd un cyfranogwr sefyllfa a oedd yn achosi llawer o straen wrth iddo ymwneud â gofal cymdeithasol oedolion ar ran ei dad 90 mlwydd oed a oedd wedi ei ryddhau o’r ysbyty. Disgrifiodd y cyfranogwr yr ymgais i gyfathrebu fel mynd i mewn i ‘dwll du’ gan nad oedd yn cael ymatebion na chael y wybodaeth ddiweddaraf tra roedd yr ysbyty yn mynd ar ei ôl. Defnyddiodd cyfranogwr arall yr enghraifft o roi gwybod i’w hawdurdod lleol yn ddyddiol am dystiolaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol heb unrhyw adborth. O ganlyniad i’r ymddygiad gwrthgymdeithasol fe symudodd y cyfranogwr i dŷ arall. 

“Os nad ydych yn gwybod a ydynt wedi derbyn eich e-bost neu pwy sy’n ymdrin â’ch galwad ffôn, allwch chi ddim dilyn hynny mewn gwirionedd… Pe baent ond wedi cyfathrebu hynny, ni fyddai rhaid i mi fod wedi eu ffonio 62 o weithiau” (Dyfyniad Cyfranogwr 3). 

Mae dinasyddion eisiau gallu cael mynediad i’r holl wasanaethau a’u deall

Roedd hygyrchedd yn thema a ddaeth yn uchel yn yr ymarferiad rhestru. Fodd bynnag, dim ond rhai cyfranogwyr oedd wedi cael profiad o fethu â chael mynediad i wasanaethau. Roedd nifer o gyfranogwyr yn teimlo bod dyletswydd ar eu hawdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau cynhwysol heb i hyn fod yn rhywbeth sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Fodd bynnag, fe rannodd rhai cyfranogwyr a oedd â nam enghreifftiau o sut roeddent yn teimlo’n ddig gan na allent gael mynediad i rai o wasanaethau eu hawdurdod lleol, a gydag ymateb eu hawdurdod lleol iddynt wrth iddynt godi problem yn ymwneud â hygyrchedd. 

“Dwi wedi cael problemau gydag adeiladau Awdurdod Lleol sydd heb ddolen glyw neu am ei fod wedi torri. Roedd yna un digwyddiad lle dywedais wrthynt nad oedd eu dolen glyw yn gweithio ac yna fe ddaeth y ddynes yn ôl ata i a dweud wrtha i sut i ddefnyddio fy nghymhorthion clyw. Am ddigywilydd. Sut feiddiwch chi.” (Dyfyniad Cyfranogwr 4). 

Dylunio Cynnwys: Roedd cynnwys gwasanaethau a chyfathrebu awdurdod lleol yn rhywbeth roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo ei fod yn anhygyrch. Roedd rhai cyfranogwyr yn ei chael yn anodd i ddod o hyd i wasanaethau gan nad oeddent yn ymwybodol o beth roedd eu hawdurdod lleol yn galw’r gwasanaeth hwnnw. Mewn un enghraifft, fe aeth cyfranogwr at sefydliadau’r trydydd sector yn gyntaf cyn cael ei gyfeirio’n ôl i’w awdurdod lleol gyda’r geiriad cywir i chwilio amdano. Roedd enghraifft arall a roddwyd gan gyfranogwr a oedd wedi derbyn ei Lythyr Treth y Cyngor. Pwysleisiodd y cyfranogwr nad oedd o unrhyw ddefnydd iddo gan na allai ei ddeall. 

“Os oes angen cymorth arnoch, fe ddylai fod yn hawdd i ddod o hyd i hynny” (Dyfyniad Cyfranogwr 5). 

Llythrennedd Digidol: Nid oedd hon yn thema a effeithiai yn uniongyrchol ar unrhyw rai o’r cyfranogwyr; fodd bynnag, roedd yn rhywbeth a oedd yn destun pryder i rai cyfranogwyr. Teimlai’r cyfranogwyr eu bod yn elwa o un ai gael mynediad at wasanaethau neu gael mynediad at wybodaeth nad oedd gan eraill fynediad atynt. 

“Mae angen ffyrdd o gynnwys pobl nad ydynt yn hyddysg mewn cyfrifiaduron. Mae llawer o bobl yn cael eu heithrio un ai am nad ydynt yn hyddysg mewn cyfrifiaduron neu am nad ydynt yn ymwybodol o beth sy’n mynd ymlaen” (Dyfyniad Cyfranogwr 6). 

Mae dinasyddion eisiau gwybod beth mae eu hawdurdod lleol yn ei wneud

Roedd Tryloywder a Gonestrwydd yn fater a godwyd gan nifer o’r cyfranogwyr. Roedd nifer o gyfranogwyr yn teimlo nad oedd eu hawdurdod lleol yn gweithio yn agored, a arweiniai rai i deimlo fel bod eu hawdurdod lleol yn ceisio cuddio pethau yn fwriadol. Mae’r ddau fater y profodd cyfranogwyr y rhwystredigaeth fwyaf gyda nhw fel a ganlyn:

  1. Ar beth mae’r gyllideb yn cael ei gwario: Fe siaradodd mwyafrif y cyfranogwyr a gododd dryloywder fel problem am yr hyn mae eu hawdurdod lleol yn gwario arian arno. Soniodd rhai o’r cyfranogwyr mai eu harian nhw y mae’r awdurdod lleol yn ei wario, a bod ganddynt gyfrifoldeb felly i wneud y cyfranogwyr yn ymwybodol o’r hyn y buddsoddir yr arian hwnnw ar ei gyfer. Er enghraifft pwysleisiodd un cyfranogwr nad yw wedi gweld gwelliant yn safon gwasanaethau ar ôl cynnydd yn nhreth y cyngor ac felly roedd yn cwestiynu ar beth y caiff yr arian ychwanegol y mae’r awdurdod lleol yn ei gymryd ei wario.  

“Mae fy awdurdod lleol fel blwch du. Dwi ddim yn deall sut mae arian yn cael ei wario. Alla i ddim pleidleisio i ddweud sut y dylai gael ei wario. Dyw hi ddim yn eglur iawn sut mae arian yn cael ei ddefnyddio.” (Dyfyniad Cyfranogwr 7). 

  1. Cyfrifoldebau: Soniodd rhai cyfranogwyr am gyfrifoldebau eu hawdurdod lleol a sut nad ydynt yn sicr beth yw’r cyfrifoldebau hyn. Nododd y cyfranogwyr yr hoffent ddarlun cliriach o gyfrifoldebau eu hawdurdodau lleol. 

“Fe ddylai cynghorau fod yn dryloyw ac agored. Mae’n anodd deall beth yw cyfrifoldeb pob cyngor” (Dyfyniad Cyfranogwr 8).

Mae dinasyddion eisiau i wasanaethau fod yn haws i ddod o hyd iddynt

Soniodd nifer o gyfranogwyr nad ydynt yn ymwybodol o rai gwasanaethau y mae eu hawdurdod lleol yn eu darparu. Arweiniodd hyn at rai cyfranogwyr yn awgrymu fod eu hawdurdod lleol yn cuddio gwasanaethau oddi wrthynt yn fwriadol. Roedd cyfranogwyr eraill yn teimlo fod cael y gwasanaeth cywir yn dibynnu ar a oeddent hwy yn ymwybodol o beth sydd ar gael iddynt ac a oeddent yn gwybod pa gamau i’w cymryd. Pwysleisiodd un cyfranogwr yr hoffai i’w awdurdod lleol hyrwyddo eu gwasanaethau iddynt, fel eu bod yn dod yn ymwybodol o wasanaethau heb orfod cysylltu â’r awdurdod lleol. Rhoddwyd un enghraifft a amlygai’r mater hwn gan gyfranogwr sy’n drwm ei glyw. Nododd y cyfranogwr ei bod wedi cymryd 15 mlynedd iddo ddarganfod y gallai gael mynediad i gymorth ar gyfer ei glyw. Cafodd y cyfranogwr wybod am hynny drwy ei ddarparwr tai. 

“Fe gymrodd 15 mlynedd i mi sylweddoli y gallwn gael cymorth ar gyfer fy nghlyw. Gan mod i’n iawn yn gorfforol, doeddwn i ddim yn sylweddoli y gallwn i gael cloch drws newydd, dolen glyw ar gyfer y teledu, a chloch drws fawr a gaiff ei gosod y tu mewn ac y gallaf ei chludo o gwmpas. (Dyfyniad Cyfranogwr 9). 

Mae dinasyddion eisiau teimlo fel bod eu hawdurdod lleol yn gwrando arnynt

Roedd nifer o gyfranogwyr yn anfodlon gydag i ba raddau y mae eu hawdurdod lleol yn gweithredu o ganlyniad i’w teimladau. Amlygwyd hyn mewn dau bwnc; ymgysylltiad a gwasanaethau wedi eu cynllunio o amgylch eu hanghenion. 

Ymgysylltu: Roedd nifer o gyfranogwyr yn teimlo fod angen i’w hawdurdod lleol ddechrau gofyn am eu safbwyntiau ac yna gweithredu arnynt. Nid yw’r cyfranogwyr hyn yn credu y bydd eu hawdurdod lleol yn creu gwasanaethau sy’n bodloni eu hanghenion fel arall. Soniodd rhai o’r cyfranogwyr hyn fod eu hawdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau y maent yn credu y mae eu dinasyddion eu hangen, yn hytrach na gofyn iddynt beth maent ei angen. 

“Gofynnwch i ni beth rydym ei angen, ei eisiau, pa wasanaethau yr ydym yn credu sydd eu hangen yn yr ardal yn hytrach na dweud wrthym beth maent yn credu rydym ei angen” (Dyfyniad Cyfranogwr 10).

Gwasanaethau sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd: Soniodd y mwyafrif o gyfranogwyr, a fynegodd anfodlonrwydd nad yw eu hawdurdod lleol yn gwrando arnynt, am sut yr hoffent roi mewnbwn i’r gwasanaethau y mae eu hawdurdod lleol yn eu darparu ar eu cyfer. Mae dinasyddion yn ymwybodol fod eu harian yn ariannu’r gwasanaethau hyn, ac felly maent yn ei weld yn hanfodol fod y gwasanaethau wedi eu dylunio i fodloni eu hanghenion. 

“Dylai gwasanaethau gael eu dylunio o amgylch angen y dinesydd ac nid angen y Cyngor neu’r hyn maent yn ei gredu y mae’r dinesydd ei angen” (Dyfyniad Cyfranogwr 11). 

Mae dinasyddion eisiau i’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn fod yn gyson

Pwysleisiodd nifer o gyfranogwyr eu bod eisiau gwasanaeth o’r un lefel lle bynnag y maent a pha bynnag wasanaeth y maent ei angen. Gellir rhannu’r mynegiant hwn o angen i ddau gategori: 

Cysondeb o fewn awdurdod lleol: Nid yw cyfranogwyr eisiau i safon y gwasanaeth y maent yn ei dderbyn ddibynnu ar ba adran sy’n rhedeg y gwasanaeth hwnnw. Hefyd mae cyfranogwyr yn dymuno derbyn gwasanaeth o’r un lefel drwy gydol y daith gyfan. Nid ydynt eisiau iddo newid ar wahanol gyfnodau. 

“Mae angen i lefel y gwasanaeth yn yr holl adrannau fod yr un fath ar draws y bwrdd gan fod yna gymaint o adrannau, gallwch gysylltu ag un adran a chael gwasanaeth gwael, yn fy marn i fe ddylai fod ar draws y bwrdd. Yn fy marn i, un Awdurdod Lleol yw hwn a dylai fod yna un polisi i ymdrin â phawb” (Dyfyniad Cyfranogwr 12). 

Cysondeb ar draws gwahanol awdurdodau lleol: Nid yw cyfranogwyr eisiau gwasanaeth gwaeth gan eu hawdurdod lleol gan eu bod wedi symud i fyw. Rhoddodd nifer o gyfranogwyr a gododd hyn enghreifftiau o sut mae lefel y gwasanaeth y maent yn ei dderbyn yn newid yn sylweddol o un awdurdod lleol i’r llall.

“Nid oes yna ymagwedd gydgysylltiedig clir, yn sicr nid yn ardal De Cymru. Nid yw Awdurdodau Lleol yn gweithio gyda’i gilydd. Sut y gall un awdurdod berfformio mor dda, tra bod gan awdurdod cyfagos enw drwg iawn am ddarpariaeth gwasanaeth gwael a hwythau’n gweithio’n llythrennol ar ffiniau’r naill a’r llall. Nid yw’n ymddangos fod yna unrhyw gynllunio nac ymagwedd gydgysylltiedig ac yn sicr dim cyfathrebu rhyngddynt mewn perthynas â rhai o’r gwasanaethau maent yn eu darparu, ac rydych yn llythrennol yn byw dwy stryd i ffwrdd oddi wrth rhai pobl a dau awdurdod gwahanol, ac mae’r prosesau y mae’n rhaid i chi eu dilyn er mwyn i rywbeth gael ei wneud yn hollol wahanol. Dydw i ddim yn deall y lefel honno o anghysondeb” (Dyfyniad Cyfranogwr 13). 

Mae dinasyddion eisiau mwy o sylw i fanylder

Mynegodd rhai cyfranogwyr rwystredigaeth nad yw tasgau y maent yn eu hystyried sy’n dasgau bach yn cael eu cwblhau i safon ddisgwyliedig. Defnyddiodd cyfranogwyr annibendod fel enghraifft. Er enghraifft, soniodd un cyfranogwr am ddail wedi tyfu’n wyllt ar y ffordd i mewn i’w dref. Rhannodd un arall ei fod yn cofio ‘sbwriel’ yn cael ei adael ar y stryd wedi i’r biniau gael eu casglu. Roedd y cyfranogwyr hyn yn cysylltu’r problemau estheteg hyn gyda diffyg ‘balchder’ eu hawdurdod lleol yn y lle y maent yn byw ynddo. 

Hefyd cynigiodd dau gyfranogwr enghreifftiau o ryngweithio lle nad oeddent yn teimlo y siaradwyd â hwy yn briodol. Roedd yr enghreifftiau yn disgrifio achlysur pan nad oedd y sawl a atebodd yr alwad yn fodlon rhoi eu henw i’r cyfranogwr, a thro arall pan deimlai cyfranogwr fod y rhai a atebai’r galwadau wedi gwneud sefyllfaoedd yn waeth drwy beidio â bod yn ddigynnwrf. Teimlai’r cyfranogwyr a gododd hyn nad oeddent yn cael eu parchu gan eu hawdurdod lleol.

“bagiau wedi byrstio ar ôl eu casglu, mae’r cynnwys yn cael ei adael ar y ffordd. Pam nad yw staff casglu sbwriel yn glanhau’r stryd ar ôl casglu sbwriel? Mae hyn eto yn ymwneud â balchder mewn lle” (Dyfyniad Cyfranogwr 14). 

Mae dinasyddion eisiau gweld mwy o berchnogaeth dros wasanaethau a llunio penderfyniadau     

Mynegodd cyfranogwyr rwystredigaeth o gael eu trosglwyddo o unigolyn i unigolyn unwaith yr oeddent wedi cysylltu gyda’u hawdurdod lleol. Roedd hyn o adran i adran ac o gydweithiwr i gydweithiwr o fewn yr un tîm. Nododd y cyfranogwyr hyn eu bod eisiau gweld mwy o berchnogaeth gan aelodau’r adran er mwyn gwneud penderfyniadau. 

Roedd un enghraifft a roddwyd gan gyfranogwr yn dangos faint o effaith yr oedd hyn wedi ei gael ar ei fywyd. Soniodd am gael ei drosglwyddo rhwng adrannau wedi iddo wneud cais am addasiadau i bobl anabl. Eglurodd y cyfranogwr sut yr oedd pob adran newydd y siaradai â nhw wedi eu synnu gyda faint o bobl yr oedd wedi ymgysylltu â nhw i ddod o hyd i ddatrysiad. Credai’r cyfranogwr mai diffyg arweinyddiaeth oedd i gyfrif am hyn. 

Gorffennodd y cyfranogwr drwy ddweud “Os yw hyn yn digwydd i mi, a dwi yn rhywun a all sefyll drosof fy hun a chyfathrebu, beth sy’n digwydd i ddefnyddwyr gwasanaeth anabl na allant wneud hynny?” (Dyfyniad Cyfranogwr 15). 

Mae dinasyddion wedi cael digon ar glywed pandemig y coronafeirws yn cael ei gynnig fel esgus dros ddarpariaeth gwasanaeth gwael

Roedd nifer o gyfranogwyr yn rhwystredig fod ‘Covid’ yn dal i gael ei gynnig fel esgus dros yr hyn y maent yn ei deimlo sy’n ddarpariaeth gwasanaeth gwael. Cymharodd cyfranogwyr eu hawdurdod lleol gyda sut roedd sefydliadau’r sector preifat yn ymdopi gyda phandemig y Coronafeirws. Roedd y rhan fwyaf yn teimlo fod sefydliadau preifat yn cynnal safon uchel o ran gwasanaeth yn ystod y pandemig, tra roedd eu hawdurdod yn ei ddefnyddio fel esgus dros wasanaeth gwael. Os oedd dinasyddion unwaith yn dangos empathi gyda’u hawdurdod lleol yn ystod y pandemig, mae hyn yn awgrymu fod y teimlad hwnnw wedi newid. 

“Covid yw’r esgus cyfredol dros bopeth ar hyn o bryd, a dim ond awdurdodau lleol sydd i weld fel pe baent yn ei chael yn anodd i ddarparu gwasanaethau yn ystod Covid. Mae pawb arall wedi rhoi systemau mewn grym neu’n ymdrin â hyn mewn dull diogel, a diolch i’r drefn fe allwn fynd ymlaen gyda’n bywydau oherwydd hynny, ond mae awdurdodau lleol yn absennol, maent yn diflannu” (Dyfyniad Cyfranogwr 16). “Covid yw’r esgus cyfredol dros bopeth ar hyn o bryd, a dim ond awdurdodau lleol sydd i weld fel pe baent yn ei chael yn anodd i ddarparu gwasanaethau yn ystod Covid. Mae pawb arall wedi rhoi systemau mewn grym neu’n ymdrin â hyn mewn dull diogel, a diolch i’r drefn fe allwn fynd ymlaen gyda’n bywydau oherwydd hynny, ond mae awdurdodau lleol yn absennol, maent yn diflannu” (Dyfyniad Cyfranogwr 16). 

Mae dinasyddion yn poeni llai am ddiogelu a chynllunio ar gyfer y dyfodol

“Diogelu anghenion cenedlaethau’r dyfodol” oedd y thema y teimlai’r mwyafrif o gyfranogwyr oedd leiaf pwysig. Fe nododd un cyfranogwr a oedd wedi dod yn rhiant yn ddiweddar hyn fel y thema bwysicaf. Er hynny, roedd y mwyafrif yn credu mai dyma’r thema a oedd leiaf pwysig iddynt. Y rheswm mwyaf cyffredin dros hyn oedd bod cyfranogwyr eisiau i’w hawdurdod lleol ganolbwyntio ar beth sy’n digwydd nawr cyn canolbwyntio ar y dyfodol. Nododd cyfranogwyr fod angen i’w hawdurdod lleol feistroli’r elfennau sylfaenol cyn trafod problemau’r dyfodol. Nododd un cyfranogwr nad oedd yn credu fod canolbwyntio ar y dyfodol yn gyraeddadwy ar gyfer eu hawdurdod lleol. 

“Diogelu anghenion cenedlaethau’r dyfodol yw’r lleiaf pwysig. Os ydym ni’n cael pethau’n iawn heddiw, yna fe fydd yfory yn llawer gwell. Mae poeni am yfory yn ddibwrpas os na allwn ddatrys heddiw” (Dyfyniad Cyfranogwr 17). 

Pwyntiau Mynediad

Roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn poeni llai am sut y maent yn cysylltu â’u hawdurdod lleol ac roeddent eisiau canolbwyntio’n fwy ar beth sy’n digwydd ar ôl y pwynt o gysylltu y tro cyntaf. “Mae cael i mewn yn hawdd, ond mae’r neges yn cael ei hoedi unwaith y mae i mewn” (Dyfyniad Cyfranogwr 18). Fodd bynnag, fe fynegodd y cyfranogwyr beth sy’n ysgogi’r hyn maent yn ei ffafrio o ran cysylltu â’u hawdurdod lleol a’r problemau y cawsant. 

Mae dinasyddion yn dewis y sianel gyfathrebu sy’n gweithio orau yn eu barn nhw

Cynigiodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr enghreifftiau o sianeli amrywiol y maent wedi eu defnyddio i gysylltu â’u hawdurdod lleol. Roedd mwyafrif y cyfranogwyr hyn wedi nodi eu bod wedi dewis pa bynnag sianel a fyddai’n gweithio orau yn eu barn nhw. Soniodd nifer o gyfranogwyr fod ganddynt ymagwedd profi a methu o ran cysylltu â’u hawdurdod lleol. Er enghraifft maent yn cychwyn gyda’r sianel maent yn ei ffafrio; os nad yw hynny’n gweithio maent yn rhoi cynnig ar sianel arall. Mae’r cyfranogwr yn parhau i ymdrechu hyd nes ei fod yn fodlon y gweithredir ar ei gais. Y dull cysylltu olaf ar gyfer y rhan fwyaf o gyfranogwyr a oedd yn defnyddio’r strategaeth hon oedd uwchgyfeirio eu cais i’w Cynghorydd, Prif Weithredwr yr awdurdod lleol neu drwy neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan dagio’r unigolion a grybwyllwyd yn flaenorol. Roedd cyfranogwyr eraill yn defnyddio ymagwedd amlochrog o ran cysylltu â’u hawdurdod lleol gan ddefnyddio sawl sianel ar unwaith ar gyfer yr un cais. 

“Dim amser i eistedd gan obeithio y byddant yn ateb fy ngalwad. Y wefan yw fy newis cyntaf bob tro. Fe ddylwn i fod yn gallu defnyddio’r hunanwasanaeth. E-bostio neu ffonio nesaf. Y dull cyflymaf yw i fynd ar Facebook gan y bydd rhywun yn tagio cynghorydd” (Dyfyniad Cyfranogwr 19). 

Caiff dewis cyntaf dinasyddion o ran cysylltu ei ysgogi gan amrywiaeth o ffactorau

Caiff y rheswm pam fo cyfranogwr yn dewis sianel benodol er mwyn cysylltu â’u hawdurdod lleol ei effeithio gan nifer o ffactorau:

Cymhlethdod y Gwasanaeth: Cymhlethdod y gwasanaeth oedd y rheswm y rhoddodd y mwyafrif o gyfranogwyr dros benderfynu sut y byddant yn cysylltu gyda’u hawdurdod lleol y tro cyntaf. Fe fyddai cyfranogwyr yn hapus i ymgysylltu gyda gwasanaethau ar-lein gan yr ystyrir fod y gwasanaethau yn fwy syml. Os oedd y cyfranogwyr yn teimlo fod angen cymorth arnynt i ddeall y gwasanaeth yn llawn, yna roeddent yn dymuno siarad gyda rhywun er mwyn bod yn dawel eu meddwl eu bod yn deall y broses yn llawn. 

Mae’n dibynnu pa wasanaeth yr ydw i’n dymuno siarad gyda nhw yn ei gylch. Os nad ydw i’n deall pam y caiff treth y cyngor ei gyfrif yn y dull y caiff ei gyfrif, dwi wir angen siarad gydag unigolyn go iawn” (Dyfyniad Cyfranogwr 20). 

Cyflymder yr adborth: Wrth gysylltu â’u hawdurdod lleol, mae nifer o gyfranogwyr yn disgwyl cael eu hysbysu fod eu cais wedi cael ei gydnabod a bod cynnydd yn cael ei wneud. Os nad yw hyn wedi digwydd, byddai nifer o gyfranogwyr wedyn yn ffonio eu hawdurdod lleol i gael adborth ar unwaith ar y ffôn.

“Dwi’n hapus i gysylltu drwy e-bost, sef yr hyn rwyf wedi ei wneud yn ddiweddar, ond wedyn ni chefais unrhyw ateb o gwbl i’r e-bost, ac felly bu’n rhaid i mi ffonio” (Dyfyniad Cyfranogwr 21). 

Nam: Nododd rhai cyfranogwyr oedd â nam fod hynny’n ysgogi’r hyn maent yn ei ffafrio ar gyfer cyfathrebu. Er enghraifft, mae un cyfranogwr sy’n cael trafferth gyda’i glyw yn ffafrio’r e-bost o’i gymharu â galwadau ffôn gan na all glywed yn glir iawn ar y ffôn. 

“Pam mai’r e-bost yw’r dull yr ydych yn ei ffafrio?” (Holwr)

“Yn gyffredinol, o ganlyniad i fy nghlyw, dydw i ddim yn gallu eu clywed ar y ffôn, felly dyna’r dull rydw i’n ei ffafrio ar hyn o bryd” (Dyfyniad Cyfranogwr 22). 

Brys: Roedd faint o frys oedd ar y cyfranogwr o ran cael cais wedi ei ddatrys hefyd yn ffactor a oedd yn cyfrannu at ei ddewis o ran cysylltu. Os oeddent angen rhywbeth yn gyflym, fe fyddai nifer o gyfranogwyr yn ffonio eu hawdurdod lleol. 

“Roedd angen i mi siarad gyda rhywun yn gyflym, o fewn diwrnod neu ddau i ddweud y gwir, gan fod yr ysbyty yn gofyn i mi beth oedd yn digwydd, ac felly gan ei fod yn un pwynt mynediad, ac wedi ei hysbysebu felly, fe feddyliais yn ddiniwed mai galwad i un rhif ac un unigolyn fyddai’r ffordd symlaf o gael ateb neu’r wybodaeth ddiweddaraf” (Cyfranogwr 23).

Mae dinasyddion eisiau arbenigedd ar y pwynt mynediad

Mynegodd rhai cyfranogwyr rwystredigaeth o gael eu trosglwyddo at gydweithwyr ac adrannau eraill, neu o dderbyn gwybodaeth anghywir yn hytrach na chael y profiad sydd ei angen arnynt wrth iddynt ymgysylltu am y tro cyntaf. Cynigiodd y cyfranogwyr hyn enghreifftiau o sut y cawsant eu cyfeirio at gydweithwyr nad oedd ganddynt hwythau chwaith ddatrysiadau neu a roddodd wybodaeth anghywir a wnaeth iddynt deimlo fel nad oedd ganddynt unman i fynd gyda’u cais. 

“Yn y diwedd rydych yn mynd o amgylch pobman er mwyn cael cymorth. Siarad efo pobl sydd ‘ddim yn gwybod dim am hynny, fe fydd yn rhaid i chi siarad efo x neu edrychwch ar y wefan” (Dyfyniad Cyfranogwr 24). 

Mae dinasyddion yn teimlo’n rhwystredig pan na allant ddod o hyd i’r sianel y maent yn ei ffafrio o ran cyfathrebu   

Nododd rhai cyfranogwyr eu bod yn teimlo yn rhwystredig pan na allent ddod o hyd sut i gysylltu â’u hawdurdod lleol drwy’r sianel y maent yn ei ffafrio. Roedd nifer o’r cyfranogwyr hyn yn teimlo fel bod eu hawdurdod lleol yn gosod rhwystrau ar gyfer cysylltu yn fwriadol fel nad oedd yn rhaid iddynt ymdrin â chwyn neu am nad yw’r awdurdod lleol eisiau i ormod o ddinasyddion ffonio. 

“Dim rhifau ffôn i’ch cadw hyd braich. Dim ond am eich bod eisiau cwyno y maent yn gwneud hyn. Pe baent yn fwy hygyrch gan siarad gyda chi ar y dechrau, fyddech chi ddim yn cwyno drwy’r amser (Dyfyniad Cyfranogwr 25). 

Os ydym eisiau i ddinasyddion ddefnyddio sianeli ar-lein, yna mae’n rhaid iddynt weithio

Nododd nifer o gyfranogwyr eu bod yn defnyddio sianeli ar-lein a gaiff eu cynnig iddynt gan eu hawdurdod lleol, ond nad oeddent yn gweithio. Roedd y cyfranogwyr hyn wedyn wedi cysylltu â’u hawdurdod lleol drwy gyfrwng gwahanol i gael datrysiad. 

“Roedd y ffurflen ar-lein wedi ei chwblhau ar gyfer bagiau clytiau, ond doedd neb yn ateb pan wnes i ffonio. Cafodd y bagiau clytiau eu harchebu ym mis Mehefin, a dwi’n dal i aros. Does dim eglurhad wedi ei roi am yr oedi. Fe ymunais â grŵp Facebook cymuned ****** i ofyn am gymorth ac fe ddes i o hyd i 20 o rieni eraill a oedd yn cael yr un broblem. Fe ddaeth y preswylwyr i helpu. Ddylen ni ddim gorfod gwneud hyn pan rydym ni’n talu am y gwasanaeth” (Dyfyniad Cyfranogwr 26).

Casgliad

Tra nad oedd yr holl brofiadau a rannwyd gan gyfranogwyr yn negyddol, roedd y rhan fwyaf o’r enghreifftiau a gynigiwyd yn llawn rhwystredigaeth ac anfodlonrwydd. 

Gydag ymchwil ansoddol, mae’n briodol i barhau hyd nes y ceir atebion trylwyr. Yn sicr digwyddodd hyn gyda’r grwpiau ffocws hyn a’r cyfweliadau. Roedd yr atebion a gynigiwyd yn amlygu’r un themâu drosodd a throsodd. Gyda’r grŵp cyfranogwyr yn cynnwys 29 dinesydd, ni fyddai’n gywir i uwchraddio’r hyn a ddywedwyd er mwyn dod i’r casgliad fod pob dinesydd yn teimlo fel hyn. Fodd bynnag, rwy’n credu fod y cipolwg a gafwyd, a’r themâu a nodwyd o’r ymchwil hwn, yn rhoi i ni gipolwg cadarn o brofiadau defnyddwyr gwasanaeth awdurdod lleol, profiadau y gellir gweithredu arnynt fel y bydd nifer yn elwa.

3 COMMENTS

comments user
Rebecca Morales

Some very useful research there Chris that we can all learn from now and moving forward into future and upcoming projects. The findings are explained very clearly and provide us with a great starting point to continue developing Local Authority services.
Thanks

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *