Cwrdd: Ail-ddylunio Gwefan Cynghorau Cymru

Cwrdd: Ail-ddylunio Gwefan Cynghorau Cymru

Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf, cynhaliwyd cyfarfod ar gyfer awdurdodau lleol i drafod ailddylunio gwefan, yn dilyn sgyrsiau ar draws ein gwaith rydym yn ymwybodol bod llawer o awdurdodau lleol yn edrych ar hyn ar hyn o bryd. Roeddem yn credu y byddai’n syniad da dod â phobl ynghyd i hwyluso trafodaeth ac adnabod rhai o’r camau nesaf.

Bu i dros 40 o bobl o awdurdodau lleol, grŵp Drupal Llywodraeth Leol, Perago a CDPS fynychu. Bu i ni rannu i ystafell ymneilltuo i drafod lle maent yn y broses a beth yw meddylfryd cyfredol ynghylch hyn, ac i drydydd parti i sôn beth sydd ganddynt i’w gynnig i gefnogi Awdurdodau Lleol.

Bu i’r grwpiau drafod am 20 munud a rhoi adborth i’r grŵp ehangach. Bu i ni adnabod llond llaw o themâu allweddol o’r sesiynau:

  • Dyluniad sy’n ganolog i’r defnyddiwr,
  • Cydweithio a rhannu,
  • Dysgu oddi wrth eraill,
  • Gofyn y cwestiynau cywir

Dyluniad sy’n ganolog i’r defnyddiwr

Roedd ffocws ar ddyluniad sy’n ganolog i’r defnyddiwr, a phwysigrwydd o ystyried hyn cyn unrhyw waith caffael neu dechnoleg. Soniwyd am anghenion y defnyddiwr, ymchwil y defnyddiwr (siarad â’r defnyddwyr) a mapio taith cwsmer, a oedd yn dda i weld. Mae’r mwyafrif o awdurdodau lleol yn y camau cynnar eu taith ail-ddylunio gwefan sydd yn gwneud y sgyrsiau hyn yn amserol ac yn ddefnyddiol.

Cydweithio a rhannu

Roedd trafodaeth ynghylch sut y gellir rhannu arferion gorau a’u darparu ar draws y 22 awdurdod, gan gydnabod y gwahaniaethau unigryw yn y prosesau, systemau diwedd, ac ieithoedd codio. Roedd yr Awdurdodau yn cydnabod bod ganddynt broblemau tebyg a bod angen i drafod rhannu templedi a phatrymau gwasanaeth arferion gorau i arbed timau ailddyfeisio’r olwyn bob amser, a gweithio mewn modd mwy cyfunol a chyson. 

Yn ogystal codwyd pwynt er nad yw dewisiadau technoleg yn cael ei wneud gan y tîm digidol, mae’n bwysig ffocysu ar ymchwil y defnyddiwr, profiad y defnyddiwr ac adborth cwsmer a data sydd yn bodoli’n barod o fewn awdurdodau i hysbysu ailddylunio gwefan. Cawsom glywed gan rai awdurdodau lleol sydd yn gwneud hyn eisoes yn dda sydd yn galonogol iawn. Roedd yn ddiddorol i weld angen cytûn o enghreifftiau o wasanaethau da a sut oedd y rhain yn edrych mewn gwirionedd.

Dysgu oddi wrth eraill

Yn ystod y sesiwn, roedd arbenigwyr y diwydiant a chynghorau yn rhannu rhai pethau y maent wedi’i ddysgu yn y grŵp:

  • Bu i ni glywed sut mae gan awdurdod lleol yn Iwerddon gatalog gwasanaeth a rennir,ac mae gennym ddiddordeb i’w weld i ddeall sut mae’n gweithio. 
  • Mae Cyngor Bwrdeistref Rugby wedi cyhoeddi stori o gomisiynu ar y cyd a chyllid wedi’i dargedu i dimau yn ceisio datrys heriau cyffredin a gwella gwasanaethau cyhoeddus i fodloni anghenion defnyddwyr.
  • yn ceisio datrys heriau cyffredin a gwella gwasanaethau cyhoeddus i fodloni anghenion defnyddwyr.
  • Mae cydweithio Datganiad Digidol Lleol rhwng awdurdodau lleol Lloegr yn “llwybr sydd wedi’i droedio llawer a dwi’n siŵr y byddant yn hapus i rannu profiadau, gwersi a ddysgwyd ac ati”. 
  • Yn ddiweddar, mae CDPS wedi cwblhau eu darganfyddiaeth ar Dechnoleg Net Sero ac wedi rhannu gwefannau sydd wedi’i hadeiladu gyda chynaliadwyedd, hygyrchedd ac anghenion y defnyddiwr o’r dechrau ac sydd hefyd yn well i’r amgylchedd.  

Gofyn y cwestiynau cywir,

Roedd yn amlwg yn ystod y sesiwn bod gennym nifer o gwestiynau na edrychwyd arnynt i drafod fel grŵp. Dyma rai isod:

  • Mae arnom angen deall rôl cyfrif cwsmer gydag ailddyluniad gwefan.
  • Faint o gynghorau sydd wedi neu’n bwriadu defnyddio’r system Dylunio GOV ar eu gwefannau? 
  • Mae arnon ni angen casglu cipolwg am bob un o’n hideoleg ar gyfer y dyfodol (dyfyniad o’n sesiwn: “ac er ein bod i gyd yn cytuno – rwy’n credu bod ein gwleidyddiaeth bersonol yn siapio ein hideoleg”)
  • Byddai’n dda deall/ gweld pa staciau technegol y mae’r cyngor yn ei ddefnyddio. Mae ychydig o’r eitemau yma yn cynnwys pa CMS, CRM, Cyfrif Cwsmer, Ffurflenni, Ieithoedd Datblygu Meddalwedd, safonau API, neu addasiad Cloud ym mhob cyngor. Mae gennym restr wedi’i gyhoeddi o System Rheoli Cynnwys yma!
  • Pa ddull i safonau a phrosesau y dylid ei rannu? Gwnaethpwyd y sylw canlynol yn ystod y sesiwn “Roedd yn ymddangos fel iwtopia ar hyn o bryd, dyma lle oedd fy ngwyn bach am y Safonau Gwasanaeth wedi dod – mae’n ymddangos bod addewidion gwag a neb yn gyfrifol i ddangos eu bod naill ai’n bodloni’r safonau hynny neu’n gweithio tuag atynt.”

Y camau nesaf

Yn ystod yr haf, bydd tîm digidol CLlLC yn cynnal arolwg gyda chynghorau i helpu ateb rhai o’r cwestiynau uchod.  

Mi wnaethom weld rhai sylwadau yn gofyn beth oedd rôl y Tîm Digidol CLlLC yn y gwaith sy’n symud ymlaen. Mae ein cynllun cyflenwi ar gyfer 2022/23 yn gorlifo yn barod, ond mae gennym broses comisiynu felly byddai’n dda deall anghenion gan y cynghorau i alluogi cydweithio. 

Yn y cyfamser, rydym yn awyddus i barhau â’r sgyrsiau yn ac felly yn cynllunio sesiwn arall yn fuan. 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *