Cam Alffa Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr

Cam Alffa Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr

Cefndir

Rydym ni wedi cwblhau cam darganfod prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr. Fel tîm rydym ni’n teimlo bod y nod o nodi o leiaf un datrysiad hyfyw i’r broblem wedi’i gyrraedd, ac rydym ni’n argymell symud y prosiect yn ei flaen i gam alffa.

Cwestiwn dan sylw

Sut all dealltwriaeth well a’r defnydd o ddata helpu Cyngor Merthyr i ddarparu ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu sy’n lleihau tebygolrwydd dinasyddion o wynebu tlodi bwyd?

Y syniad prawf ar gyfer alffa

Mae ein canfyddiadau ar y cam darganfod yn dangos bod gwybodaeth (data) yn ymwneud â dinasyddion unigol wedi’i chadw ar sawl system gan y cyngor a’i bartneriaid, gyda’r mynediad wedi’i gyfyngu i dimau penodol. Nod y cam alffa yw datrys mater yn ymwneud â swyddogion ddim yn ymwybodol o newid mewn amgylchiadau sy’n rhoi dinasyddion dan eu gofal mewn mwy o berygl o argyfwng, er bod y newidiadau hyn wedi’u nodi ar system yn rhywle yn y cyngor. Drwy gael mynediad at wybodaeth ategol ar amser bydd swyddogion yn derbyn darlun mwy eglur o’r hyn sy’n digwydd, gan eu rhoi mewn sefyllfa well i gyflwyno ymyraethau cynnar wedi’u targedu. Mae’r cam alffa yn edrych ar ymyraethau sy’n lleihau tebygolrwydd dinasyddion o wynebu tlodi bwyd.

Nod y cam alffa yw datrys mater yn ymwneud â swyddogion ddim yn ymwybodol o newid mewn amgylchiadau sy’n rhoi dinasyddion dan eu gofal mewn mwy o berygl o argyfwng, er bod y newidiadau hyn wedi’u nodi ar system yn rhywle yn y cyngor.

Drwy gael mynediad at wybodaeth ategol ar amser bydd swyddogion yn derbyn darlun mwy eglur o’r hyn sy’n digwydd, gan eu rhoi mewn sefyllfa well i gyflwyno ymyraethau cynnar wedi’u targedu. Mae’r cam alffa yn edrych ar ymyraethau sy’n lleihau tebygolrwydd dinasyddion o wynebu tlodi bwyd.

Profi ein syniad

Ein nod alffa yw gallu dweud yn hyderus bod gennym ateb hyfyw a chost-effeithiol i’r cwestiwn problemus sy’n werth ei symud ymlaen i beta.

Byddwn yn ceisio profi ein gallu i gasglu gwybodaeth o sawl system y cyngor a rhoi’r wybodaeth honno mewn un ddelwedd gyfanredol darllen-yn-unig. Yna, drwy ymgynghori ag arbenigwyr tlodi bwyd Merthyr, byddwn yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno i greu adroddiad statws COG (coch, oren, gwyrdd) ar gyfer dinasyddion unigol sydd mewn perygl o fod mewn tlodi bwyd.

Enghraifft o sut mae adroddiad statws COG yn edrych.

Ar y cam darganfod dadansoddwyd saith system TG y cyngor a thrydydd sector. Ar gyfer alffa rydym ni’n bwriadu dod â gwybodaeth tair o’r systemau hyn at ei gilydd: Capita One Education; Civica Housing; a Northgate Revenues and Benefits.

Prosiect data yw hwn yn ei hanfod, a’r diben yw canfod dulliau newydd neu well o ddefnyddio data. Nid yw’n ymwneud yn benodol â’r math o dechnoleg neu lwyfan a ddefnyddir, felly rydym ni’n ceisio bod yn llwyfan agnostig.

Wrth gwrs, bydd arnom ni angen canfod ffordd i drin y wybodaeth gyfunol, felly ar y cam darganfod ymchwiliwyd i sawl llwyfan gyda’r nod o ddewis un i’w ddefnyddio ar gyfer y cam alffa. Yr un hawsaf yn ein barn ni, a’r un a fyddai’n darparu cysylltedd data cadarn a’r gallu i drin ac archwilio data, yw cynnyrch Single View Capita One

Os ydym ni, ar ddiwedd y cam alffa, yn hyderus i symud i’r cam beta, efallai y byddwn yn chwilio am gyfleoedd i brofi llwyfannau eraill ochr yn ochr â Single View er mwyn gwirio gallu’r datrysiad i ehangu.

Beth nesaf

Mae gwaith adeiladu llwyfan brawf Single View wedi’i gwblhau, ac mae’n barod i dderbyn y wybodaeth. Rydym ni’n canolbwyntio rŵan ar gysylltu’r tair ffynhonnell data ar wahân a nodi a phwyso a mesur data dangosydd tlodi i’w ddefnyddio yn yr adroddiad statws COG.

Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau ar y prosiect wrth i ni ddatblygu’r trwy’r cam alffa ac i unrhyw gam beta wedi hynny. I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf cofrestrwch i dderbyn ein newyddlen.

1 COMMENT

comments user
Deserie Mansfield

Are you aware that Monmouthshire County Council have build a platform , with Astario Systems, funded by Welsh Government . It offers an opportunity to analyse such data already . Happy to discuss .

Kind regards

Deserie Mansfield

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *