Peidiwch ag osgoi digidol

Peidiwch ag osgoi digidol

Fel Prif Swyddog Digidol (PSD), pan rwyf wedi ymgeisio am swydd newydd, mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau yn ymwneud â thrawsnewid, gwella gwasanaeth, gwerth am arian a newid diwylliant. Holl elfennau sy’n ymddangos ym mhob rôl arweinyddiaeth y gallaf feddwl amdanynt, waeth beth fo’r arbenigedd. Nid oes yn rhaid i chi fod yn PSD i ddeall pwysigrwydd symud ymlaen, mynd â phobl gyda chi a defnyddio popeth ar gael ichi ei ddefnyddio i gael canlyniad da i’ch staff, eich gwasanaeth a’ch dinasyddion.

Felly, pam nad oes gennym gwestiynau am sut y gellir defnyddio digidol i symud ymlaen gyda maes gwasanaeth pan rydym yn recriwtio ar gyfer uwch swyddi eraill? 

Mae digidol yma i aros. Mae llawer o ddinasyddion wedi dewis llwybrau digidol i gael mynediad i wasanaethau a gwybodaeth. Mae ein timau yn dibynnu ar adnoddau digidol i wneud eu gwaith. Rydym yn cyfathrebu ac yn gwneud busnes mewn byd digidol. Mae ein gallu i fod yn hyblyg ac addasu yn cael ei ehangu oherwydd ein gafael ar ddigidol. 

Felly, pan rydym yn recriwtio ar gyfer rolau Prif Swyddog, sut ydym yn sicrhau bod darpar ymgeiswyr yn gwybod digon am beth yn union yw digidol. 

Onid ydym angen arweinwyr sy’n gallu cefnogi’r defnydd o feddwl digidol ar gyfer dylunio gwasanaeth, datblygu sgiliau, ymchwilio defnyddiwr, darpariaeth a gwerthusiad a gwelliant parhaus?

Wrth gwrs ein bod. Mae’n agwedd arall o arweinyddiaeth, fel rheoli cyllidebau, datblygu staff, gwneud penderfyniadau anodd a chynrychioli ein sefydliad. Felly, ydyn ni’n chwilio am hynny mewn cyfweliad? Ydyn ni’n edrych am dystiolaeth bod ymgeiswyr hŷn yn ‘cael y neges’, deall pa mor bwysig yw creu’r math cywir o amgylchedd i sicrhau bod meddwl digidol yn ffynnu?

Nid ydym yn siarad am dechnoleg na chymwysiadau. Rydym yn siarad am hanfod digidol – pobl a’u hanghenion.

Diffiniad o Ddigidol: Defnyddio modelau busnes, diwylliant, prosesau a thechnolegau o gyfnod y rhyngrwyd i ymateb i ddisgwyliadau cynyddol pobl.

Tom Loosemore

Gofynnwyd i mi eistedd ar ddau banel cyfweld ar gyfer Awdurdod Lleol yn ddiweddar. Roedd y swyddi ar gyfer Prif Swyddog. Ni fyddai’r un ohonynt yn eich taro fel swyddi digidol yn benodol. Fodd bynnag, cefais y cyfle i ofyn cwestiynau ac edrych am atebion oedd yn dangos y byddai’r ymgeiswyr yn ymgorffori sgiliau digidol, bod ganddynt syniadau ar gyfer gwelliant a’u bod yn gweld digidol fel agwedd sylfaenol o’u rôl fel arweinydd.

Roedd yn brofiad gwych ac roeddwn wedi dysgu llawer am beth mae Prif Swyddogion yn ei wneud o fewn Awdurdodau Lleol. Ystod eu gwasanaethau a’r cyfrifoldebau oedd ganddynt i ddarparu ansawdd da, cost-effeithiol ac effeithiolrwydd drosodd a throsodd.

Peidiwch byth â meddwl bod Llywodraeth Leol yn faes hawdd, nid yw o gwbl. Mae arweinyddiaeth, boed yn Swyddog neu’n Aelod Etholedig yn galed. Mae cyfrifoldebau arferol o ddydd i ddydd yn galed, ond allwch chi gofio’r tro diwethaf yr oedd yn ‘arferol’? Mae arweinwyr Llywodraeth Leol wedi cael cyfnod eithriadol o anodd yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf ac maent eisoes yn gweld y pwysau mae argyfwng costau byw yn ei gyflwyno.

Nid yw’n waith ar gyfer y gwangalon.

Mae digidol yn gallu helpu. Beth gallwn ei wneud yw sicrhau bod ein harweinwyr yn deall beth mae digidol yn ei olygu ac yn hyderus yn ceisio pethau newydd ac yn ymateb i anghenion ein dinasyddion mewn ffordd nad ydym wedi rhoi cynnig arni o’r blaen. Dylem ofyn iddynt am arloesi a sut maent yn gweld y dyfodol. Nid oes yna unrhyw reswm pam na ddylem ofyn i ddarpar Gyfarwyddwyr Addysg am yr effaith mae digidol wedi’i gael ar addysg a sut y gall hynny gael ei ddatblygu ymhellach i baratoi dysgwyr ar gyfer bywyd yn y byd digidol. Neu Gyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol am sut y gallai awtomatiaeth helpu i leihau’r baich gweinyddu yn eu gwasanaeth, neu sut mae ceisiadau am gefnogaeth iechyd meddwl yn effeithio ar les pobl ifanc. Wrth gwrs, gallwn ofyn y math hyn o gwestiynau ac rwy’n fawr obeithio ein bod yn gwneud hynny.

Rydym ni’r bobl ddigidol yn sylweddoli pwysigrwydd defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ni. Rydym yn gallu helpu gydag ymchwil, dylunio, cynnwys, defnyddioldeb, hygyrchedd a datblygiad fydd yn gwella gwasanaethau i ddinasyddion.

Mae pawb yn ddigidol i ryw raddau, ond nid ydym yn disgwyl i bawb fod yn arbenigwr ym mhopeth. Yr hyn fyddai o gymorth mawr yw’r ddealltwriaeth bod digidol yn rhan barhaus o ddarpariaeth gwasanaeth, nid prosiect na darn o dechnoleg. Mae arweinwyr da yn gallu helpu gyda’r neges honno a datblygu’r amgylchedd iawn i’r meddwl hwnnw ffynnu. Yna, gallwn weithio gyda’n gilydd i barhau i ddarparu canlyniadau gwell, gwasanaethau gwell, bywydau gwell. Onid dyna pam ein bod i gyd yn y busnes hwn?

Mae bod yn ddynol yn y byd digidol am datblygu byd digidol i bobl.  

Andrew Keen

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *