Y Gronfa Trawsnewid Digidol – Prosiect Prinder Sgiliau Digidol
Blog a ysgrifennwyd gan y contractwr Ed Crowley, Ymchwilydd Defnyddwyr.
Rydym newydd gwblhau darganfyddiad wyth wythnos mewn cydweithrediad â phedwar Awdurdod Lleol. Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg a Wrecsam. Cafodd y darganfyddiad ei ariannu drwy Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan dîm Digidol CLlLC.
Mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu heriau mawr ar hyn o bryd yn recriwtio a chadw staff gyda sgiliau digidol. Mae hyn yn cael effaith ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau i breswylwyr.
Roeddem eisiau deall:
Beth sy’n achosi’r heriau recriwtio a chadw?
Beth yw’r effaith ar gynghorau a gwasanaethau cyhoeddus digidol?
A yw cydweithio yn ddatrysiad posibl i’r heriau hyn?
Beth yw’r rhwystrau ar gyfer cydweithio?
Gyda phwy wnaethom siarad
Gwnaethom siarad gyda thri deg wyth o bobl ar draws y pedwar cyngor, yn ogystal â phobl gyda CLlLC, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru a chynghorau eraill. Roedd hyn yn cynnwys pobl oedd yn ymwneud â meysydd digidol a meysydd eraill o fewn y cyngor. Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu gweld beth oedd yr effaith ar y cyngor i gyd, nid y timau digidol yn unig.
Roeddem hefyd wedi siarad gyda rhai cynghorwyr i ddeall eu barn am rannu a chydweithio.
Ein casgliadau
Y prif reswm pam bod cynghorau yn ei chael hi’n anodd recriwtio pobl yw nad ydynt yn gallu cyfateb cyflogau ar gael mewn mannau eraill. Roedd hyn yn y sector preifat, ond mewn sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus hefyd fel iechyd.
Roedd disgrifiadau rôl cymhleth a phrosesau ymgeisio trwsgl hefyd yn ei gwneud yn anodd i bobl ymgeisio o’i gymharu â sefydliadau eraill.
Gallai deunydd recriwtio wneud mwy i amlygu manteision gweithio i gynghorau.
Unwaith yr oeddent yn yr awdurdodau lleol, roedd staff yn ei chael hi’n anodd i ddatblygu eu gyrfa.
Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar gyflymder ac effeithiolrwydd darpariaeth ddigidol yn y cynghorau oedd yn cymryd rhan. Mae hyn yn arwain at brofiad gwaeth i breswylwyr a chostau uwch i’r cyngor.
Roeddem yn sylwi bod rhannu gwybodaeth am sgiliau a phrosesau yn digwydd eisoes ac mae yna awch am fwy, o fewn a rhwng cynghorau.
Mae yna hefyd awch i rannu staff. Mae’r prif rwystrau yma yn sgil diffyg staff i’w rhannu yn ogystal â chwestiynau ymarferol o amgylch amser a chyllidebau.
Camau Nesaf
Mae’r pedwar cyngor yn awyddus i barhau i weithio gyda’i gilydd ac adeiladu ar y cydweithio sydd wedi dechrau fel rhan o’r prosiect. Rydym yn awyddus i glywed gan gynghorau eraill os ydynt wedi wynebu heriau tebyg ac os oes ganddynt ddiddordeb mewn cydweithio ar ddarnau o waith o’u hamgylch.
Gadael Ymateb