Panel Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol

Panel Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol

Eleni, rydym wedi bod yn cynnal Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol, ac rydym wedi llunio blog am y broses, y ceisiadau yr ydym wedi’u derbyn hyd yma, a’r broses i greu ein rhestr fer.

Dydd Llun, 5 Medi, gwnaethom gynnal y sesiwn Panel ble roedd cydweithwyr o Lywodraeth Cymru, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a Sam ein CDO yn trafod y 5 cais ar y rhestr fer a’u heffaith ar lywodraeth leol.   Roedd yna 6 o geisiadau ar y rhestr fer yn wreiddiol, ond roedd 2 o’r ceisiadau mor debyg, gofynnwyd i’r cyflwynwyr os gallem eu cyfuno mewn un prosiect, a gwnaethant gytuno, felly aethom i lawr i 5.

Roedd y cam Panel yn caniatáu i’r aelodau drafod manylion y prosiectau arfaethedig, beth fyddai ei angen ar gyfer pob un, a sut y byddai hynny’n darparu gwerth i lywodraeth leol, ac yna i gytuno neu anghytuno gyda’r penderfyniad i ddarparu cyllid. Roedd un o’r prif bwyntiau siarad o amgylch sicrhau bod y prosiectau yn cynnwys deilliannau gyda defnydd ehangach ar draws llywodraeth leol i sicrhau mwyafswm gwerth, yn ogystal â sicrhau bod prosiectau yn defnyddio ac yn adeiladu ar waith presennol sy’n digwydd eisoes yn y sector cyhoeddus.  Rydym wedi derbyn rhai cynigion gan Awdurdodau i rannu gwaith maent yn ei wneud eisoes neu wedi’i wneud o amgylch y testunau cyflwyno, felly byddwn yn sicrhau ein bod yn cysylltu’r bobl hynny i gael trafodaethau ble bo’r angen.

Roedd y sesiwn yn amhrisiadwy mewn nifer o ffyrdd:

  • Roedd yn profi ein meddwl ac yn herio ein tybiaethau
  • Roedd yn rhoi dealltwriaeth i ni o waith presennol ar draws y gwahanol destunau a chysylltiadau y gallem eu trosglwyddo i brosiectau
  • Roedd yn rhoi golwg i’r bobl sy’n cymryd rhan ar yr hyn sy’n digwydd ar draws Awdurdodau
  • Roedd yn sicrhau tegwch, cydraddoldeb a sicrhau nad oedd unrhyw duedd o gwbl
  • Roedd yn cadarnhau ein meddwl a’n model comisiynu o ran effaith ar Awdurdodau a dinasyddion.

Fel rhan o’r drafodaeth hon, roedd y Panel yn awgrymu bod ein tîm yn penderfynu ar faint o gyllid yn ystod trafodaethau dilynol gyda’r timau wnaeth gyflwyno’r cynigion.  Rydym yn awyddus i ddeall camau nesaf a dyrannu yn seiliedig ar hyn, yn hytrach na rhoi swm safonol fydd neu na fydd yn ddigon ar gyfer y gwaith sydd ei angen.   Roedd aelod o Lywodraeth Cymru ar y panel, a ble rydym wedi cael cyflwyniadau sydd angen buddsoddi cyfalaf a heb gyrraedd y rhestr fer, rydym wedi trosglwyddo’r cyflwyniadau hyn iddyn nhw ac wedi hysbysu’r bobl hynny wnaeth gyflwyno’r prosiectau hyn i’r Gronfa fel eu bod yn ymwybodol.

A nawr, y canlyniadau! 5 cyflwyniad wedi llwyddo ym mhroses y Panel a’r cyflwyniadau hyn yw:

Sgiliau a Gallu Pen-y-bont ar Ogwr
Sir Gaerfyrddin
Bro Morgannwg
Wrecsam 
 
Tony Curliss
TCurliss@valeofglamorgan.gov.uk
Mae trawsnewid gwasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael ei gyfyngu oherwydd prinder sgiliau ac adnoddau digidol. Mae agweddau sy’n rhwystro cydweithredu a rhannu adnoddau’n arwain at brofiad gwaeth i breswylwyr ac o bosibl costau cynyddol ar gyfer adnoddau wrth i sefydliadau gystadlu am adnoddau ar draws yr economi gyfan. Mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu her sylweddol i recriwtio a chadw staff sydd â’r setiau sgiliau digidol sydd eu hangen i wneud newidiadau allweddol i drawsnewid profiad dinasyddion a darpariaeth a chefnogaeth gwasanaethau cynghorau. Hoffai’r partneriaid edrych ar ddewisiadau ar gyfer ymagwedd gydweithredol, ac ystyried yr holl ddewisiadau sydd ar gael er mwyn gwella’r setiau sgiliau digidol dros holl feysydd Llywodraeth Leol Cymru ac alinio ein hadnoddau mewn ffordd gynaliadwy wedi’i rhannu er mwyn datrys y broblem adnoddau.
Sgiliau a GalluCaerffili
Blaenau Gwent
Sir Gaerfyrddin
Merthyr 
 
Jane Haile
hailej@caerphilly.gov.uk
Yn ystod 2020/2021, fe weithiodd tîm digidol CLlLC gyda chonsortiwm o 4 awdurdod lleol a wnaeth waith ymchwil gyda’i gilydd a chwblhau cam Alpha er mwyn canfod datrysiad dysgu sy’n ddiogel ar gyfer y dyfodol er mwyn cwrdd â gofynion datblygu gweithlu awdurdodau lleol a’u cymunedau yng Nghymru.   Fel grŵp fe aethon nhw ati i herio dewisiadau presennol ac yn benodol y pryder cenedlaethol ynghylch safleoedd e-Ddysgu sydd ddim yn ymgysylltu ac a oedd yn teimlo’n debycach i flwch ticio i reolwyr o safbwynt y defnyddiwr. Un o ganfyddiadau cam Alpha, sy’n rhywbeth i’w ystyried wrth symud i gam Beta y prosiect (cyn bydd y prosiect yn gwbl fyw a gweithredol), yw sut byddwn yn ymgorffori diwylliant o adlewyrchu ac ailadrodd di-dor. Dylai cam Beta y prosiect hwn lunio strwythur caffael a llywodraethu ar gyfer ateb cynaliadwy wedi’i rannu ar gyfer cynghorau Cymru.  Ceir costau gweithredu y gellir eu lleihau drwy ddefnyddio buddion arbedion maint.
Allgau DigidolTorfaen 
Sir Fynwy 
Blaenau Gwent Caerffili  
Casnewydd 
Y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau 

James Vale james.vale@torfaen.gov.uk
Cynhwysiant digidol yw’r broblem: nid oes gan bartneriaid ddealltwriaeth gref na dealltwriaeth yn seiliedig ar dystiolaeth o bwy sydd wedi eu heithrio’n ddigidol a pham (e.e. capasiti (economaidd, isadeiledd, cyfleoedd ayb) a/neu allu (addysg; defnyddio dyfeisiau ayb); pwy sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n ddigidol; ac felly sut gallwn ni weithio’n lleol a thrwy sir Gwent gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus (yn cynnwys o bosibl Heddlu Gwent, Aneurin Bevan ac ar lefel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol)  i dargedu dulliau ymyrryd er mwyn lleihau eithrio digidol, mesur canlyniadau a sicrhau bod anghenion cwsmeriaid sydd wedi eu heithrio’n ddigidol yn cael eu ffactora mewn gweithgareddau dylunio gwasanaethau.  

Rydym wedi ein cyfyngu i edrych ar eithrio digidol o ran y data a gawn gan ein cwsmeriaid presennol, ac ystadegau cenedlaethol sy’n rhoi darlun lefel uchel o eithrio digidol, ond dealltwriaeth gyfyngedig o bwy mae hyn yn effeithio arnyn nhw a’r ffordd orau i ddarparu cefnogaeth effeithiol wedi’i thargedu.
Byw’n AnnibynnolSir Benfro
Dafydd Owen
Dafydd.Owen@pembrokeshire.gov.uk
Sut rydych chi’n ymgysylltu ac annog pobl i ddefnyddio technoleg ataliol bosibl, cyn y bydd arnyn nhw ei hangen? Gall cyflwyno technoleg a dulliau ymyrryd yn gynnar helpu i ymgorffori eu defnydd mewn arferion o ddydd i ddydd, a’u gwneud yn gyfarwydd ym mywyd unigolyn pan fo ganddyn nhw’r capasiti i ddysgu tasgau a sgiliau newydd. Yna gellir adeiladu ar y sgiliau hynny pan fo angen. 
Moderneiddio GwasanaethauBlaenau Gwent
Sir Fynwy
Torfaen
Chyngor Dinas Casnewydd 
 
Shaun Hughes
Shaun.Hughes@blaenau-gwent.gov.uk
Yn ystod gwaith ymchwil gyda defnyddwyr, straeon defnyddwyr, profion defnyddioldeb a deunydd dadansoddi, mae gennym dystiolaeth sylweddol fod dinasyddion a staff yn cael problemau wrth geisio canfod a deall ein cynnwys. Mae hyn yn cynnwys deunydd ar dudalennau gwe, apiau ffonau symudol, peiriannau chwilio, cymwysiadau (h.y. Cynllunio a Rheoli Adeiladu neu Fathodynnau Glas), canllawiau, llythyrau, taflenni, cyfryngau cymdeithasol, anfonebau a biliau – holl gynnwys mewnol ac allanol.

Rydym wedi bod mewn cysylltiad gyda’r cynghorau llwyddiannus ac aflwyddiannus i adael iddynt wybod y canlyniad. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o un o’r prosiectau hyn, os nad ydych yn un o’r cynghorau sy’n cyflwyno neu os ydych ac ond eisiau gwybod pwy yw’r person cywir i siarad â nhw, cysylltwch ag arweinydd y prosiect fel y dangosir yn y tabl i fynegi eich diddordeb.

Ein cam nesaf ar gyfer y Gronfa fydd cynnal cyfarfodydd cyntaf gyda’r 5 grŵp a thrafod y camau nesaf a faint o gyllid a ddarperir.   Mae yna gamau penodol mae’r prosiectau angen eu cymryd, fel dangos a dweud misol, y byddwn yn eu cyflwyno a byddwn yn cynnal cyfarfodydd dal i fyny misol wrth symud ymlaen i gynnig cymorth a chefnogaeth ar gyfer y prosiectau wrth iddynt ddatblygu.   Byddwn hefyd yn hybu unrhyw sesiynau dangos a dweud i’n rhestr bostio fel y gallwch weld beth sy’n digwydd a rhoi adborth.  Os hoffech gofrestru ar gyfer y rhestr bostio, gallwch wneud hynny yma: https://digidolllywodraethleol.cymru/cysylltwch-a-ni-a-thanysgrifio/.

Yn dilyn hyn, byddwn yn cynnal retro ym Mawrth 2023 i gael adborth ar broses eleni ac yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar gynlluniau ar gyfer proses gyllid 2023/24. Rhowch wybod i mi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *