Cronfa Trawsnewid Digidol – Prosiect Byw’n Annibynnol

Cronfa Trawsnewid Digidol – Prosiect Byw’n Annibynnol

Blog wedi’i ysgrifennu gan Dafydd Owen, arweinydd prosiect Awdurdod Lleol Sir Benfro.

Yr wythnos ddiwethaf gwnaethom ein sioe dangos a dweud gyntaf am yr arian o’r Gronfa Trawsnewid Digidol a ddyfarnwyd i ni.

Y diweddariad mawr cyntaf oedd ein bod wedi gallu penodi Paula i swydd a fyddai’n caniatáu inni yrru’r prosiect yn ei flaen. Roedd Paula wedi bod yn gweithio fel cydlynydd yn y tîm larwm cymunedol pan gafodd ei phenodi i gynorthwyo gyda’r Prosiect Byw’n Annibynnol. Ar wahân i’w gwybodaeth a’i phrofiad yn gweithio gyda gwasanaethau teleofal yn Sir Benfro, mae Paula yn flaengar iawn wrth ddefnyddio technoleg bresennol a newydd i helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn hirach, boed gyda dyfais ar ei phen ei hun neu’n gweithio ochr yn ochr ag offer presennol sydd wedi’u gosod. Mae ei chysylltiad uniongyrchol â defnyddwyr gwasanaeth wedi galluogi Paula i gael dealltwriaeth dda o’r anghenion amrywiol sydd gan bobl yn lleol, yn ogystal â’r gofynion clinigol sydd eu hangen i ddarparu mesurau diogelu digonol yn eu cartref, sydd yn ei gwneud yn unigolyn perffaith ar gyfer y prosiect.

Ffocws y Prosiect Byw’n Annibynnol yw ‘Sut gallwn ni ddod â thechnoleg brif ffrwd y mae pobl yn ei defnyddio am resymau gofal cymdeithasol yn ddiweddarach mewn bywyd iddyn nhw heddiw?’, sef senario rydym yn ei hwynebu’n amlach o fewn y tîm larwm cymunedol ac un a’n harweiniodd ni i edrych ar opsiynau gwahanol ac amgen i ddyfeisiadau teleofal traddodiadol. Yn benodol yn Sir Benfro, edrych ar y dyfeisiau ‘cynorthwyol’ hynny y gellir eu haddasu a all fod eisoes yn bodoli yng nghartrefi pobl neu sy’n ddigon prif ffrwd fel bod pobl yn gyfarwydd â sut y maent yn gweithio. 

Arweiniodd atgyfeiriad ar gyfer pâr lleol i’w atgoffa am feddyginiaeth ar gyfer y wraig at y syniad posibl o ddefnyddio technoleg brif ffrwd mewn ffordd gynorthwyol. Roedd hi yn ei hwythdegau hwyr, a’i gŵr yn ei wythdegau cynnar, ac roedd hi’n dioddef o ddementia gydag ychydig iawn o ddealltwriaeth o ddydd nac amser. 

Fe wnaethon ni osod system ‘Alexa’ yn eiddo cwpl, ei sefydlu gan ddefnyddio’r swyddogaeth arferion meddyginiaeth, a newid wyneb y cloc i helpu gyda materion dyddiad ac amser. Roedd siarad â’r teulu ehangach am ddefnyddio’r ‘Alexa’ i’w hatgoffa, yn ogystal â ffynhonnell gwybodaeth a chyswllt estynedig, yn ymddangos yn opsiwn da. 

Fodd bynnag, yn ymarferol nid oedd dealltwriaeth a galluoedd y cleientiaid ar y pwynt hwn yn caniatáu iddynt ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i gael y gorau o’r Alexa nac iddo ddarparu’r gwasanaeth yr oedd ei angen arnynt; roedden nhw’n gwybod beth roedden nhw eisiau iddo ei wneud, ond, yn syml, ni allent gofio dweud “Alexa” yn gyntaf. Trodd yr atgyfeiriad hwn o’r syniad o ddefnyddio technoleg brif ffrwd i’r cwestiwn, ‘Pe baent wedi cyflwyno cynnyrch math Alexa i’w cartref yn gynharach, a ellid bod wedi defnyddio’r ddyfais honno i ddiwallu’r anghenion sydd ganddynt yn awr fel unigolyn hŷn?’

Mae’r cais llwyddiannus i’r Gronfa Trawsnewid Digidol wedi ein galluogi i weithio ar y cwestiwn gan ddefnyddio dau ddull – y cyntaf yw creu canllaw cynnyrch ar-lein y bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn gallu ei ddefnyddio. Bydd hyn yn cynnwys adran ar y mathau traddodiadol o deleofal a gynigir ar hyn o bryd drwy’r system larwm cymunedol, yn ogystal ag adran ar wahân ar ddyfeisiadau technoleg gynorthwyol prif ffrwd. Yn ogystal, mae astudiaethau achos o sut mae gweithwyr eraill wedi defnyddio gwahanol fathau o offer traddodiadol a ‘newydd’ ar gyfer cleientiaid lleol wedi’u cynnwys i ddarparu senarios ‘bywyd go iawn’.

Ein cam nesaf yn y dull hwn yw gweithio ar sicrhau bod y canllaw cynnyrch wedi’i gwblhau orau ag y gallwn erbyn diwedd y prosiect ac rydym wedi cynnwys rhai o’n gweithwyr cymdeithasol wrth helpu i wirio’r canllaw. 

Mae’r ail ddull yn ymwneud ag ymgysylltu â thrigolion a chlinigwyr yn y sir. Rydym yn ceisio cyfarfod â phreswylwyr o bob grŵp oedran a chynrychiolwyr sefydliadau gofal cymdeithasol, iechyd a thrydydd parti i drafod eu hymwybyddiaeth o deleofal a thechnoleg gynorthwyol a sut y gellir eu defnyddio i greu’r gwasanaethau gorau. Mae hyn wedi cynnwys mynychu amrywiol grwpiau pobl hŷn a chael slotiau siaradwyr gwadd yn y coleg lleol ac mewn grwpiau pobl iau, yn ogystal â chyfarfodydd tîm clinigwyr a thrydydd partïon rheolaidd gyda’r cyngor lleol ac adrannau/sefydliadau iechyd a chymdeithasol. Ar hyn o bryd, rydym yn parhau i chwilio am fwy o bobl/grwpiau i ymgysylltu â nhw ac i ddysgu oddi wrthynt.

Yn olaf, rydym hefyd yn prynu amrywiaeth o ddyfeisiau technoleg gynorthwyol newydd y gall cleientiaid priodol eu defnyddio a’u gwerthuso ar ein rhan. Bydd y rhain yn ffurfio’r catalog o gynhyrchion y gallwn roi cyngor arnynt a dangos eu potensial.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *