Cronfa Trawsnewid Ddigidol Llywodraeth Leol
Blwyddyn ariannol 2022/23
Mae tîm digidol CLlLC yn rheoli cronfa Llywodraeth Cymru o £1 miliwn fel cynllun peilot ar gyfer 2022/23.
Crëwyd y gronfa yn 2018 i wella ac adnabod cyfleoedd i wella trawsnewid digidol llywodraeth leol yng Nghymru. Cafodd y gronfa ei rheoli’n flaenorol gan y Tîm Trawsnewid Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi bod yn siarad â swyddogion ac arweinwyr ledled y llywodraeth leol i gael adborth ar sut y mae’r gronfa wedi bod yn gweithio tan yn awr, ac o hyn rydym wedi llunio dull newydd i dreialu eleni.
Sut i wneud cais
I wneud cais, anfonwch ddatganiad o’r broblem drwy e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk erbyn 15 Awst 2022.
Dylai eich datganiad problem fod yn ychydig o baragraffau ac yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
- Trosolwg cyffredinol o’r broblem,
- Unrhyw dystiolaeth yn dangos y broblem,
- Syniad o’r gynulleidfa a phwy sydd â’r broblem,
- Sut mae’r broblem yn ffitio gyda Strategaeth Ddigidol i Gymru.
Ni ddylai eich datganiad fod yn ddatrysiad, dylai egluro’r broblem rydych yn ei wynebu. Isod fe geir datganiad ynghylch problem o’r llawlyfr gwasanaeth GDS:
Er Enghraifft, nid yw problem yn: “Rydym angen llunio map rhyngweithiol i ddangos i bobl ble mae ein Canolfannau Cyswllt”. Dylai fod yn rhywbeth tebyg i: “Sut gallwn ei wneud yn haws i bobl ddod o hyd i’r canolfan gyswllt agosaf os ydynt angen trefnu apwyntiad personol?”
Disgwylir i’ch cyflwyniad ddangos lle mae’r broblem yn alinio gyda Strategaeth Ddigidol i Gymru. Dylech gyfeirio at gyflwyniad i’r genhadaeth neu genadaethau trosfwaol sydd yn alinio orau gyda’r broblem a chyfeirir ati.
- Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol – Darparu a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod yn cael eu dylunio ar sail anghenion y defnyddiwr ac yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.
- Cenhadaeth 2: cynhwysiad digidol – Rhoi’r cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a’r hyder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion.
- Cenhadaeth 3: sgiliau digidol – Creu gweithlu sydd â’r sgiliau, y gallu a’r hyder digidol i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.
- Cenhadaeth 4: economi digidol – Gyrru ffyniant economaidd a gwytnwch drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.
- Cenhadaeth 5: cysylltedd digidol – Seilwaith cyflym a dibynadwy i gynnal gwasanaethau
- Cenhadaeth 6: data a chydweithio – Bydd gwasanaethau’n well yn sgil cydweithio, gyda data a gwybodaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu.
Y broses
Byddwn yn dosbarthu’r holl gyflwyniadau i gael sylwadau yn dilyn y dyddiad cau i’r cyflwyniadau.
Rydym yn gwahodd adborth a sylwadau gan unrhyw gynghorau eraill sydd wedi gwneud gwaith mewn perthynas ag unrhyw un o’r problemau a gyflwynwyd, neu os oes cynghorau a fyddai’n hoffi bod yn rhan mewn unrhyw brosiectau posibl o’r problemau a gyflwynwyd.
Bydd y gweithgaredd ymgysylltu hwn yn dod i ben ar 29 Awst 2022, a bydd y gwaith comisiynu yn digwydd ar 30 Awst 2022. Yn ystod y broses comisiynu, bydd panel yn adolygu pob cyflwyniadau ac yn dyrannu cyllid ar sail y meini prawf canlynol:
- Alinio â’r Strategaeth Ddigidol i Gymru
- Effaith awdurdod lleol
- Effaith ar ddefnyddwyr/ cwsmeriaid (preswylwyr, busnesau neu dwristiaid yng Nghymru)
- Ymdrech a buddsoddiad sydd yn ofynnol
Ar ôl dyrannu’r cyllid, byddwn yn gweithio gyda chi ar sesiynau dechrau prosiectau i’w cynnal. Yna, yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r timau prosiect, yn cynnal cyfarfodydd dal i fyny a chefnogi digwyddiadau dangos a dweud i ddangos y gwaith sy’n cael ei gyflawni a rhannu’r arferion orau a’r gwersi a ddysgwyd. Hefyd, byddwn yn gweithio i gefnogi datblygiad sgiliau a chynnig unrhyw hyfforddiant neu fentora sydd ei angen.
Ym mis Chwefror 2023, bydd pob prosiect yn cyhoeddi diweddariad ac unrhyw ganlyniadau o ganlyniad i’r canfyddiadau.
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, byddwn ni (tîm Digidol CLlLC) yn cynnal ôl-weithred cyhoeddus i fwydo’n ôl ar y treial eleni. Bydd yr adborth ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a beth ellir ei wella yn cael ei ddefnyddio i siapio argymhellion i weinidogion a Llywodraeth Cymru, gan hysbysu ar gyfleoedd cyllid yn y dyfodol.
Cwestiynau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, neu hoffech unrhyw gymorth wrth gyflwyno eich datganiad/ datganiadau problem, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk
2 COMMENTS