Ceisiadau i Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol

Ceisiadau i Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol

Fel y gwelsoch chi yn ein blog blaenorol o bosibl, rydym nawr yn cynnal Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol. Cafodd y gronfa ei chreu yn 2018 i ganfod a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddatblygu’r gwaith i drawsnewid llywodraeth leol yn ddigidol yng Nghymru. Yn y gorffennol, roedd y gronfa’n cael ei rheoli gan dîm Trawsnewid Llywodraeth Leol o fewn Llywodraeth Cymru.

Roedd y cyfnod derbyn ceisiadau ar agor rhwng 18 Gorffennaf a 15 Awst, ac rydym wedi derbyn 18 cais ar gyfer y Gronfa. Gwnaethom addo y buasem yn cyhoeddi’r ceisiadau er mwyn gwella cydweithredu ac i fod mor dryloyw â phosibl, a gallwch ddarllen fersiynau cryno (er mwyn bod yn fyr) o’r ceisiadau yma.

Beth nesaf?

Gan ein bod nawr wedi gweld a chyhoeddi’r ceisiadau, rydym eisiau annog ein partneriaid (er enghraifft y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Llywodraeth Cymru) a chynghorau i ofyn cwestiynau neu ymateb i’r ceisiadau. Hoffem weld ym mhle mae Awdurdodau neu dimau eisoes wedi gwneud gwaith yn ymwneud â’r problemau hyn yn benodol. Hoffem hefyd gael syniad o faint o gynghorau yng Nghymru sy’n wynebu’r un problemau neu broblemau tebyg ar hyn o bryd, a mynegi diddordeb yn y problemau penodol.

Beth alla’ i wneud?

Os hoffech chi wneud sylw a thrafod datganiadau’r problemau, neu ychwanegu datganiad o ddiddordeb eich cyngor chi yn un o’r prosiectau, rhowch sylw ar y blog neu anfonwch e-bost atom ar timdigidol@wlga.gov.uk.

Mae gennych tan 29 Awst i wneud hyn, a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon yng ngham y panel comisiynu ar 5 Medi. Yn y panel comisiynu, byddwn yn cwrdd â’r rhai sydd wedi cyflwyno ceisiadau, er mwyn sicrhau eglurder am bwyntiau a wnaed yn ystod y cyfnod cyflwyno ceisiadau a chael rhagor o gyd-destun a hanesion am y broblem sydd angen ei datrys. Ar ôl hyn, byddwn yn penderfynu pa geisiadau fydd yn derbyn cyllid a byddwn yn rhannu gwybodaeth am hyn o 7 Medi ymlaen.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *