Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 7

Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 7

Croeso i newyddion diweddaraf Sbrint 7 – y sbrint olaf ond un ar gyfer y prosiect. Mae’r sbrint hwn yn ôl Tom isod yn un ar ymchwil defnyddwyr, arolwg o brofiad defnyddwyr ac yn hwb sylweddol i waith Gwasanaethau Democrataidd. Dyma ni’n trafod y cyfan yn ein digwyddiad dangos a dweud. Os nad oeddech yn gallu mynychu’r sesiwn hwn gallwch ddal i fyny yma i weld be gafodd ei drafod.

Grŵp Llywio

Dyma ni’n cwrdd â’r Grŵp Llywio’r wythnos hon ar ôl i’r sesiwn ddiwethaf gael ei ganslo oherwydd presenoldeb isel yn ystod hanner tymor. Dyma ni’n diweddaru’r grŵp ar ein cynnydd dros y pedair wythnos ddiwethaf a dyma ni’n trafod yr adroddiad yr ydym yn ei ysgrifennu ar hyn o bryd. Mae’r adroddiad ar hyn o bryd yn 19 tudalen a gyda 9 atodiad felly mae’n o’n glamp o ddarn o waith! Mae’r adroddiad yn cael ei gwblhau ar 26 Tachwedd ac yna byddwn yn cyfathrebu’r canlyniadau i berchnogion platfformau. Byddwn yn gohirio’r Grŵp Llywio nesaf tan 02/12/21 er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym ddigon o amser i gael y trafodaethau sydd eu hangen cyn y gallwn drafod y canlyniad gyda phawb arall.

Yn bwysicach na dim rydym eisiau cynnwys yn glir y lefel o ddiddordeb ar draws yr ALl yn yr adroddiad yr ydym yn gwybod a fyddai’n ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru. Nid rhwymedigaeth neu ymrwymiad ariannol yw hyn o gwbl, dim ond rhoi gwybod ein bod yn deall y diddordeb yn y gwaith ac yn sicrhau fod unrhyw un â diddordeb yn cael ei gynnwys mewn unrhyw waith yn y dyfodol. Mae cynrychiolwyr y Grŵp Llywio yn gadael i ni wybod am hyn yn yr wythnos i ddod.

Cynnwys y Gwasanaethau Democrataidd

Yn y sbrint hwn rydym wedi cyflawni’r broses gymeradwyo a gyda rhestr o ba Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd sy’n cymeradwyo pa fodiwlau. Diolch yn fawr iawn o flaen llaw i’r bobl hynny am wneud hyn! Rŵan mae gennym:

  • 7 o gyrsiau yn barod i’w cymeradwyo
  • 6 gyda diwygiadau wedi’u gwneud iddyn nhw
  • 1 yn barod i’w brofi
  • 2 yn barod ar gyfer eu gweithdai gydag arbenigwyr ar y pwnc
  • 2 reit ar ddechrau’r broses.

Mae fy nghytundeb i’n dod i ben ar 26 Tachwedd felly mae’r sbrint hwn wedi bod yn hanfodol er mwyn cael cynnwys yn ei le ar gyfer y sbrint terfynol ar ddiwedd Tachwedd. Er na fydd y gwaith wedi’i gwblhau cyn diwedd fy nghytundeb mi fyddai’n gwthio i gael cymaint â phosib wedi’i gwblhau. Mae yna ambell i gyfarfod a thrafodaethau i fynd i gael y darnau olaf i mewn i’r 6 chwrs cyn eu cymeradwyo. Dwi’n edrych ymlaen yn arw am sbrint 8!

Profiad Defnyddwyr (UX)

Yn Sbrint 7 dyma ni’n gorffen yr adolygiad UX/hygyrchedd o Dysgu@Cymru a’r Pwll Dysgu a phrofwyd dau o’r platfformau hyn ar ddyfais symudol gan ddefnyddio Google Chrome fel ein porwr profi. Dyma ni’n amlygu sawl pwynt poenus a phroblemau datblygu ar y ddau blatfform ynghyd â chymeradwyo atebion ac arferion gorau datblygu /.GOV a UX. Rydym bellach wedi cwblhau’r adolygiad ar gyfer yr holl blatfformau ar y bwrdd gwaith ac ar y ffôn symudol ac mi fyddwn ni rŵan yn dogfennu’r darganfyddiadau ac argymhellion yn Sbrint 8.

Gwaith UR

Roedd sbrint 7 yn amser prysur ar gyfer ymchwil defnyddwyr! Dyma’r sbrint lle cynhaliwyd y platfform profi ar gyfer y 3 platfform. Profwyd y platfformau gyda 2 wirfoddolwr o bob un o’r 4 rôl defnyddiwr gwahanol (dysgwyr, rheolwyr, gweinyddwyr platfform a datblygwyr/hyrwyddwyr cynnwys). Dyma Sabah, fy nghydweithiwr ymchwil defnyddwyr a minnau yn hwyluso 24 o sesiynau profi platfform ar wahân! Dyma nhw’n mynd yn dda gan roi golwg fanwl i ni ar bethau, ac mi fyddwn ni rŵan yn bwydo’r rhain i’r adroddiad a fydd yn cael ei ysgrifennu yn ystod Sbrint 8.

Hefyd, yn Sbrint 7 gorffennais gynnal cyfweliadau gyda defnyddwyr presennol o’r 3 platfformau hyn, a dyma ni hefyd yn profi 4 arall o’r cyrsiau gwasanaethau democrataidd, gan olygu mai dim ond 4 cwrs sydd ar ôl i brofi cynnwys, ac erbyn diwedd Sbrint 8 dylai’r rhain i gyd fod wedi’u cwblhau.

Y camau nesaf

Dyma’r camau nesaf terfynol a fydd yn cynnwys cwblhau’r prosiect! Mae gennym hyd at 26 Tachwedd i weithio ar yr adroddiad a’r atodiadau. Yna byddwn yn trafod canlyniadau gyda pherchnogion y platfformau a gyda’r Gronfa Trawsnewid Ddigidol, a’r Grŵp Llywio wedi hynny ar 2 Rhagfyr ac yna wrth fynychwyr digwyddiad dangos a dweud ar 9 Rhagfyr. Os hoffech wahoddiad i’r sesiwn Llywio Grŵp anfonwch neges at anfonwch e-bost ataf ac mi wnaf yn siŵr eich bod wedi derbyn gwahoddiad.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *