Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 6

Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 6

Mae sbrint 6 wedi ei orffen! Rydym nawr ar dipyn o groesffordd yn y prosiect. Fel tîm, rydym wedi paratoi a chynllunio’r holl waith ac rydym nawr yn brysur yn cwblhau’r gwaith yn ystod dau sbrint olaf y prosiect tan ddiwedd mis Tachwedd. Bydd yr holl waith cynllunio a pharatoi rydym wedi ei wneud yn y sbrint hwn yn ein galluogi i garlamu drwy’r wythnosau nesaf yn gyflym a chyflawni rhannau olaf y gwaith. Iawn, felly beth wnaethom ni yn y sbrint hwn er mwyn cyrraedd y fan hon?

Grŵp Llywio

Bu’n rhaid i ni ganslo’r cyfarfod y pythefnos hwn oherwydd hanner tymor ac ni allai llawer o bobl ddod i’r cyfarfod. Yn lle hynny, fe wnaethom anfon y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd a bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 11 Tachwedd. Yn y sesiwn nesaf hwn byddwn yn gofyn i gynghorau fynegi diddordeb (neu beidio!) yn unrhyw waith cyfnod beta posibl.

Un o’r pethau y gwnaethom ei gynnwys yn y wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Llywio, yn ogystal â’i drafod yn y sesiwn Dangos a Dweud, oedd ein penderfyniad ynghylch unrhyw blatfformau eraill y dylid eu cyflwyno i’r prosiect.

Fe wnaethom edrych ar sawl platfform yn cynnwys Totara, Cornerstone, Thrive a Docebo, ond nid oedden nhw’n cefnogi ein gofynion sylfaenol, yn cynnwys darpariaeth y Gymraeg. Oherwydd hyn, fel tîm prosiect rydym wedi penderfynu canolbwyntio ein gwaith ar y 3 platfform rydym ni’n gwybod sy’n cefnogi’r meini prawf hanfodol (Thinqi, Learning@Wales a Learning Pool).

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio er mwyn sicrhau bod ein pwysoliadau matrics gwerthuso’n derfynol er mwyn cyflwyno ein hargymhelliad terfynol. Roeddem wedi gofyn am adborth ac awgrymiadau gan y grŵp ar gyfer newidiadau i’n pwysoliadau gwreiddiol. Yna fe wnes i, Jane a Gwyn gyfarfod i weithio drwy’r hyn roeddem yn ei feddwl, yr adborth a’n tybiaethau er mwyn sicrhau bod gennym y pwysoliadau cywir ger y rhannau cywir. Fe wnaethom brofi a herio barn ein gilydd yn fanwl yn ystod y sesiwn hwn ac rydym wedi llunio pwysoliadau sy’n adlewyrchu canlyniadau’r prosiect yn gywir.

Cynnwys y Gwasanaethau Democrataidd

Mae cynnwys 11 cwrs allan o 20 nawr wedi eu dylunio a’u profi. Roedd y 4 yn y sbrint diwethaf yn cynnwys:

  • Craffu
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Amser, Gwaith a Lles
  • Bwlio ac Aflonyddu

Roedd angen cyfieithu ar y pryd ar gyfer y gweithdy ar Safonau’r Gymraeg ar 4 Tachwedd felly gan mai dyma’r tro cyntaf i ni wneud hyn fel tîm, rydym wedi edrych ar y dewisiadau ar gyfer Zoom i wneud yn siŵr fod popeth yn mynd yn esmwyth yn y dyfodol. Cynhaliwyd y gweithdy ar gyfer y modiwl Llywodraethu ac Archwilio yn y sbrint hwn ac mae’r gwaith profi wedi’i drefnu ar gyfer Sbrint 7, ynghyd â’r modiwl Trais yn erbyn Merched, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’r gweithdai am Gyllid Llywodraeth Leol a’r modiwl Moeseg a Safonau wedi eu trefnu ar gyfer Sbrint 7.

Rydym hefyd yn gorffen proses i gymeradwyo’r modiwlau ac rydym wedi penderfynu peidio â chynnal trefn brofi derfynol. Mae hynny oherwydd yr holl wirfoddolwyr gwych sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn a chymryd rhan yn y gweithdai gan fod ymateb da wedi bod i’r modiwlau ac nid oedd angen gwneud llawer o waith addasu arnyn nhw.

Yn y gwaith profi yn y Sbrint hwn, dywedodd un cynghorydd am y cwrs amser, gwaith a lles “Buaswn wedi hoffi cael cwrs fel hwn pan ddes i’n gynghorydd yn wreiddiol. Mae’n gryno ac mae’n rhoi lefel dda o wybodaeth.”

Profiad Defnyddwyr (UX)

Yn y sbrint hwn fe wnaethom adolygu platfform Thinqi a phrofi teithiau defnyddwyr ar gyfer Dysgwyr, Rheolwyr, Hyfforddwyr a Defnyddwyr Gweinyddol ar ddyfeisiau symudol a bwrdd gwaith. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth Hygyrchedd a Defnyddioldeb (safonau WCAG 2.1 AA), ynghyd ag argymell arferion gorau .GOV UX ac UI.

Gwaith UR

Yn ogystal â pharhau i brofi 4 cwrs y gwasanaethau democrataidd yn ystod y sbrint hwn, fe ddechreuais i gyfweld defnyddwyr presennol y 3 phlatfform sy’n cael eu hystyried, i glywed am eu profiadau a’u barn am y platfformau dysgu.

Mae’r gwaith i brofi defnyddioldeb y platfform nawr yn mynd rhagddo o ddifrif hefyd, gyda gwaith cynllunio a threfnu’n digwydd yn ystod Sbrint 6 a’r sesiynau profi eu hunain yn digwydd yn Sbrint 7. Fe wnaethom ni hefyd groesawu ymchwilydd defnyddwyr llawrydd, Sabah Zdanowska, i ymuno â’r tîm er mwyn helpu gyda rhai o’r profion ar ddefnyddioldeb y platfform ac i helpu gyda’r gwaith ysgrifennu adroddiadau er mwyn sicrhau bod y gwaith ymchwil defnyddwyr wedi ei orffen erbyn diwedd Tachwedd.

Felly dyna ni hanes Sbrint 6. Yn ein sbrint nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar gwblhau’r profion defnyddwyr ar gyfer y gwahanol blatfformau gyda gwirfoddolwyr o bob cyngor. Byddwn hefyd yn cwblhau’r gwaith ar brofiad defnyddwyr, a mwy o gynnwys y Gwasanaethau Democrataidd. Rydym hefyd yn dechrau ysgrifennu’r adroddiad terfynol i’w gyflwyno ddiwedd mis Tachwedd a byddwn yn cael y costau a’r wybodaeth gefnogol ar gyfer pob platfform yn barod ar gyfer y matrics gwerthuso. Fe welwn ni chi yn Sbrint 7!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *