Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 4

Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 4

Rydym wedi gorffen Sprint 4! Mae’r tîm wedi disgrifio’r un yma fel “sbrint dau hanner” sy’n ei grynhoi yn dda iawn, gan fod tri ohonom wedi bod i ffwrdd am wythnos ar yr un pryd. Rydym wedi dychwelyd ac ail-yngynnull, ac mae gweddill y tîm wedi bwrw ymlaen a pharhau i gyflenwi yn ystod yr amser hwnnw – go dda chi dîm! Dyma grynodeb o’r sbrint diwethaf.

Grŵp Llywio

Cawsom ein trydydd cyfarfod Grŵp Llywio ac fe wnaethom gyflwyniad byr am y gwaith yr ydym wedi’i gwblhau yn y sbrint yma, yn ogystal â gofyn am fwy o wybodaeth am y pynciau y gwnaethom gais amdanynt yn y sesiwn ddiwethaf. Mae’r adborth hwn am y matrics gwerthuso, gwybodaeth archwilio cynnwys, manylion cyswllt profwyr defnyddwyr ac enwau’r arbenigwyr pwnc GDPR yn help mawr i wneud ein camau nesaf yn haws yn y prosiect o ran y cynnwys a’r platfform. Trafodom hefyd y posibilrwydd o edrych ar blatfformau eraill i sicrhau ein bod wedi cael cyfle i weld y archwilio’r rhai gorau ar y farchnad. Gwyddom y bydd hyn yn effeithio ar yr amserlen, a byddwn yn gwneud rhywfaint o waith ar hyn wrth fynd ymlaen er mwyn cynllunio sut y caiff yr amserlen ei heffeithio.

Learning Pool

Cawsom arddangosiad gan Learning Pool ac roedd yn wych cael ein tywys trwy’r platfform a chael gwybod beth y gall y system ei wneud gan yr arbenigwr. Rydym yn y broses o gasglu adborth gan grŵp yr arddangosiad a marcio ein dogfen ofynion i weld faint o’r anghenion a ddiwallwyd. Rydym yn mynd i edrych ar ddechrau profion defnyddwyr ar gyfer y safle hwn yn y sbrint nesaf, yn ogystal â mike yn codi’r archwiliad UX ar gyfer hyn.

Cynnwys y Gwasanaethau Democrataidd

Mae Rachel wrthi’n cadarnhau’r cynnwys terfynol ac mae wedi trefnu gweithdai ar gyfer y cyrsiau Cynllunio a Safonau’r Iaith Gymraeg. Mae hi hefyd wedi bod yn cynllunio a chadarnhau’r gweithdai ar gyfer y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a chyrsiau Siarad â’r Cyhoedd a’r Cyfryngau hefyd. Yn ystod Sbrint 4 rhoddodd gyflwyniad i dros 30 o bobl am negeseuon allweddol ac amcanion dysgu yng nghyfarfod Awdurdod Cynllunio Cymru. Rhoddodd y timau cynllunio eu hadborth ac mae eu syniadau wedi cael eu bwydo i mewn i gamau nesaf y gwaith.

Un o’r cwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod oedd a oes modd cael modiwl sy’n gweithio i bob un o’r 22 awdurdod lleol. Roedd hwn yn gwestiwn da iawn a’r ateb yw ‘oes’. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u hanelu at gynghorwyr o bob cyngor a hyd yma mae creu cynnwys a chanfyddiadau profion wedi dangos bod modd gwneud hynny.

Hyd yma mae 5 cwrs wedi’u profi (diolch o galon i Tom!) a dyma ddywed ein cynulleidfa o gynghorwyr:

  • mae’r cynnwys a’r drefn yn briodol
  • rydym yn hoffi’r senarios a’r enghreifftiau y gallwn uniaethu â nhw
  • mae lefel anhawster y cwestiynau yn gywir

Cynnwys Corfforaethol

Yn ystod y sbrint hwn fe ffarweliom â’n dylunydd cynnwys corfforaethol. Rydym bellach yn gweithio gyda’n hasiantaeth i ddod o hyd i ddylunydd arall er mwyn sicrhau nad yw amserlen y gwaith hwn yn llithro gormod. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i hyn yn y sbrint nesaf er mwyn sicrhau ein bod yn cael rhywun mewn lle yn barod i gychwyn arni. Yn unol â’r dull ystwyth, rydym yn dal i weithio ar y llyfr chwarae cynnwys ac yn archwilio’r gwaith hwn yn y cefndir nes i ni ddod o hyd i aelod newydd i’r tîm.

Gwaith UX

Ar ôl cael arddangosiadau gan Thinqi a Learning Pool, rydym bellach wedi dechrau adolygu’r safleoedd arddangosiadol hyn ar gyfer Hygyrchedd, dylunio UX/UI, lefel AA WCAG ac argymhellion .LLYW ac arferion gorau. Rydym wedi dod o hyd i anghysonderau mewn cydrannau UI, botymau, dolenni cyswllt, cyflyrau gweithredol, delweddau, bylchu, ffontiau, patrymau a chyferbynnedd lliw. Byddai hynny’n awgrymu bod angen rhoi system ddylunio mewn lle i fynd i’r afael â’r materion hynny. Byddwn hefyd yn parhau i adolygu unwaith y bydd y ‘blwch tywod’ mewn lle ar gyfer Thinqi a Learning Pool.

Mae Learning@Wales wedi gofyn i ni adolygu Academi Cymru Gyfan ar gyfer Llywodraeth Leol hefyd ar gyfer ei archwiliad UX a diweddaru eu cynnwys a chopi adolygu yn yr archwiliad. Byddwn yn edrych ar hyn yn ystod y sbrint hwn.

Gwaith UR

Mae’r profion defnyddwyr ar gyfer cynnwys cyrsiau’r gwasanaethau democrataidd yn dal i fynd rhagddo. Mae 5 o’r cyrsiau hyn wedi cael profion defnyddwyr bellach ac rydym wedi cael adborth a syniadau defnyddiol iawn o bob sesiwn brofi.

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r darparwyr platfform i greu ardaloedd profi neu ‘flychau tywod’, fel y gallwn ddechrau trefnu rhai profion defnyddwyr ar gyfer pob platfform. A chyn gynted ag y byddwn wedi cael dylunydd cynnwys newydd ar gyfer y gwaith cynnwys corfforaethol byddwn yn dechrau trefnu sesiynau profion defnyddwyr ar gyfer y cyrsiau corfforaethol.

Yn Sbrint 5 byddwn yn canolbwyntio ar ganfod a oes platfformau eraill y dylem eu hystyried, beth mae hyn yn ei olygu o ran profi a gwaith UX, yn ogystal â dod o hyd i ddylunydd cynnwys newydd. Byddwn yn parhau a’r gwaith cynnwys i’r Gwasanaethau Democrataidd a byddwn at ein pengliniau mewn gwaith profi ar gyfer y platfform Thinqi a chynllunio profion ar gyfer Learning Pool. Byddwn yn dechrau trwy gynllunio’r Sbrint ddydd Llun ac yna yn cychwyn arni!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *