Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 3

Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 3

Pythefnos arall a sbrint arall wedi mynd heibio! Mae’r tîm newydd gwblhau’r trydydd sbrint, a dyma beth ddigwyddodd dros y bythefnos ddiwethaf.

Grŵp Llywio

Rydym wedi cael ail gyfarfod Grŵp Llywio’r prosiect ac roedd yn wych i weld cynifer o bobl o’r sesiwn ddiwethaf ar Teams. Fe ofynnom i’r cynrychiolwyr o bob rhan o’r Awdurdodau Lleol i’n helpu gyda’n matrics gwerthuso ar gyfer y prosiect, sydd wedi ei ddylunio i sicrhau ein bod yn rhoi’r pwysoliad cywir i ganlyniadau’r darnau gwahanol o waith rydym yn ei wneud i ddewis platfform.

Fe fuom yn cyfarfod fel tîm gan benderfynu ar y gwahanol ganlyniadau rydym yn mynd i’w derbyn a sut byddai’r rhain yn ymddangos e.e. yn ansoddol neu’n feintiol, marciau allan o 5 neu raddfeydd COG. Yna fe aethom ati i drafod ein pwysoliadau a gafodd eu lledaenu yn gyfartal yn y diwedd ar draws y gwahanol feini prawf. Rydym wedi dangos hyn i’r grŵp ac wedi gofyn am eu hadborth i allu ffactoreiddio hynny yn ein hail rownd o wneud penderfyniadau yn y sbrint nesaf.

Rydym hefyd wedi gofyn i’r bwrdd ein helpu gydag arbenigwyr pwnc, a’u cynnwys cyfredol yn ymwneud â’r tri chwrs yr ydym wedi penderfynu gweithio arnynt ar gyfer y cynnwys corfforaethol, i weld a yw’n bosibl i greu cyrsiau sy’n gweithio ar gyfer yr holl Awdurdodau Lleol. Ond mwy am hynny yn ddiweddarach…

Learning Pool

Rydym wedi cael ein harddangosiadau gan Thinqi a L@W ac rydym nawr yn y broses o sefydlu arddangosiad gyda’r Gronfa Ddysgu. Mae hwn wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos olaf ym Medi ac rydym yn gyffrous i weld cynnyrch arall a sut y bydd yn cyd-fynd â’r gofynion. Rydym hefyd yn meddwl am ddatrysiadau posibl eraill a allai gael eu cynnwys yn y gwaith ac mae’r Grŵp Llywio wedi rhoi rhai enghreifftiau i ni i edrych arnynt.

Cynnwys y Gwasanaethau Democrataidd

Mae yna 20 o gyrsiau ar gyfer cynghorwyr ac mae’r holl gyrsiau yn mynd trwy’r broses ddylunio cynnwys. Mae Rachel wedi cynnig ymddangosiad a theimlad cyson ar gyfer pob cwrs fel y bydd y strwythur yn gyfarwydd wrth i’r dysgwr weithio’i ffordd drwy’r 20 cwrs tra ar yr un pryd eu gwneud yn rhyngweithiol. Mae’n defnyddio goslef ddynol a sgyrsiol ar gyfer unrhyw gynnwys testun a senarios sy’n berthnasol i gynghorwyr, wedi eu seilio ar sefyllfaoedd go iawn a allai ddigwydd. Yn y Sbrint hwn:

  • Cafodd y cwrs Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’r cwrs Arweinyddiaeth Gymunedol eu profi
  • Fe gynhaliwyd yr ymgysylltu a’r gweithdai gydag arbenigwyr pwnc ar gyfer Sgiliau Cadeirio gyda’r Cyfryngau Cymdeithasol, Cyflwyniad i Gynllunio a Chynllunio ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor wedi eu hamserlennu fel y gall sesiynau profi ddilyn wedyn yn Sbrint 4.

Mae’r adborth ar y cyrsiau yr ydym wedi eu profi gyda chynghorwyr wedi bod yn dda cyn belled, felly rydym yn gwybod ein bod ar y trywydd iawn, ac rydym yn gwybod pa addasiadau sydd angen eu gwneud cyn y gall unrhyw brofi pellach ddigwydd. Rydym yn rhoi popeth rydym yn ei ddysgu ar waith yn y sesiynau profi hyn ar gyfer cyrsiau newydd rydym yn eu creu hefyd.

Gwaith ar Gynnwys Corfforaethol

Fe helpodd y Grŵp Llywio ni i benderfynu ar y tri chwrs corfforaethol i weithio arnynt, i weld a allwn gyfuno cynnwys o’r cyrsiau presennol i wneud un a fyddai’n gweithio ar draws yr Awdurdodau Lleol. Mae Suchet ar hyn o bryd yn gweithio ar draws y rhain, a’r rhain yw: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a’r Iaith Gymraeg. Mae drafftiau bras o’r rhain yn cael eu creu ar y cam hwn a bydd y rhain yn cael eu golygu a’u hailadrodd yn dibynnu ar adborth ac awgrymiadau gan yr arbenigwr pwnc ar gyfer pob pwnc. 

Mae Suchet hefyd yn gweithio ar ddulliau i ddylunwyr cynnwys y cwrs, gyda mewnbwn gan Rachel. Fe fydd hyn yn helpu’r dylunwyr presennol a dylunwyr y dyfodol sy’n gweithio ar greu cyrsiau. Rydym wedi penderfynu fod angen i hwn gael ei greu mewn HTML i sicrhau ei fod yn gwbl hygyrch – gan sicrhau ein bod yn gweithredu’r hyn rydym yn ei ddweud yn nhermau hygyrchedd!

Rydym hefyd wedi gofyn i’r Grŵp Llywio a yw’r 10 prif gwrs yr ydym wedi eu nodi gyda nhw yn cael eu darparu ar-lein, wyneb yn wyneb, ar ba blatfform y maent a lle y gallwn gael gafael ar unrhyw gynnwys presennol. Yn hytrach na gorfod cael cynnwys archwilio enfawr a fyddai’n cymryd gormod o amser y cynrychiolwyr, mae’r sampl hwn o bob ALl yn ein galluogi ni i weld microcosm o’r tirlun llawn o ran cynnwys dysgu a datblygu ar draws yr awdurdodau lleol.

Gwaith UX

Rydym nawr wedi creu templed archwilio Profiad Defnyddiwr/Rhyngwyneb defnyddiwr ac wedi dechrau dogfennu argymhellion WCAG lefel AA a .GOV ac arferion da ar gyfer y platfform dysgu Learning@Wales.

Hefyd rydym wedi cael arddangosiad o’r platfform Thinqi y sbrint hwn ac rydym yn y broses o gael blwch tywod wedi ei sefydlu er mwyn i ni brofi ein cynnwys arno. Fe fyddwn nawr yn dechrau’r archwiliad Profiad Defnyddiwr ar y platfform Thinqi yr wythnos hon.

Gwaith UR

Mae’r gwaith o ran ymchwil defnyddiwr nawr wedi dechrau o ddifrif, gan ddechrau gyda phrofi cynnwys cwrs y gwasanaethau democrataidd i ddefnyddwyr. Ar ôl ychydig o addasu rydym nawr wedi dod o hyd i system ar gyfer profi sydd i weld yn gweithio’n dda ac sy’n dod â dealltwriaeth hynod o ddefnyddiol i’r amlwg. Mae yna ffordd i fynd o hyd fodd bynnag, gan ein bod ar hyn o bryd wedi profi 3 o gyrsiau allan o 20 ar gyfer y gwasanaethau democrataidd. Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno profi mewn swmp ar ddiwedd y broses er mwyn sicrhau fod y cynnwys y gorau y gall fod erbyn diwedd y broses.

Hefyd fe fydd cynnwys y cwrs corfforaethol yn cael ei brofi i ddefnyddwyr a bydd hynny’n digwydd gyda phob un o’r platfformau dysgu posibl dros yr wythnosau sydd i ddod. Rydym yn gweithio gyda’r sefydliadau ar hyn o bryd i gael mynediad i’r systemau ar gyfer hyn a chynllunio sut y bydd yr Ymchwil Defnyddiwr yn gweithio i sicrhau cysondeb profi ar draws y gwahanol blatfformau.

Y sbrint nesaf (Sbrint 4!) fe fyddwn yn canolbwyntio ar ddatrysiadau posibl eraill yr hoffem eu harddangos, yn ogystal â phrofi ar gyfer y cynnwys a’r platfform, a’r archwiliadau profiad defnyddiwr parhaus o’r platfformau yr ydym wedi eu gweld eisoes. Rydym yn cyrraedd cyflwr sefydlog nawr lle mae’r gwaith yn fwy parhaus na chodi prosesau newydd, ac mae’n wych gweld hynny. Mae hefyd wedi bod yn wych i edrych yn ôl dros y blogiau eraill yr ydym wedi eu cyhoeddi a gweld y cynnydd o ddechrau’r prosiect hyd at nawr – da iawn dîm!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *