Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 2
Mae’r ail sbrint bron â gorffen – i le aeth y pythefnos diwethaf?!! Rydym newydd gwblhau ein hail sesiwn dangos a dweud, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaf i bawb am ein gwaith, felly dyma flog i grynhoi beth ddigwyddodd yn ystod y sbrint hwn…
Y tu ôl i’r llenni
Yn ystod y sbrint hwn, mae ein dogfennau cyllid wedi’u cymeradwyo a’u hanfon yn ôl i Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Cymru, felly mae cyllid y prosiect wedi’i gadarnhau a bydd ar gael ar ddiwedd y gwaith. Diolch yn fawr i’r Gronfa am gytuno i’n hariannu a’n helpu ni gyda’r broses! Rydym hefyd wedi penodi aelod olaf y tîm craidd, sef Suchet Budon, ein dylunydd cynnwys ar gyfer y cynnwys corfforaethol. Croeso Suchet! Os na wnaethoch chi lwyddo i gyrraedd y sesiwn dangos a dweud ddiwethaf, peidiwch â phoeni – bydd cyfle i chi ei weld yn y sesiwn nesaf yn sôn am gynnydd y gwaith ar y cynnwys corfforaethol.
Grŵp Llywio
Un peth na chawsom gyfle i sôn amdano, oherwydd nad oedd y digwyddiad wedi’i gynnal eto, oedd cyfarfod cyntaf Grŵp Llywio’r prosiect. Fe’i cynhaliwyd yn y prynhawn ar ôl y sesiwn dangos a dweud, ac roedd nifer dda yn bresennol, o ystyried ei bod yn wythnos olaf tymor yr haf, yng nghanol y tymor gwyliau. Gwnaethom siarad am nifer o wahanol bynciau ac rydym wedi gofyn i’r cynrychiolwyr am help gyda phethau fel rhannu’r gofynion o amgylch yr awdurdodau er mwyn rhoi gwybod i ni a oes unrhyw beth ar goll, helpu â gwaith archwilio cynnwys er mwyn i Suchet allu mapio pa gynnwys sydd gan awdurdodau, a rhoi gwybod i ni am blatfformau eraill dylem ni eu harchwilio. Y cynrychiolwyr fydd yr arweinydd cyfathrebu enwebedig ar gyfer y gwaith yn eu ALl hefyd, felly cysylltwch â nhw os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech wirfoddoli i gymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd profi i ddefnyddwyr. Rwyf wedi cynnwys rhestr ohonynt isod er mwyn i chi weld pwy yw eich cynrychiolydd. Roeddwn i am ddiolch yn fawr i bawb a lwyddodd i fynychu – yn enwedig oherwydd bod cysylltiad rhyngrwyd Sky wedi methu’r diwrnod hwnnw!
Arddangosiad Dysgu@Cymru
Rydym wedi cael arddangosiad gyda Dysgu@Cymru a rhannwyd y fideo gyda’r rhai a ymunodd â’r sesiwn dangos a dweud. Os hoffech y ddolen a’r gyfrinair i’w gweld, anfonwch e-bost ataf a gallaf eu hanfon atoch. Roedd yr arddangosiad yn seiliedig ar ddangos sut oedd gan y platfform botensial i fodloni gofynion ein defnyddwyr ac ar ôl y sesiwn, gofynnwyd i’r rhai a wyliodd yr arddangosiad am eu hadborth. Yr un grŵp yw hwn â’r grŵp a welodd yr arddangosiad Thinqi gwreiddiol, felly rydym yn sicrhau ein bod yn cynnal cysondeb o ran adborth ar gyfer pob arddangosiad. Diolch yn fawr i Julie a Donna am gynnal yr arddangosiad i ni – rydym yn gwerthfawrogi’n fawr!
Dylunio Cynnwys y Gwasanaethau Democrataidd
Rhoddodd Rachel, ein dylunydd cynnwys, y wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygu cynnwys y Gwasanaethau Democrataidd. Mae hi wedi bod yn brysur yn rhedeg 3 gweithdy creu cynnwys gydag arbenigwyr pwnc, ac mae 3 arall wedi’u trefnu. Mae Tom, ein hymchwilydd defnyddwyr, yn gweithio i sefydlu sesiynau profi i ddefnyddwyr gyda chynghorwyr i sicrhau bod pob un o’r cyrsiau a gaiff eu creu yn diwallu eu hanghenion defnyddiwr.
Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan, oherwydd dim ond gyda chyfranogiad pobl y mae’r broses dylunio cynnwys yn gweithio.
Y wybodaeth ddiweddaraf am waith profiad defnyddiwr
O ran y gwaith profiad defnyddiwr, dangosodd Mike y gwaith mae wedi bod yn ei wneud yn datblygu fframiau gwifren er mwyn profi’r cynnwys arnynt. Mae’n bwysig ein bod yn profi’r cynnwys yn rhywle niwtral fel nad yw’r system yn dylanwadu ar farn y profwyr – wedi’r cyfan, y cynnwys rydym ni’n ei brofi, nid pa mor ymarferol yw’r wefan, a’r dyluniad allanol. Mae Mike wedi creu’r cwrs cyntaf i’w brofi gan ddefnyddio Figma a’r Patrymau Dylunio GDS i gynhyrchu prototeip cywirdeb isel sy’n caniatáu i brofwyr roi cynnig ar y cynnwys newydd a darparu adborth, yn ogystal â rhoi cyfle i ni wneud addasiadau a newidiadau yn gyflym cyn ail-brofi.
Dylunio Cynnwys Corfforaethol
Mae’r gwaith cynnwys corfforaethol yn dechrau, ac mae’r gwaith hwn wedi’i rannu’n dri edefyn. Sef:
- Y llyfr chwarae
Llyfr chwarae yw hwn ar gyfer y rhai sy’n creu cyrsiau ar-lein er mwyn cwmpasu arfer gorau ar gyfer gwahanol fathau o gynnwys, hygyrchedd a sut olwg sydd ar gyrsiau ar-lein da. Mae angen iddo fod yn hawdd i’w ddarllen a chynnwys yr holl bethau mae angen i grewyr cynnwys eu hystyried a’u deall cyn iddynt ddechrau dylunio cyrsiau. - Archwilio
Mae hwn yn archwiliad o’r cynnwys presennol sy’n eiddo i bob ALl. O hyn, gallwn ddeall tirlun y cynnwys hyfforddiant ar draws ALl yng Nghymru, faint o wahanol gyrsiau sydd ar yr un pwnc a lle cânt eu cynnal. - Cyrsiau
Mae hwn yn brawf i weld a allwn ni greu cynnwys y gellir ei rannu ar draws ALl. Ar hyn o bryd, mae gan bob un o’r ALl eu fersiynau eu hunain o gynnwys ar yr un pwnc – a allwn ni ddod â hynny ynghyd a chreu’r cwrs gorau posibl a mwyaf ymgysylltiol sy’n gweithio i ddefnyddwyr? Rydym yn chwilio am 3-5 o gyrsiau wedi’u creu o’r holl bethau da sydd ar gael yn barod gan ALl. Byddwn yn profi hyn â gwirfoddolwyr hefyd pan fydd wedi’i greu.
Ein gwaith ar gyfer y sbrint nesaf fydd penderfynu sut rydym am werthuso’r holl wybodaeth byddwn ni’n ei chael er mwyn gwneud ein penderfyniad terfynol am ddatrysiadau a chynnwys, cwrdd â’r Gronfa Ddysgu i gael arddangosiad o’r platfform, gweithio i ddatblygu meysydd prawf ar y safleoedd i ddefnyddwyr eu profi a dechrau’r gwaith cynnwys corfforaethol o ddifrif..
Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw ran o’r gwaith hwn, anfonwch e-bost ataf a byddwn yn hapus i helpu.
Gadael Ymateb