Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 1

Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Sbrint 1

Rydym newydd orffen ein sbrint cyntaf dros gyfnod o bythefnos ar gyfer cyfnod alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad, a gwnaethom gynnal ein sesiwn dangos a dweud cyntaf yr wythnos diwethaf. Gadewch i ni gael cipolwg ar ein sbrint cyntaf a’r hyn sydd wedi digwydd hyd yma.

I roi diweddariad sydyn i chi am y prosiect, mae’r cyfnod alffa hwn o 10 wythnos yn edrych ar atebion ar gyfer profiad dysgu ar-lein a phlatfform rheoli ar gyfer cynghorau Caerffili, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, a’r cyfleoedd i rannu cynnwys ar draws y cynghorau. Dechreuodd y tri chyngor y gwaith hwn y llynedd ac maent wedi ymuno â ni yma yn y Tîm Digidol Llywodraeth Leol yn dilyn ein gwaith darganfod i wneud y gwaith ymchwil, gwaith am brofiad defnyddwyr, profion defnyddwyr ac i lunio penderfyniad ar ba ateb sy’n cwrdd â’r gofynion ac anghenion defnyddwyr. Byddwn yn gweithio gyda gwahanol ddarparwyr platfformau dysgu yn ogystal â staff o sawl awdurdod lleol i asesu pa mor addas yw’r platfformau wrth edrych ar y fframwaith gofynion penodol. Yn ogystal â darparu platfformau newydd, rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Learning@Wales, sef platfform dysgu presennol Llywodraeth Cymru. Rwyf yn fwriadol wedi cadw’r cyflwyniad hwn at y briff gwaith ond os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch anfonwch e-bost ataf a byddaf bob amser yn hapus i sgwrsio â chi.

Gwnaethom ddechrau’r sbrint cyntaf ddydd Llun 9 Awst a daeth i ben ddydd Gwener 20 Awst. Ar gyfer y sbrint hwn, gwnaethom ganolbwyntio ar sefydlu ein prosesau a’n tîm. Gwnaethom sicrhau bod gennym seremonïau a sesiynau dangos a dweud wedi eu trefnu, gosod ein bwrdd Kanban a sicrhau ei fod yn hygyrch, a dechrau cynllunio a chyflwyno cam cyntaf y gwaith.

Dylunwyr Cynnwys

Gwnaethom hefyd gyflogi dau ddylunydd cynnwys newydd ar gontract, sef Rachel a Suchet, a dechreuodd Rachel weithio yn ystod y sbrint hwn. Mae Rachel yn gweithio ar ddatblygu cyrsiau’r Gwasanaethau Democrataidd a’u gwneud yn gynnwys digidol sy’n haws ymgysylltu â nhw, yn barod ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ym Mai 2022. Mae Rachel wedi datblygu rhythm a phroses ar gyfer creu cynnwys, iteru a phrofi, a dechreuodd weithio gyda’n Hymchwilydd Defnyddwyr, Tom, i drefnu sesiynau profi ar gyfer defnyddwyr gyda’n gwirfoddolwyr. Diolch o galon i bawb sy’n cymryd rhan yn y gweithdai creu a’r sesiynau profi i ddefnyddwyr – ni allen ni wneud hyn heboch chi!

Profiad Defnyddwyr

Rydym hefyd wedi cyflogi Mike fel Dylunydd UX ar gontract, sydd wedi bod yn gweithio gyda Tom i ddatblygu sawl persona yn seiliedig ar y gwahanol rolau swyddi/mathau o ddefnyddwyr yn y fframwaith gofynion. O ran UX (Profiad Defnyddwyr) mae Mike wedi bod yn casglu’r gwaith a wnaed yn y cyfnod darganfod ac mae wedi dechrau archwiliad ar Learning@Wales, gan ganolbwyntio ar argymhellion .LLYW ar gyfer Hygyrchedd, IA (Pensaernïaeth Gwybodaeth) a phatrymau UX, yn ogystal ag adolygu teithiau presennol defnyddwyr, yn seiliedig ar bersona ac anghenion defnyddwyr.

Platfformau Dysgu

Fel rhan o’r prosiect, rydym yn asesu’r platfformau dysgu presennol sydd ar gael. Rydym eisoes wedi cael demo o gynnyrch o’r enw Thinqi, cyn i’r cyfnod alffa gychwyn, fel rhan o’r gwaith roedd Caerffili yn arwain arno. Ein cam nesaf fydd asesu Learning@Wales yn erbyn yr un fframwaith gofynion, ac yn Sbrint 1 gwnaethom drefnu demo ar gyfer y tîm a fu’n ei ddatblygu er mwyn dangos sut mae’n gweithio. Digwyddodd hyn yn Sbrint 2 a byddwn yn cynnwys mwy am hyn yn ein diweddariad nesaf. Byddwn hefyd yn edrych ar blatfformau eraill ac yn eu profi wrth i’r sbrintiau gael eu cynnal.

Grwpiau Llywio

Rydym hefyd wedi dechrau gwaith i ddatblygu’r grŵp llywio ar gyfer y prosiect ac wedi gofyn am gynrychiolwyr o bob awdurdod lleol – rydym wedi cael ymateb gwych felly diolch i bawb sydd wedi ymateb. Bydd y grŵp llywio hwn yn rhoi fframwaith ac arweiniad ar gyfer y prosiect ac yn helpu i sicrhau bod y gwaith yn cael ei rannu’n ehangach yn yr Awdurdodau Lleol i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd – gall hyn fod yn anodd gan fod yr Awdurdodau wedi eu lledaenu mor eang.

Ein sesiwn edrych yn ôl

Ar ddiwedd y sbrint, gwnaethom gynnal ein sesiwn edrych yn ôl i weld sut mae’r tîm yn dod yn ei flaen hyd yma, yr hyn a fu’n llwyddiant, yr hyn sydd angen ei wella a’n camau nesaf. O ran llwyddiannau, rydym yn cyfathrebu’n dda, yn cydweithio’n dda ac rydym yn helpu a chefnogi ein gilydd i ateb cwestiynau a llenwi’r bylchau yn ein gwybodaeth, sy’n wych. Mae gennym awyrgylch da o ran gwybod nad oes gan unrhyw un yr ateb i bopeth, ac rydym yn rhannu barn am y camau nesaf, gan gofio bob amser bod gan rai aelodau o’r tîm swyddi dyddiol yn ogystal â’r gwaith hwn. O ran gwelliannau, rydym yn awyddus i symud y gwaith cynnwys yn ei flaen yn gyflym er mwyn sicrhau y gallwn gwrdd â therfynau amser, ac i gynllunio ein dulliau cyfathrebu gyda’r Grŵp Llywio fel y gallwn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd, ac er mwyn ein helpu i lunio penderfyniadau.

Aeth ein sesiwn dangos a dweud cyntaf yn arbennig o dda, cawsom gyfranwyr ardderchog o’r Awdurdodau Lleol a gofynnwyd cwestiynau da ar ddiwedd y sesiwn. Rydym yn gobeithio y cawn fwy ohonynt wrth i’r prosiect ddatblygu er mwyn ein cadw ar flaenau ein traed!

Mae croeso i chi anfon y blog hwn at unrhyw un a fyddai â diddordeb a chofiwch gysylltu â ni os hoffech chi gael gwahoddiad i’n sesiwn dangos a dweud a gynhelir bob pythefnos. Ymlaen â ni i Sbrint 2 cynhyrchiol, yn llawn cyffro!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *