Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad: Canlyniadau
Ddiwedd mis Tachwedd 2021, cynhaliwyd y sesiwn sbrint a chrynhoi olaf ar gyfer Alffa’r Platfform Systemau Rheoli Dysgu/Profiad! Gan ei bod hi bellach yn flwyddyn newydd, roeddem yn credu y byddai’n amser da i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi ar y gwaith mewn perthynas ag alffa a’r camau nesaf.
Canlyniadau
Yn ystod ein sbrint olaf (Sbrint 8) a’r wythnosau yn dilyn hynny, cwblhaom ein hymchwil defnyddwyr a’n harchwiliad i brofiad ddefnyddwyr, a’r canlyniadau yn y matrics gwerthuso. Crynhowyd y wybodaeth hon mewn adroddiad terfynol a’i anfon at dîm Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Cymru i’w ddarllen.
Rhannom ganlyniadau’r platfform unigol gyda pherchnogion y platfform hefyd er mwyn iddynt fedru gweld canlyniadau’r profion a’r adborth ar gyfer eu safle, a chawsom gyfarfod gyda nhw i drafod y canlyniadau. Yn ogystal â hynny, fe wnaethom gyfarfod â’r Grŵp Llywio a chynnal sesiwn Dangos a Dweud i rannu canlyniad yr adroddiad.
Y canlyniad terfynol oedd ein bod yn argymell Thinqi as the online learning experience and management system for Caerphilly, Blaenau Gwent, and Merthyr Tydfil councils. We’re also aware from our Steering Group sessions that there are 15 other local authorities who are interested in further work around this.
Y camau nesaf
Gan fod yr adroddiad bellach wedi cael ei gyflwyno, bydd yn rhaid ni aros am ganlyniad gan y Gronfa. Os byddant yn cytuno bod modd symud i’r cyfnod beta, bydd Rheolwr Cyflawni newydd yn arwain ar y darn o waith hwn. Bydd yn rhaid cyflwyno’r platfform i unrhyw awdurdod sydd â diddordeb, ailgynnull y grŵp llywio a chynnig cyfle i ychwanegu at neu ddiwygio gofynion y ddogfen er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion awdurdodau eraill – a dim ond megis dechrau yw hyn! Os byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith beta, byddwn yn rhannu blogiau am y camau nesaf unwaith y bydd wedi dechrau. Cadwch lygad allan am hyn!
Os hoffech chi ddarllen blogiau’r prosiect hwn, gallwch ddod o hyd iddynt yma.
Gadael Ymateb